Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth, 18 Hydref 2011

Tuesday, 18 October 2011


Cynnwys
Contents

 

3......... Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

 

31....... Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

 

35....... Datganiad: Lansio Ymgynghoriad ar yr Angen i Gyflwyno Deddfwriaeth i Sicrhau Caniatâd Rhieni ar gyfer Prosesau Tyllu Cosmetig ar Bobl Ifanc
Statement: Launch of a Consultation on the Need to Introduce Legislation to Ensure Parental Consent for Cosmetic Piercing Procedures Carried out on Young People

 

46....... Datganiad: Cynnydd ynghylch Newid yn yr Hinsawdd o ran Lleihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a Pharatoi ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd
Statement: Climate Change Progress on Reducing Greenhouse Gas Emissions and Preparing for Climate Change

 

59....... Cynnig i Gymeradwyo Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
Motion to Approve the Protection from Tobacco (Sales from Vending Machines) (Wales) Regulations 2011

 

65....... Cynigion i Gymeradwyo Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011
Motions to Approve the Mental Health (Independent Mental Health Advocates) Wales Regulations 2011 and the Mental Health (Assessment of Former Users of Secondary Mental Health Services) (Wales) Regulations 2011

 

72....... Yr Adolygiad o Gymwysterau
The Qualifications Review

 

96....... Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

100..... Dadl Fer a Ohiriwyd er 5 Hydref 2011: Diwygio Amodau Deiliadaeth y Sector Rhentu Preifat
Short Debate Postponed from 5 October 2011:  Reforming the Conditions of Tenure within the Private Rented Sector

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In addition, an English translation of Welsh speeches is included.

 

 

 

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m. gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.

The Assembly met at 1.30 p.m. with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

 

Y Llywydd: Prynhawn da. Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

The Presiding Officer: Prynhawn da. I call the National Assembly for Wales to order. 

 

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

 

Cyfleoedd Cyflogaeth

Employment Opportunities

 

1. Lindsay Whittle: A wnaiff y Prif Weinidog egluro sut y mae ef a’i Lywodraeth yn mynd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yng Nghymru. OAQ(4)0170(FM)

1. Lindsay Whittle: Will the First Minister explain how he and his Government are going to increase employment opportunities for young people in Wales. OAQ(4)0170(FM)

 

The First Minister (Carwyn Jones): Increasing employment opportunities for young people remains a key priority for the Welsh Government. That is why we implemented our new employability programmes in August, and why we have introduced measures to extend apprenticeships. We are also establishing Jobs Growth Wales, which will create 4,000 training and apprenticeship places each year for young people aged 16 to 24.

 

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Mae cynyddu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y bu i ni weithredu ein rhaglenni cyflogadwyedd newydd ym mis Awst, a pham yr ydym wedi cyflwyno mesurau i ymestyn prentisiaethau. Rydym hefyd yn sefydlu Twf Swyddi Cymru, a fydd yn creu 4,000 o gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth bob blwyddyn ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed.

 

Lindsay Whittle: It is a very credible target, but, in the present economic situation, youth unemployment has risen by 15 per cent compared with this time last year. Can you please tell me, First Minister—because I do not think that it has been fully explained—how you intend to achieve this target?

 

Lindsay Whittle: Mae’n darged credadwy iawn, ond, yn y sefyllfa economaidd bresennol, mae diweithdra ymhlith pobl ifanc wedi codi 15 y cant o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. A allwch ddweud wrthyf, Brif Weinidog—oherwydd nid wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei esbonio yn llawn—sut yr ydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwn?

 

The First Minister: Through Jobs Growth Wales, as we have already illustrated, and we have already launched that, and the programmes that were introduced on 1 August this year, among other programmes as well.

 

Y Prif Weinidog: Drwy Twf Swyddi Cymru, fel yr ydym eisoes wedi ei ddangos, ac yr ydym eisoes wedi lansio hynny, a’r rhaglenni a gyflwynwyd ar 1 Awst eleni, ymhlith rhaglenni eraill hefyd.

 

Julie James: The UK Government is failing to support young people, as clearly shown by the fact that youth unemployment has risen to 991,000 this year—the highest since records began in 1992—with over a fifth of eligible 16 to 24-year-olds being out of employment. The UK Government’s policies clearly do not work. Here in Wales, we are tackling this head on with the Jobs Growth Wales programme, which, as we have heard, will provide 4,000 places for young people in Wales this year. Can the First Minister update the Assembly regarding current apprenticeships and youth training schemes to aid our priorities here in Wales?

 

Julie James: Mae Llywodraeth y DU yn methu â chefnogi pobl ifanc, fel y dangosir yn glir gan y ffaith bod diweithdra ymhlith pobl ifanc wedi codi i 991,000 eleni-yr uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1992-gyda thros un o bob pump o bobl 16 i 24 oed cymwys heb gyflogaeth. Mae’n amlwg nad yw polisïau Llywodraeth y DU yn gweithio. Yma yng Nghymru, rydym yn mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol drwy raglen Twf Swyddi Cymru, a fydd, fel y clywsom, yn darparu 4,000 o leoedd i bobl ifanc yng Nghymru eleni. A all y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynghylch prentisiaethau a chynlluniau hyfforddi ieuenctid cyfredol i gynorthwyo ein blaenoriaethau yma yng Nghymru?

 

The First Minister: On 1 August, we launched our traineeship programme for 16 to 18-year-olds and also the Steps to Employment programme for adults aged 18 and over. We also have the Pathways to Apprenticeships programme, the young recruits programme and the apprenticeship matching service in addition to Jobs Growth Wales.

 

Y Prif Weinidog: Ar 1 Awst, lansiwyd ein rhaglen hyfforddeiaeth ar gyfer pobl 16 i 18 oed a hefyd y rhaglen Camau at Waith i oedolion 18 oed a throsodd. Mae gennym hefyd y rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau, y rhaglen recriwtiaid ifanc a’r gwasanaeth paru prentisiaethau yn ogystal â Twf Swyddi Cymru.

 

Mohammad Asghar: Small and medium-sized businesses are the lifeblood of the Welsh economy. As you will be aware, if every small and medium-sized enterprise hired an additional member of staff, everyone who wanted a job in Wales could have one. Given the role that the flourishing SME sector could play in increasing employment opportunities, are you concerned that the Federation of Small Businesses feels that your 2011 manifesto largely ignored SMEs, and do you agree, First Minister, that failure to offer sufficient support to the SME sector will do nothing in terms of increasing employment opportunities for Wales’s young people?

 

Mohammad Asghar: Busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru. Fel y gwyddoch, pe bai pob busnes bach a chanolig eu maint yn cyflogi aelod ychwanegol o staff, gallai pawb a oedd eisiau swydd yng Nghymru gael un. O ystyried y rôl y gallai’r sector busnesau bach a chanolig, sy’n ffynnu, chwarae wrth gynyddu cyfleoedd cyflogaeth, a ydych yn pryderu bod y Ffederasiwn Busnesau Bach yn teimlo bod eich maniffesto yn 2011 yn anwybyddu busnesau bach a chanolig i raddau helaeth, ac a ydych yn cytuno, Brif Weinidog, y bydd methu â chynnig digon o gefnogaeth i’r sector busnesau bach a chanolig yn gwneud dim o ran cynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc Cymru?

 

The First Minister: Let me give you an example that I heard last week from a small retailer based in the McArthur Glen shopping centre. He said to me that, as a result of the levy on single-use carrier bags, he would save some £2,000 a year, which is a significant amount, and I am sure that there are other retailers who are also benefitting from that. It is the equivalent to a substantial business rate relief.

 

Y Prif Weinidog: Gadewch imi roi enghraifft a glywais yr wythnos diwethaf gan fanwerthwr bach sydd wedi ei leoli yng nghanolfan siopa McArthur Glen. Dywedodd wrthyf, yn sgîl yr ardoll ar fagiau siopa untro, y byddai’n arbed tua £2,000 y flwyddyn, sydd yn swm sylweddol, ac yr wyf yn sicr bod manwerthwyr eraill sydd hefyd yn elwa o hynny. Mae’n cyfateb i ryddhad ardrethi busnes sylweddol.

 

Eluned Parrott: First Minister, I am sure that you will remember that one of my concerns about the Future Jobs Fund, and now Jobs Growth Wales, was the fact that the placements were six months in length, and I was hoping that we would be able to look for ways in which we could improve the sustainability of those placements. Last week, I was lucky enough to visit a mental health charity in my constituency that had set up a social enterprise for young people. Will you consider using some of the £38 million consequential announced last week to support the creation of more such social enterprises?

 

Eluned Parrott: Brif Weinidog, yr wyf yn siŵr y byddwch yn cofio mai un o fy mhryderon am Gronfa Swyddi’r Dyfodol, ac yn awr Twf Swyddi Cymru, oedd y ffaith bod y lleoliadau yn chwe mis o hyd, ac yr oeddwn yn gobeithio y byddem yn gallu edrych am ffyrdd y gallem wella cynaliadwyedd y lleoliadau hynny. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld ag elusen iechyd meddwl yn fy etholaeth a oedd wedi sefydlu menter gymdeithasol i bobl ifanc. A wnewch chi ystyried defnyddio rhan o’r £38 miliwn o gyllid canlyniadol a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i gefnogi creu mwy o fentrau cymdeithasol o’r fath?

 

The First Minister: The consequential is a matter of discussion between the different parties. The Future Jobs Fund was abolished by the Member’s party, as we know, to the great regret of many of us in this Chamber, and Jobs Growth Wales is designed to pick up some of the slack that was left when that scheme disappeared.  

Prif Weinidog: Mae’r cyllid canlyniadol yn fater i’w drafod rhwng y gwahanol bleidiau. Diddymwyd Cronfa Swyddi’r Dyfodol gan blaid yr Aelod, fel y gwyddom, sy’n ofid mawr i lawer ohonom yn y Siambr hon, ac mae Twf Swyddi Cymru wedi’i gynllunio i glirio rhywfaint o’r gwaith a adawyd pan ddiflannodd y cynllun hwnnw. 

 

Alun Ffred Jones: Gwelais bod Llafur wedi cynhyrchu cynllun pum pwynt i adfer yr economi yng Nghymru, ond dim ond un o’r pwyntiau hynny sy’n berthnasol i’ch Llywodraeth, sef cynllun i helpu i ddod â chynlluniau cyfalaf ymlaen. Pryd y byddwch yn cyhoeddi’r cynllun hwn?

 

Alun Ffred Jones: I saw that Labour had produced a five-point plan to regenerate the economy in Wales, but only one of those points is relevant to your Government, and that is the scheme to help bring capital spending plans forward. When will you announce that plan?

 

Y Prif Weinidog: Mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd ac mae gennym record dda ar gyhoeddi rhaglenni i helpu pobl gael gwaith, fel y mae tystiolaeth o fis Awst a’r wythnosau diwethaf yn ei ddangos.

 

The First Minister: This is something we are currently considering, and we have a good record of announcing programmes to assist people in finding employment, as the evidence from August and the past few weeks shows.

 

Y System Fudd-daliadau

 

The Benefits System

 

2. Keith Davies: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau ar unigolion ac ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0174(FM)

 

2. Keith Davies: What assessment has the Welsh Government made of the effects on individuals and public services in Wales, of the UK Government’s changes to the benefit system. OAQ(4)0174(FM)

 

4. Llyr Huws Gruffydd: Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o oblygiadau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau i unigolion ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0169(FM)

 

4. Llyr Huws Gruffyd: What assessment has the First Minister made of the implications of the UK Government’s changes to the benefit system on individuals and public services in Wales. OAQ(4)0169(FM)

 

8. Sandy Mewies: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ganlyniadau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau i unigolion ac i wasanaethau cyhoeddus. OAQ(4)0175(FM)

 

8. Sandy Mewies: What assessment has the Welsh Government made of the consequences for individuals and public services of the UK Government’s changes to the benefit system. OAQ(4)0175(FM)

 

9. Rebecca Evans: A yw’r Prif Weinidog wedi gwneud unrhyw asesiad o’r canlyniadau i unigolion ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau. OAQ(4)0182(FM)

 

9. Rebecca Evans: Has the First Minister made any assessment of the consequences to individuals and public services in Wales resulting from the UK Government’s changes to the benefit system. OAQ(4)0182(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae gennyf amheuon difrifol am newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol er mwyn gwneud asesiad cynhwysfawr o effeithiau’r newidiadau hyn.

 

The First Minister: I have serious reservations about the UK Government’s proposed changes. A ministerial task and finish group has been established to make a comprehensive assessment of the effects of these changes.

 

Keith Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Mae’r newidiadau arfaethedig i’r system budd-daliadau yn rhai gofidus dros ben. Felly, yr wyf yn falch bod ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i liniaru eu heffaith. Mae’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol yn cynnwys hawlwyr lwfans byw i’r anabl a lwfans cyflogaeth a chymorth. Bydd yr hawl gan y rhai sy’n byw mewn cartrefi preswyl awdurdodau lleol i gael lwfans byw i’r anabl yn cael eu tynnu yn ôl. Tra fy mod yn derbyn nad yw hyn yn fater datganoledig, mae sawl un o’m hetholwyr yn derbyn y budd-daliadau hyn, ac a fyddech yn cytuno y bydd hyn yn cael effaith negatif iawn?

 

Keith Davies: Thank you for that response, First Minister. The proposed changes to the benefits system are very concerning indeed. Therefore, I am pleased that there is a commitment in the programme for government to alleviate their effects. Those who will be directly affected include those claiming disability living allowance and employment and support allowance. The right of those living in local government care homes to claim disability living allowance will be withdrawn. Although I accept that this is a non-devolved matter, many of my constituents receive these benefits, and do you agree that this will have a very negative impact?

 

Y Prif Weinidog: Byddwn, wrth gwrs. Mae’n rhaid gwneud asesiad o ba mor negatif y bydd effaith y newidiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud.

The First Minister: I do, of course. An assessment needs to be made of how negative the impact of the changes that the UK Government is making will be.

 

Llyr Huws Gruffydd: Brif Weinidog, a wnewch ymuno â mi wrth gefnogi’r diwrnod o weithredu gan bobl anabl y dydd Sadwrn yma fel rhan o’r ymgyrch yn erbyn y toriadau yr ydych wedi cyfeirio atynt? Mae amcangyfrif y bydd y toriadau yn gweld £450 miliwn yn cael ei golli gan bobl anabl yng Nghymru dros bedair blynedd. Yn eich rhaglen lywodraeth, yr ydych yn dweud y byddech yn lliniaru effaith y newidiadau i’r system budd-daliadau, ond sut allwch chi wneud hynny’n effeithiol heb gael y pwerau ac adnoddau dros y meysydd hyn wedi’u datganoli?

 

Llyr Huws Gruffydd: First Minister, will you join me in supporting the day of action by disabled people this Saturday as part of the campaign against cuts that you have mentioned? There is an estimate that the cuts will see £450 million lost by disabled people in Wales over a period of four years. In your programme for government, you state that you will attempt to alleviate the effects of changes to the benefit system, but how can you do that effectively without having the powers and resources over these areas devolved?

 

Y Prif Weinidog: Dyna fydd y grŵp gweinidogol yn ei wneud, ond yr wyf yn cefnogi’r hyn a ddywedasoch ynghylch pryderon pobl anabl o ran y newidiadau sydd yn dod o Lywodraeth y DU.

The First Minister: That is what the ministerial task and finish group will be doing, but I support what you said about the concerns of disabled people with regard to the changes coming from the UK Government.

 

Sandy Mewies: First Minister, I am sure that you will join me in welcoming representatives from the Hardest Hit campaign, representing the various disability charities, who will be taking part this Saturday. They are in the public gallery today and have come to share their concerns with Assembly Members. You are probably also aware that disabled people in Wales will lose an estimated £450 million over the next four years due to benefit changes. Like me, will you welcome the fact that Members of all political parties in this Chamber have signed the statement of opinion on this issue that I have raised? Will you reassure us once more that you will do all you can as a Government to ameliorate the impact that these changes will have on the people of Wales?

 

Sandy Mewies: Brif Weinidog, yr wyf yn siŵr yr ymunwch â mi i groesawu cynrychiolwyr o’r ymgyrch Hardest Hit, sy’n cynrychioli’r amrywiol elusennau anabledd, a fydd yn cymryd rhan ddydd Sadwrn. Maent yn yr oriel gyhoeddus heddiw ac maent wedi dod i rannu eu pryderon gydag Aelodau’r Cynulliad. Mae’n debyg eich bod hefyd yn ymwybodol y bydd pobl anabl yng Nghymru yn colli tua £450 miliwn dros y pedair blynedd nesaf oherwydd newidiadau i fudd-daliadau. Fel fi, a wnewch groesawu’r ffaith bod Aelodau pob plaid wleidyddol yn y Siambr hon wedi llofnodi’r datganiad barn ar y mater hwn yr wyf wedi’i godi? A wnewch chi ein sicrhau unwaith eto y byddwch yn gwneud popeth y gallwch fel Llywodraeth i liniaru’r effaith y bydd y newidiadau hyn yn eu cael ar bobl Cymru?

 

The First Minister: I welcome those representatives here today. Clearly, they will share our great concern about what these changes will mean. We believe that the changes will be detrimental, as I have already outlined. That is why the ministerial group will be making an assessment of those changes. We will also see what we can do to ameliorate the effect of the proposals that have been put forward.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn croesawu’r cynrychiolwyr hynny yma heddiw. Yn amlwg, byddant yn rhannu ein pryder mawr ynghylch yr hyn y bydd y newidiadau hyn yn ei olygu. Rydym yn credu y bydd y newidiadau yn niweidiol, fel yr wyf eisoes wedi ei amlinellu. Dyna pam y bydd y grŵp gweinidogol yn gwneud asesiad o’r newidiadau hynny. Byddwn hefyd yn gweld beth y gallwn ei wneud i liniaru effaith y cynigion sydd wedi eu rhoi gerbron.

 

Rebecca Evans: I will be marching alongside people with disabilities and their families on Saturday. As we have heard, some of those people are in the public gallery this afternoon. The people marching on Saturday represent the tip of the iceberg. Many disabled people will be too physically, mentally or financially vulnerable to add their voices to the protest. How will the Welsh Government ensure that it listens to the voices of all disabled people in its attempts to mitigate the effects of the cuts?

 

Rebecca Evans: Byddaf yn gorymdeithio gyda phobl ag anableddau a’u teuluoedd ddydd Sadwrn. Fel y clywsom, mae rhai o’r bobl hynny yn yr oriel gyhoeddus y prynhawn yma. Mae’r bobl a fydd yn gorymdeithio ddydd Sadwrn yn cynrychioli crib y mynydd iâ. Bydd llawer o bobl anabl yn rhy fregus yn gorfforol, yn feddyliol neu’n ariannol i ychwanegu eu lleisiau at y brotest. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn gwrando ar leisiau’r holl bobl anabl yn ei hymdrechion i liniaru effeithiau’r toriadau?

 

The First Minister: In line with the Welsh specific equality duties, we will be listening to disabled people and their representative organisations so that we hear from as many people as possible about the issues that affect them most.

 

Y Prif Weinidog: Yn unol â’r dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymreig, byddwn yn gwrando ar bobl anabl a’u sefydliadau cynrychioliadol fel ein bod yn clywed gan gymaint o bobl â phosibl am y materion sy’n effeithio arnynt fwyaf.

 

Antoinette Sandbach: Now that it is Labour policy that people should not, as Ed Miliband said, get something for nothing, will the First Minister join me in congratulating the Westminster Government on moving towards a tax and benefits system that will ensure that anyone able to work will always be better off with a job than unemployed? Will he agree that the bold move to raise the basic income tax threshold to £10,000 and the elimination of punitive marginal tax rates—up to 96 per cent in some instances—that trap people wanting to move from welfare into work are welcome steps towards eradicating the intergenerational worklessness and poverty that has blighted families and communities in north Wales?

 

Antoinette Sandbach: Yn awr ei bod yn bolisi Llafur na ddylai pobl, fel y dywedodd Ed Miliband, gael rhywbeth am ddim, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Llywodraeth San Steffan ar symud tuag at system dreth a budd-daliadau a fydd yn sicrhau bod unrhyw un sy’n gallu gweithio bob amser yn well eu byd gyda swydd nag yn ddi-waith? A fyddai’n cytuno bod y symudiad beiddgar i godi’r trothwy treth incwm sylfaenol at £10,000 a dileu cyfraddau treth ymylol cosbol—hyd at 96 y cant mewn rhai achosion—sy’n trapio pobl sydd am symud o fudd-dal i waith yn gamau i’w croesawu tuag at ddileu y diweithdra a’r tlodi sy’n pontio’r cenedlaethau sydd wedi difetha teuluoedd a chymunedau yn y gogledd?

 

The First Minister: What we are talking about here are changes that penalise disabled people, some of whom can work and want to work, and some of whom are unable to work. The context in which the question was asked was with regard to the effects on them. It is unfortunate that the UK Government feels that it is disabled people who should be penalised.

 

Y Prif Weinidog: Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yma yw newidiadau sy’n cosbi pobl anabl, rai ohonynt yn gallu gweithio ac yn awyddus i weithio, ac eraill yn methu â gweithio. Roedd cyd-destun y cwestiwn yn ymwneud â’r effeithiau arnynt. Mae’n anffodus bod Llywodraeth y DU yn teimlo mai pobl anabl a ddylai gael eu cosbi.

 

Angela Burns: That is not my reading of the UK Government’s stance whatsoever, First Minister. I am not surprised that you are not prepared to offer even a modicum of agreement to those proposals despite, as my colleague has said, Ed Miliband’s robust statement about the fact that it needs to be changed. It will have made uncomfortable reading, but I am sure that you will have read the Institute for Fiscal Studies’ report on the benefits system. When your ministerial task and finish group looks at this subject, rather than it just looking at it in a negative way to complain about what you may think is wrong in it, I urge you to ask your task and finish group to look at what it should be doing to ensure that we get poor people out of that poverty trap and workless people back into work that sustains them financially and emotionally.

 

Angela Burns: Nid dyna fel yr wyf fi’n deall safbwynt Llywodraeth y DU o gwbl, Brif Weinidog. Nid wyf yn synnu nad ydych yn barod i gynnig hyd yn oed ronyn o gytundeb i’r cynigion hynny er gwaethaf, fel y mae fy nghydweithiwr wedi ei ddweud, datganiad cadarn Ed Miliband am y ffaith bod angen ei newid. Ni fydd wedi bod yn hawdd i’w ddarllen, ond yr wyf yn siŵr y byddwch wedi darllen adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar y system fudd-daliadau. Pan fydd eich grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol yn edrych ar y pwnc hwn, yn hytrach na’i fod ddim ond yn edrych arno mewn ffordd negyddol i gwyno am yr hyn a allai yn eich barn chi fod yn anghywir ynddo, yr wyf yn eich annog i ofyn i’ch grŵp gorchwyl a gorffen edrych ar yr hyn y dylai fod yn ei wneud i sicrhau ein bod yn cael pobl dlawd allan o’r fagl tlodi a phobl ddi-waith yn ôl i waith sy’n eu cynnal yn ariannol ac yn emosiynol.

 

The First Minister: Work should pay, no-one would disagree with that, but we are talking here about people who are disabled, and, on the basis of these proposals, they are being penalised. These are not my words; they are their thoughts. I suggest you speak to them. I agree, of course, that it is important that people have access to jobs and training, which is why the UK Government needs to change its mind and ensure that it conducts and takes forward policies that provide the jobs and training that people require. There is no point encouraging people to work if there is no work available. Both have to run together.

Y Prif Weinidog: Dylai gwaith dalu, fyddai neb yn anghytuno â hynny, ond yr ydym yn sôn yma am bobl sy’n anabl, ac, ar sail y cynigion hyn, maent yn cael eu cosbi. Nid fy ngeiriau i yw’r rhain; eu meddyliau hwy ydynt. Rwy’n awgrymu eich bod yn siarad â hwy. Yr wyf yn cytuno, wrth gwrs, ei bod yn bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad at swyddi a hyfforddiant, a dyna pam mae angen i Lywodraeth y DU newid ei meddwl a sicrhau ei bod yn cynnal ac yn bwrw ymlaen â pholisïau sy’n darparu’r swyddi a’r hyfforddiant y mae pobl eu hangen. Nid oes diben annog pobl i weithio os nad oes gwaith ar gael. Rhaid i’r ddau gyd-redeg.

 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Questions Without Notice from the Party Leaders

 

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): First Minister, earlier this year you outlined two key flagship health policies, one extending GP opening hours and the other about health checks for those aged over 50. Both have much to commend about them. However, on questioning your Minister for health, we were unable to find out the costing or workings of these programmes. Are you able to provide the costing of these programmes today?

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Brif Weinidog, yn gynharach eleni, fe wnaethoch chi amlinellu dau bolisi iechyd arloesol allweddol, un yn ymestyn oriau agor meddygon teulu a’r llall am archwiliadau iechyd ar gyfer y rhai dros 50 oed. Mae llawer i’w ganmol am y ddau. Fodd bynnag, wrth holi eich Gweinidog dros iechyd, nid oeddem yn gallu dod o hyd i’r costio na’r prosesau ar gyfer y rhaglenni hyn. A ydych yn gallu darparu costio y rhaglenni hyn heddiw?

 

The First Minister: There is no cost to extending GP opening hours. All that we are asking them to do is to re-jig their hours to provide a better service for the people whom they serve; that is crucial. We are not suggesting that GPs should work longer hours or more hours; it would be the same hours, but we want to make sure that they are more flexible.

 

Y Prif Weinidog: Nid oes unrhyw gost i ymestyn oriau agor meddygon teulu. Y cyfan yr ydym yn gofyn iddynt ei wneud yw ailwampio eu horiau i ddarparu gwasanaeth gwell i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu; mae hynny’n hollbwysig. Nid ydym yn awgrymu y dylai meddygon teulu weithio oriau hirach na mwy o oriau; yr un oriau fyddai yna, ond rydym am wneud yn siŵr eu bod yn fwy hyblyg.

 

Andrew R.T. Davies: Are you really trying to tell the Chamber that there are no cost implications to increasing GP opening hours and re-negotiating the GP contract? Time and again the facts have been put before you: the Wales Audit Office said last week that the Welsh NHS will have the poorest settlement of the NHS in the United Kingdom. You have brought these flagship policies forward in a document that you have said was the most scrutinised and consulted document that had ever been laid before the people of Wales. I would suggest that that is debatable. Is it not the case that both these policies were worked out on the back of fag packet, and that you have no idea how you will implement them or when people might benefit from them?

 

Andrew R.T. Davies: A ydych wir yn ceisio dweud wrth y Siambr nad oes unrhyw oblygiadau cost i gynyddu oriau agor meddygon teulu ac ail-negodi contract y meddygon teulu? Dro ar ôl tro mae’r ffeithiau wedi cael eu rhoi i chi: dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru yr wythnos diwethaf y bydd gan y GIG yng Nghymru y setliad GIG gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Yr ydych wedi dod â’r polisïau blaenllaw hyn ymlaen mewn dogfen yr ydych chi wedi’i ddweud yw’r ddogfen y craffwyd arni ac yr ymgynghorwyd arni fwyaf a oedd erioed wedi’i gosod gerbron pobl Cymru. Byddwn yn awgrymu y gellid dadlau ynglŷn â hynny. Onid y gwir yw bod y ddau bolisi hyn wedi cael eu gweithio allan ar gefn paced ffag, ac nad oes gennych unrhyw syniad sut y byddwch yn eu rhoi ar waith, na phryd y gallai pobl elwa ohonynt?

 

The First Minister: That is from a party who worked out its budget proposals on the back of a piece of paper, without any detail at all. The reality is that the proposal to ensure that GPs’ surgeries are more accessible was widely popular, and that is why people voted for us as a party and not for you. It is policy that is popular with the public, and one that the leader of the opposition would have done well to come up with himself. There are no extra costs. All we are doing, as I said, is to ask GPs to be more flexible in the hours that they work, and that is perfectly reasonable. Given that, this morning, we saw that there will be £20 billion in cuts to the NHS in England, I think the ground has been taken very firmly from underneath him.

 

Y Prif Weinidog: Mae hynny yn dod o   blaid sydd wedi gweithio allan ei chynigion cyllidebol ar gefn darn o bapur, heb unrhyw fanylion o gwbl. Y gwir amdani yw bod y cynnig i sicrhau bod meddygfeydd meddygon teulu yn fwy hygyrch yn boblogaidd iawn, a dyna pam y pleidleisiodd pobl drosom ni fel plaid ac nid chi. Mae’n bolisi sydd yn boblogaidd gyda’r cyhoedd, ac yn un y byddai arweinydd yr wrthblaid wedi gwneud yn dda i feddwl amdano ei hun. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol. Y cyfan yr ydym yn ei wneud, fel y dywedais, yw gofyn i feddygon teulu fod yn fwy hyblyg yn yr oriau y maent yn eu gweithio, ac mae hynny’n gwbl resymol. O gofio, y bore yma, inni weld y bydd £20 biliwn o ran toriadau i’r GIG yn Lloegr, rwy’n meddwl bod y gwynt wedi cael ei dynnu o’i hwyliau yn bendant iawn.

 

Andrew R.T. Davies: Come on, First Minister, the Wales Audit Office in Wales, the Auditor General for Wales, and every other organisation has highlighted that your Government is giving the Welsh NHS the poorest settlement of the NHS in the United Kingdom. However, as you constantly try to avert questions on the NHS, let us look at the department of the economy, and at the enterprise zones initiative that was announced by your Government, which was something that we on this side of the Chamber called for all through the summer. However, at the CBI lunch, you could not identify the consequentials. You were talking of a £5 million consequential. In the scrutiny session last week, your own Minister was acting a bit like a fish out of water when she was asked about the policy, how it would be implemented and what the money would be. Is it not the case that, time and again, when your Government is bringing policies forward, they are not thought through and they are not costed, and, ultimately, it is the Welsh taxpayer who falls foul of that? When is your Government going to stop working these policies out on the back of a fag packet and start implementing policies that meet the aspirations of the people of Wales?

Andrew R.T. Davies: Dewch ymlaen, Brif Weinidog, mae Swyddfa Archwilio Cymru yng Nghymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a phob sefydliad arall wedi dangos bod eich Llywodraeth yn rhoi setliad tlotaf y GIG yn y Deyrnas Unedig i’r GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, gan eich bod yn ceisio, drwy’r amser, osgoi cwestiynau ar y GIG, gadewch inni edrych ar adran yr economi, ac ar y fenter ardaloedd menter a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth, sef rhywbeth yr ydym ar yr ochr hon y Siambr wedi galw amdano drwy gydol yr haf. Fodd bynnag, yn ystod cinio’r CBI, nid oeddech yn gallu nodi’r symiau canlyniadol. Roeddech yn sôn am swm canlyniadol o £5 miliwn. Yn y sesiwn graffu’r wythnos diwethaf, roedd eich Gweinidog chi’ch hun yn gweithredu ychydig fel pysgodyn allan o ddŵr pan ofynnwyd iddi am y polisi, sut y byddai’n cael ei weithredu a beth fyddai’r arian. Onid yw’n wir, dro ar ôl tro, pan fydd eich Llywodraeth yn cyflwyno polisïau, nid ydynt wedi cael eu hystyried yn fanwl ac nid ydynt wedi’u costio, ac, yn y pen draw, y trethdalwr yng Nghymru sy’n dioddef oherwydd hynny? Pryd fydd eich Llywodraeth yn stopio gweithio’r polisïau hyn allan ar gefn pecyn sigarennau a dechrau gweithredu polisïau sy’n bodloni dyheadau pobl Cymru?

 

1.45 p.m.

 

The First Minister: Let us examine what the leader of the opposition says. He keeps on demanding £1 billion more for the NHS, £150 million on business rate relief—he is living in cloud-cuckoo-land. Our policies are well costed and the people of Wales supported those policies far more than they supported the policies put forward by his own party, as I have said now three times. There is no extra cost to making GP surgeries more accessible. We are simply asking people to be more flexible in the hours that they work. I think that that is perfectly reasonable. It is a shame that his party does not spend more time in examining its policies more carefully.

 

Y Prif Weinidog: Gadewch inni ystyried yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Y mae’n parhau i fynnu £1 biliwn yn fwy ar gyfer y GIG, £150 miliwn ar ryddhad ardrethi busnes—mae’n byw mewn byd ffantasi. Mae ein polisïau ni wedi’u costio’n dda ac roedd pobl Cymru yn cefnogi’r polisïau hynny yn llawer mwy nag oeddent yn cefnogi’r polisïau a gyflwynwyd gan ei blaid ei hun, fel yr wyf wedi ei ddweud deirgwaith yn awr. Nid oes unrhyw gost ychwanegol i wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch. Yn syml, yr ydym yn gofyn i bobl i fod yn fwy hyblyg gyda’r oriau maent yn eu gweithio. Credaf fod hynny’n hollol resymol. Mae’n drueni nad yw ei blaid ef yn treulio mwy o amser yn archwilio ei pholisïau yn fwy gofalus.

 

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Yn eich cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yr ydych yn rhoi £83 miliwn yn ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, mae naratif y gyllideb yn dweud bod yn rhaid i’r gwasanaeth wneud arbedion o £250 miliwn yn yr un flwyddyn, sydd yn swm aruthrol o gofio y bydd toriadau yn y gwasanaeth iechyd mewn termau real. A allwch ddweud wrthym heddiw faint o ysbytai y bydd yn rhaid eu cau a faint o wasanaethau y bydd yn rhaid eu canoli er mwyn sicrhau’r arbedion hynny?

 

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): In your budget for next year, you are giving an additional £83 million to the health service. However, the budget narrative states that the service will have to make savings of £250 million in the same year, which is a massive sum considering that there will be real-terms cuts in the health service. Can you tell us today how many hospitals will have to close and how many services will have to be centralised to secure those savings?

Y Prif Weinidog: Bydd £288 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i’r gwasanaeth iechyd. Rhaid cyfaddef bod pwysau, ond mae hynny oherwydd y setliad ariannol gawsom gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid oes dim cynlluniau i gau ysbytai. Yr ydym am sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaeth orau yn yr ardal fwyaf lleol posibl.

 

The First Minister: An additional £288 million will be put into the health service. There are pressures, it must be admitted, but that is because of the financial settlement that we received from teh UK Government. There are no plans to close hospitals. We want to ensure that people receive the best service as near to their location as possible.

Ieuan Wyn Jones: Yr ydych yn dweud y bydd £288 miliwn yn ychwanegol, ond mae’r arian hwnnw ar gyfer cyfnod y gyllideb—£83 miliwn yr ydych yn ei roi’r flwyddyn nesaf. Yn y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid gwneud arbedion o £250 miliwn. Y realiti yw bod y gwasanaeth iechyd wedi gwneud arbedion bob blwyddyn. Y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid iddo wneud hynny, am y tro cyntaf, pan fydd toriadau real yn y gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, mae naratif eich cyllideb yn dweud y bydd yn rhaid trawsnewid y gwasanaeth er mwyn cadw o fewn eich cyllideb. Yr unig ffordd y gallwch drawsnewid y gwasanaeth yw newid y ffordd y mae’n cael ei ddarparu. Mae hynny’n golygu—nid oes neb wedi gwadu hyn—y bydd newid sylweddol yn y gwasanaeth. Nid ydych wedi dweud beth yn union y bydd y newidiadau hynny’n ei olygu, fesul ysbyty a fesul gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru.

 

Ieuan Wyn Jones: You say that there will be an extra £288 million, but that funding is over the period of the budget—you are giving £83 million next year, when savings of £250 million have to be found. The reality is that the health service has made savings every year. Next year, for the first time, it has to do it when there are real cuts in the health service. Of course, your budget narrative states that, to keep within your budget, the service will have to be transformed. The only way you can transform the service is by changing the way in which the service is delivered. That means—and nobody has denied this—that there will be significant changes in the service. You have not said what exactly those changes will mean, hospital by hospital and service by service in every part of Wales.

Y Prif Weinidog: Yr wyf wedi dweud y bydd y cynllun ynglŷn â’r ffordd ymlaen yn cael ei gyhoeddi i’r Cynulliad ac i bobl Cymru. Mae’n wir dweud bod rhaid newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau’n cael eu darparu i bobl, gan fod pethau’n newid dros amser. Er enghraifft, mae rhai gwasanaethau ar gael yn awr mewn meddygfeydd ac nid mewn ysbytai—rhaid inni ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu gwasanaeth i bobl. Yn y pen draw, mae’r gwasanaeth iechyd yn berthnasol i bobl, a rhaid sicrhau y cânt y driniaeth orau yn yr ardal fwyaf lleol.

 

The First Minister: I have said that the scheme for the way forward will be published for the Assembly and the people of Wales. It is true to say that we will have to change the way in which some services are provided to people, because things do change over time. For example, some services are now available in GP surgeries rather than in hospitals—we must bear in mind the most effective way of providing care to people. Ultimately, the health service is relevant to people, and we need to ensure that they get the finest possible treatment as close to home as possible.

 

Ieuan Wyn Jones: Yr wyf yn derbyn yr hyn a ddywedwch ar un lefel, Brif Weinidog. Fodd bynnag, er mwyn i bobl gael gwybod yn union sut y bydd y newidiadau yn effeithio arnynt, rhaid dweud wrthynt beth sy’n digwydd. Rhaid i bobl gael gwybod yn union beth yw cynlluniau’r Llywodraeth. Wrth gwrs, pan gyflwynodd Brian Gibbons newidiadau nid annhebyg yn 2006, dywedodd y Llywodraeth bryd hynny mai rhesymau clinigol a oedd yn eu gyrru. Yr ydych yn cydnabod yn eich cyllideb, ar ddu a gwyn, mai’r unig ffordd y byddwch yn cadw o fewn eich cyllideb yw drwy drawsnewid y gwasanaeth. Felly, mewn gwirionedd, nid rhesymau clinigol fydd yn gyrru hwn, ond rhesymau ariannol. Yr ydych wedi dweud hynny am y tro cyntaf yn eich dogfen. Felly, a wnewch fod yn gwbl onest â phobl Cymru a dweud mai rhesymau ariannol sydd yn gyrru’r newidiadau hyn? Pryd byddwch yn dweud wrth bobl pryd bydd y Gweinidog iechyd mewn sefyllfa i ddweud wrth bobl sut y bydd gwasanaethau’n cael eu heffeithio ym mhob rhan o Gymru? Mae pobl yn poeni am eu gwasanaeth iechyd ac mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt.

 

Ieuan Wyn Jones: I accept what you say on one level, First Minister. However, so that people know exactly how those changes will affect them, you have to tell them what is happening. People have to know exactly what the Government’s plans are. Of course, when Brian Gibbons introduced plans that were not dissimilar in 2006, the Government of the time said that it was clinical reasons that drove them. In your budget, in black and white, you acknowledge that the only way for you to keep within budget is by transforming the service. Therefore, in truth, it is not clinical reasons driving this, but financial ones. You have said that for the first time in your document. Will you be completely honest with the people of Wales and state that it is financial reasons that are driving this? When are you going to tell people when the Minister for health will be in a position to tell people how services will be affected in every part of Wales? People are concerned about the health service and you have to tell them.

Y Prif Weinidog: Y ffordd o wneud hynny yw sicrhau eich bod yn cysylltu â meddygon, nyrsys a phawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Dyna pam yr ydym wedi sefydlu fforwm clinigol cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod gennym farn broffesiynol a chlinigol ynghylch pa strwythur a ddylai fod i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol. Dyna’r ffordd gyfrifol o wneud pethau.

 

The First Minister: The way to do this is to ensure that you are in contact with doctors, nurses and everyone who works in the health service. That is why a national clinical forum has been established, to ensure that we have the professional and clinical opinion with regard to what structure the NHS should have in the future. That is the responsible way of doing things.

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, more than £6 billion has been invested through EU regeneration money, and 58 of the 66 European regions that have received EU regeneration money have become relatively better off. Why is Wales not one of them?

 

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, buddsoddwyd mwy na £6 biliwn drwy arian adfywio yr UE, ac mae 58 o’r 66 o ranbarthau Ewropeaidd sydd wedi derbyn arian adfywio yr UE wedi dod yn gymharol well eu byd. Pam nad yw Cymru’n un ohonynt?

The First Minister: I would argue that Wales has become better off. There is no question of that. Even if you look at the gross domestic product figures for the past decade, you will see that Wales is better off. According to the gross disposable household income figures, Wales is even better off. We know that, when it comes to catching up with the rest of the UK, there is still some way to go, but substantial progress has been made over the last decade.

 

Y Prif Weinidog: Byddwn yn dadlau bod Cymru wedi dod yn well ei byd. Nid oes unrhyw amheuaeth o hynny. Hyd yn oed os edrychwch ar y ffigurau cynnyrch mewnwladol crynswth dros y degawd diwethaf, byddwch yn gweld bod Cymru yn well ei byd. Yn ôl y ffigurau crynswth incwm i’w wario aelwydydd, mae Cymru hyd yn oed yn well ei byd. Gwyddom, pan ddaw at ddal i fyny â gweddill y DU, mae peth ffordd i fynd o hyd, ond gwnaed cynnydd sylweddol dros y degawd diwethaf.

 

Kirsty Williams: The reality is, First Minister, that areas like Latvia and Slovakia have used that money to become relatively richer, but despite that huge injection of money, Wales has become relatively poorer. Last week, the EU Commissioner, Johannes Hahn, stated that nobody is more disappointed than the representatives of the Welsh Government themselves. Are you telling Members this afternoon that you do not find these figures disappointing?

 

Kirsty Williams: Y gwir yw, Brif Weinidog, bod ardaloedd fel Slofacia a Latfia wedi defnyddio’r arian hwnnw i ymgyfoethogi’n gymharol, ond er gwaethaf y chwistrelliad enfawr hwnnw o arian, mae Cymru wedi dod yn gymharol dlotach. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Comisiynydd yr UE, Johannes Hahn, ddatgan nad oedd unrhyw un yn fwy siomedig na chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru eu hunain. A ydych yn dweud wrth Aelodau y prynhawn yma nad ydych yn meddwl bod y ffigurau hyn yn siomedig?

 

The First Minister: You have taken that completely out of context, which is par for the course. You have to remember that we received an award from the European Commission in recognition of the way in which we distributed European funds, so there is no question about the Commission being unhappy in some way about the way in which the funds have been distributed in Wales. If you look at the training programmes that have been conducted around Wales and at the money that has been spent—wisely, in my opinion—around Wales, you will see that convergence funding and Objective 1 funding before it, and indeed the other European funds, have made a significant difference to the economy of Wales. ProAct and ReAct, for example, were great ideas that helped many people to stay in work.

 

Y Prif Weinidog: Rydych chi wedi cymryd hynny allan o gyd-destun yn gyfan gwbl, sydd i’w ddisgwyl. Mae’n rhaid ichi gofio y cawsom wobr gan y Comisiwn Ewropeaidd yn cydnabod y modd yr ydym yn dosbarthu cronfeydd Ewropeaidd, felly nid yw’r Comisiwn yn anhapus mewn rhyw ffordd am y modd y dosbarthwyd yr arian yng Nghymru. Os edrychwch ar y rhaglenni hyfforddiant sydd wedi cael eu cynnal ledled Cymru ac ar yr arian sydd wedi’i wario—yn ddoeth, yn fy marn i—o amgylch Cymru, byddwch yn gweld bod arian cydgyfeirio a chyllid Amcan 1 cyn hynny, ac yn wir y cronfeydd Ewropeaidd eraill, wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru. Roedd ProAct a ReAct, er enghraifft, yn syniadau gwych sydd wedi helpu llawer o bobl i aros mewn gwaith.

Kirsty Williams: I am glad that the First Minister can justify himself by claiming that, because he has had a reward for filling out his forms properly from the EU, it makes up for the fact that we have not used that money to the best possible effect. If these figures are not as bad as you say, it is surprising that we have not seen ourselves doing relatively better, like other regions that received the same money. However, in future, how confident are you that you will reach the targets that you have set for the current round of EU funding? Will you guarantee that, at the end of that round, west Wales and the Valleys will have become relatively richer as a result of the current investment that those areas are receiving?

 

Kirsty Williams: Yr wyf yn falch y gall y Prif Weinidog gyfiawnhau ei hun drwy honni, oherwydd ei fod wedi cael gwobr am lenwi ei ffurflenni yn briodol gan yr UE,  ei fod yn gwneud yn iawn am y ffaith nad ydym wedi defnyddio’r arian hwnnw i’r effaith orau bosibl. Os nad yw’r ffigurau hyn mor wael ag yr ydych yn ei ddweud, mae’n syndod nad ydym wedi gweld ein hunain yn gwneud yn gymharol well, fel rhanbarthau eraill sy’n derbyn yr un arian. Fodd bynnag, yn y dyfodol, pa mor hyderus ydych chi y byddwch yn cyrraedd y targedau yr ydych wedi’u gosod ar gyfer y cylch cyfredol o gyllid yr UE? A wnewch gadarnhau, ar ddiwedd y rownd honno, y bydd gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymharol gyfoethocach o ganlyniad i’r buddsoddiad presennol y mae’r ardaloedd hynny yn ei dderbyn?

 

The First Minister: Yes, that is what we hope to do. We need the UK Government to play its part as well. We cannot pretend that we are in this on our own; we are all in this together, to coin a phrase. However, I am disappointed with the leader of the Welsh Liberal Democrats when she suggests that, somehow, the money has not been well spent. Go and talk to the people who are still in jobs because of ProAct and those who have benefited from ReAct and tell them that the money has been unwisely spent. You will see that they have benefited greatly from the use of funds to ensure that they stay in jobs and continue to have livelihoods.

 

Y Prif Weinidog: Ie, dyna’r hyn rydym yn gobeithio ei wneud. Mae arnom angen i Lywodraeth y DU i chwarae ei rhan hefyd. Ni allwn esgus ein bod ar ein pen ein hunain yn hyn o beth; yr ydym oll yn hyn gyda’n gilydd, i fathu ymadrodd. Fodd bynnag, yr wyf yn siomedig gydag arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru pan mae hi’n awgrymu, rywsut, nad yw’r arian wedi’i wario’n dda. Ewch i siarad â phobl sydd yn dal mewn swyddi oherwydd ProAct a’r rhai sydd wedi elwa o ReAct a dweud wrthynt fod yr arian wedi’i wario’n annoeth. Byddwch yn gweld eu bod wedi elwa’n fawr o’r defnydd o arian i sicrhau eu bod yn aros mewn swyddi ac yn parhau i gael bywoliaeth.

 

Tlodi

Poverty

 

3. Vaughan Gething: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru. OAQ(4)0178(FM)

 

3. Vaughan Gething: Will the First Minister provide an update on what the Welsh Government is doing to tackle poverty in Wales. OAQ(4)0178(FM)

The First Minister: Our programme for government sets out the key actions that we are taking to tackle poverty and worklessness. The Communities First programme will be a key part of our anti-poverty action plan.

 

Y Prif Weinidog: Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi’r camau gweithredu allweddol yr ydym yn eu cymryd i fynd i’r afael â thlodi a diweithdra. Bydd y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu gwrthdlodi.

Vaughan Gething: Thank you for that answer, First Minister. I welcome the Welsh Government’s commitment to tackling poverty, particularly its commitment to tackle child poverty. However, do you share my anxiety and concerns over the recent report by the Institute for Fiscal Studies, which indicated that all of the gains made over a decade and more of a UK Labour Government to lift children out of poverty are likely to be lost over the current period of the UK Government as a direct result of Government policy? What assessment have you made of the impact of those policies on this Government’s commitment to try to lift children out of poverty?

 

Vaughan Gething: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Croesawaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi, yn enwedig ei hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant. Fodd bynnag, a ydych yn rhannu fy mhryderon dros yr adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a nododd bod yr holl enillion a wnaed dros ddegawd a mwy o Lywodraeth Lafur y DU i ddod â phlant allan o dlodi yn debygol o gael eu colli dros gyfnod presennol Llywodraeth y DU o ganlyniad uniongyrchol i bolisi’r Llywodraeth? Pa asesiad a wnaethoch o effaith y polisïau hynny ar ymrwymiad y Llywodraeth hon i geisio codi plant allan o dlodi?

 

The First Minister: It is inevitable that the UK Government’s policies will affect the depth of child poverty in Wales. Having said that, we are considering how we can take forward our commitments on dealing with poverty. One way forward is the anti-poverty action plan, which will help to tackle the very serious issues causing poverty, particularly the longer-term levers that we have as a Government, such as Flying Start.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n anochel y bydd polisïau Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddyfnder tlodi plant yng Nghymru. Wedi dweud hynny, yr ydym yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â’n hymrwymiadau ar ddelio â thlodi. Un ffordd ymlaen yw’r cynllun gweithredu gwrthdlodi, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â materion difrifol iawn sy’n achosi tlodi, yn enwedig yr ysgogiadau tymor hir sydd gennym fel Llywodraeth, megis Dechrau’n Deg.

 

Mark Isherwood: As the Joseph Rowntree Foundation has said, child poverty in Wales unfortunately began to increase again in 2004. It is the highest level in the UK. It is true that the IFS statistics note that child poverty rates in Wales are likely to raise it again. Save the Children has told me that these figures must act as ‘a wake-up call’ for the Welsh Government, because we risk falling far short of the commitment to eradicating child poverty by 2020. Will you outline your plans throughout the term of this Assembly to meet this crucial target?

 

Mark Isherwood: Fel y dywedwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree, yn anffodus, dechreuodd tlodi plant yng Nghymru i gynyddu eto yn 2004. Hon yw’r lefel uchaf yn y DU. Mae’n wir fod ystadegau’r IFS yn nodi bod cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn debygol o godi eto. Mae Achub y Plant wedi dweud wrthyf fod yn rhaid i’r ffigurau hyn weithredu fel ysgytwad ar gyfer Llywodraeth Cymru, oherwydd ein bod mewn perygl o fod yn bell iawn o’r ymrwymiad i ddileu tlodi plant erbyn 2020. A wnewch chi amlinellu eich cynlluniau drwy gydol tymor y Cynulliad hwn i gyrraedd y targed hollbwysig hwn?

 

The First Minister: As I have already said, we have the anti-poverty action plan that we will be taking forward.

 

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais eisoes, mae gennym y cynllun gweithredu gwrthdlodi y byddwn yn ei gymryd ymlaen.

Kenneth Skates: The concept of play streets—that is, closing off a residential area so that children can play safely without traffic—has been popular in impoverished parts of New York. They are normally set up in neighbourhoods where open space and money are scarce, and where summer activities cannot be afforded by parents. Will you look at extending these benefits to Welsh communities, and investigate ways that this may be able to take place? It helps bind communities in a spirit of togetherness.

 

Kenneth Skates: Mae’r cysyniad o strydoedd chwarae—hynny yw, cau ardaloedd preswyl fel y gall plant chwarae’n ddiogel heb draffig—wedi bod yn boblogaidd mewn rhannau tlawd o Efrog Newydd. Maent fel arfer wedi’u sefydlu mewn cymdogaethau lle mae gofod agored ac arian yn brin, a lle na ellir rhieni fforddio gweithgareddau haf. A wnewch chi edrych ar ymestyn y manteision hyn i gymunedau Cymru, ac ymchwilio i ffyrdd y gallai hyn fod yn digwydd? Mae’n helpu i uno cymunedau mewn ysbryd o undod.

 

The First Minister: In Wales, we will be commencing section 11 of the Children and Families (Wales) Measure 2010, which will place a duty on local authorities to assess for, and, having regard to such an assessment, secure, sufficient play opportunities for children in their areas. Play streets are one initiative that local authorities will want to examine.

 

Y Prif Weinidog: Yng Nghymru, byddwn yn cychwyn ar adran 11 y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a fydd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu, a rhoi sylw i asesiad o’r fath, cyfleoedd chwarae diogel, digonol i blant yn eu hardaloedd. Mae strydoedd chwarae yn un fenter y bydd awdurdodau lleol yn dymuno archwilio.

Leanne Wood: First Minister, the food bank network in Wales is expanding at a rapid rate. I have mixed feelings about this. On one hand, this expansion allows more people to access help, but on the other hand, it is not good that so many people in Wales are not able to afford the very basics of life. The food bank is largely dependent on donations and the free time of volunteers. Demand is set to rocket for the reasons outlined earlier with the changes to benefits. Will you explore what additional assistance the Welsh Government could provide so that this service can be further expanded?

 

Leanne Wood: Brif Weinidog, mae’r rhwydwaith banc bwyd yng Nghymru yn ehangu yn gyflym. Mae gennyf deimladau cymysg am hyn. Ar un llaw, mae’r ehangu hwn yn caniatáu mwy o bobl i gael mynediad at gymorth, ond ar y llaw arall, nid yw’n dda nad yw cynifer o bobl yng Nghymru yn gallu fforddio pethau sylfaenol iawn mewn bywyd. Mae’r banc bwyd yn ddibynnol yn bennaf ar roddion ac amser rhydd gwirfoddolwyr. Mae’r galw yn mynd i gynyddu am y rhesymau a amlinellwyd yn gynharach gyda’r newidiadau i fudd-daliadau. A wnewch ymchwilio i ba gymorth ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu fel y gall y gwasanaeth hwn cael ei ymestyn?

 

The First Minister: We would be more than happy to talk with representatives of those who are running food banks across Wales to see what we can do to assist.

 

Y Prif Weinidog: Fe fyddem yn fwy na pharod i siarad â chynrychiolwyr y rhai sy’n rhedeg banciau bwyd ledled Cymru i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo.

Aled Roberts: Wrth i chi ystyried ehangu cynllun Dechrau’n Deg, a fyddwch chi’n barod i ystyried ehangu’r cynllun fel bod pob plentyn ym mha ardal bynnag y maent yn byw ynddi yn elwa arno, yn hytrach na bod y cynllun yn cael ei gyfyngu i ardaloedd daearyddol penodol?

 

Aled Roberts: In considering expanding the Flying Start scheme, would you be prepared to consider expanding it so that every child, no matter where they live, benefits from it, rather than that the scheme be restricted to geographical areas?

Y Prif Weinidog: Yr ydym wrthi’n ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o ddyblu nifer y teuluoedd a fydd yn elwa ar y cynllun.

 

The First Minister: We are considering the most effective way of doubling the number of families that benefit from that scheme.

Mark Drakeford: Brif Weinidog, a ydych wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiadau a gyhoeddwyd dros y penwythnos diwethaf ynglŷn â’r cynnydd mawr yn yr elw a godwyd gan gwmnïau ynni preifat ar gefn pob cwsmer? Mewn cyfnod o doriadau mewn taliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr, onid ydych yn credu ei bod yn hen bryd i Lywodraeth San Steffan roi taw ar y siarad di-werth â’r cwmnïau ynni a mynnu bod y cwmnïau yn rhannu’r elw gyda’r cwsmeriaid hynny sydd wir angen help?

 

Mark Drakeford: First Minister, have you had an opportunity to read the reports published over the last weekend about the large profit increases made by private energy companies on the back of each and every customer? At a time of cuts to winter fuel payments to pensioners, do you not think that it is time that the Westminster Government put a stop to the meaningless talk with the energy companies and insisted that those companies share the profits with those customers who truly need help?

Y Prif Weinidog: Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau ei bod yn cefnogi’r hyn mae’n ei ddweud ynglŷn â phrisiau ynni. Mae’n wir dweud ei bod hi’n anodd i gwsmeriaid weld unrhyw fath o gystadleuaeth yn y farchnad ynni ym Mhrydain Fawr. Mae’n wir hefyd ddweud bod prisiau ynni ym Mhrydain yn llawer uwch nag ydynt mewn sawl gwlad yn Ewrop lle nad oes cystadleuaeth o gwbl. Mae hon yn broblem ynglŷn â sicrhau buddsoddiad i Gymru, yn enwedig gyda rhai busnesau lle mae taliadau mawr ar gyfer ynni yn rhan o’r busnes. Felly mae’n hynod bwysig bod cwsmeriaid yn gweld lleihad ym mhrisiau ynni ac, wrth gwrs, fod busnesau yn gweld yr un peth.

 

The First Minister: It is vital that Government of the UK ensures backs up its words with regard to energy prices. It is true to say that it is difficult for customers to see any kind of competition in the energy market in Great Britain. It is also true to say that energy prices in Britain are much higher than those in several European countries where there is no competition at all. This is a problem to do with ensuring investment for Wales, particularly with in the case of some companies for which large payments for energy are a part of business. It is therefore particularly important that customers see a reduction in energy prices and, of course, that businesses see that, too.

Ynni Adnewyddadwy

Renewable Energy

 

5. Elin Jones: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(4)0176(FM)

 

5. Elin Jones: What plans does the Welsh Government have for the development of renewable energy in Wales. OAQ(4)0176(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflymu’r broses o drosglwyddo i ddulliau cadarn o gynhyrchu ynni carbon isel wedi’u nodi yn ‘Chwyldro Carbon Isel’. Mae’n bwysig ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y potensial hwn.

 

The First Minister: The actions we will take to accelerate the transition to resilient low-carbon energy generation are set out in ‘A Low Carbon Revolution’. It is important that we maximise this potential.

 

Elin Jones: Ddwy fferm wynt sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd sy’n effeithio ar fy etholaeth yng Ngheredigion, sef Nant-y-moch, sy’n 120 MW, a Mynydd y Gwynt sydd tua 80 MW. Pam mae’n ddymunol yn eich barn chi fod Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar fferm wynt 80 MW, ond bod Gweinidog yn San Steffan yn parhau i fod â’r hawl i benderfynu ar fferm wynt fel Nant y Moch, sy’n 120 MW? 

 

Elin Jones: There are two wind farms being developed that affect my constituency of Ceredigion, namely Nant-y-moch, which is 120 MW, and Mynydd y Gwynt, which is 80 MW. Why is it desirable in your opinion for the Welsh Government to decide on an 80 MW windfarm, but for a Minister in Westminster to retain the right to decide on a windfarm such as Nant y Moch, which is 120 MW?

2.00 p.m.

 

 

Y Prif Weinidog: Nid yw’n synhwyrol o gwbl, ac mae’n bwysig dros ben fod hyn yn cael ei ystyried yn y dyfodol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

The First Minister: It is not sensible at all, and it is extremely important that this is considered in future by the United Kingdom Government.

Darren Millar: First Minister, do you agree that we should not put all of our energy eggs in the same basket, and that to concentrate solely on the proliferation of windfarms across Wales, both on and offshore, is the wrong approach to ensuring that there is sufficient energy diversity in the future?  Do you also agree that marine energy, particularly tidal energy schemes, offer real potential to make a significant contribution to our energy needs in Wales, in addition to potential flood protection benefits? Will you agree to join me in visiting a potential scheme in my constituency in Clwyd West later this year?

 

Darren Millar: Brif Weinidog, a ydych yn cytuno na ddylem roi ein hwyau ynni i gyd yn yr un fasged, ac mai canolbwyntio ar y doreth o ffermydd gwynt yn unig ledled Cymru, ar ac oddi ar y môr, yw’r ymagwedd anghywir i sicrhau bod digon o amrywiaeth o ynni yn y dyfodol?  A ydych hefyd yn cytuno bod ynni morol, a chynlluniau ynni llanw yn enwedig, yn cynnig potensial gwirioneddol i wneud cyfraniad sylweddol at ein hanghenion ynni yng Nghymru, yn ogystal â manteision posibl amddiffyn rhag llifogydd? A wnewch chi gytuno i ymuno â mi i ymweld â chynllun posibl yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd yn ddiweddarach eleni?

The First Minister: I would be pleased to consider that invitation. The difficulty is that the renewables obligation certificates that affect Wales, which are still controlled by the UK Government, do not make it attractive to develop marine energy. What needs to be done is to increase the ROCs to the same level as in Scotland. Scotland controls its renewables obligation certificates, and, as a result, has made it far easier to attract investment for marine energy in Scotland. We need control over those certificates in Wales, or, failing that, we at least need the UK Government to make sure that it increases the amount of ROCs available to make investment in energy more attractive. 

 

Y Prif Weinidog: Byddwn yn falch o ystyried y gwahoddiad hwnnw. Y drafferth yw nad yw’r tystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy sy’n effeithio ar Gymru, sy’n dal i fod dan reolaeth Llywodraeth y DU, yn ei gwneud yn ddeniadol i ddatblygu ynni morol. Yr hyn sydd angen ei wneud yw cynyddu’r ROCs i’r un lefel ag sydd yn yr Alban. Mae’r Alban yn rheoli ei thystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy ac, o ganlyniad, mae wedi ei gwneud yn llawer haws i ddenu buddsoddiad ar gyfer ynni morol yn yr Alban. Mae arnom angen reolaeth dros y tystysgrifau hynny yng Nghymru, ond os na chawn hynny, mae o leiaf arnom angen i Lywodraeth y DU wneud yn siŵr ei bod yn cynyddu swm y ROCs sydd ar gael er mwyn gwneud buddsoddi mewn ynni yn fwy deniadol.

 

Julie James: First Minister, modern energy-from-waste plants, such as anaerobic digesters for municipal and other food waste in Wales, are clean, efficient and sustainable plants that make the most of our resources, producing much needed energy for our homes, schools and communities. We also know that there are local economic benefits as a result of the construction and running of these plants, and I very much welcome the action that the Welsh Government is taking to promote and invest in this technology. First Minister, do you agree that if the Tories were as keen for Wales to meet its renewable energy targets as they claim, would they not be calling on their Westminster colleagues to devolve further relevant energy powers to Wales?

 

Julie James: Brif Weinidog, mae gweithfeydd modern troi gwastraff yn ynni, megis treulwyr anerobig ar gyfer gwastraff bwyd trefol ac eraill yng Nghymru, yn weithfeydd glân, effeithlon a chynaliadwy sy’n gwneud y mwyaf o’n hadnoddau, sy’n cynhyrchu ynni mawr ei angen ar gyfer ein cartrefi, ysgolion a chymunedau. Rydym hefyd yn gwybod y ceir manteision economaidd lleol o ganlyniad i adeiladu a rhedeg y gweithfeydd hyn, ac rwy’n croesawu’n fawr y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo a buddsoddi yn y dechnoleg hon. Brif Weinidog, a ydych yn cytuno, pe bai’r Torïaid mor awyddus i Gymru gyrraedd ei thargedau ynni adnewyddadwy ag y maent yn honni, oni fyddent yn galw ar eu cydweithwyr yn San Steffan i ddatganoli rhagor o bwerau ynni perthnasol i Gymru?

 

The First Minister: I hear voices from the other side of the Chamber claiming that they are doing so. I am sure that the Secretary of State will be listening carefully to what they have to say.

 

Y Prif Weinidog: Rwy’n gallu clywed lleisiau o ochr arall y Siambr yn honni eu bod yn gwneud hynny. Yr wyf yn siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwrando yn ofalus ar beth sydd ganddynt i’w ddweud.

Kenneth Skates: I welcome the introduction of the Nest scheme to help some of the most impoverished people in Wales to gain a valuable source of assistance, particularly in order to eliminate fuel poverty, and to access funds for new renewable energy technologies. Could this scheme be extended on a temporary basis to people who have systems that are not operating, that is, people who are caught between having a system replaced and a system that has packed in? It is important in the coming months, particularly during the tough winter that we may have, that all households have access to good forms of heating.

 

Kenneth Skates: Yr wyf yn croesawu cyflwyno cynllun Nest i helpu rhai o’r bobl tlotaf yng Nghymru i gael ffynhonnell werthfawr o gymorth, yn enwedig er mwyn dileu tlodi tanwydd, ac i gael arian ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy newydd. A ellid ymestyn y cynllun hwn dros dro i bobl sydd â systemau nad ydynt yn gweithredu, hynny yw, pobl sy’n cael eu dal rhwng cael system newydd a system sydd wedi torri? Mae’n bwysig yn y misoedd nesaf, yn enwedig yn ystod y gaeaf caled a all ddod, bod ffurf da o wresogi gan bob cartref.

The First Minister: British Gas, which manages the Nest scheme, has processes in place to provide temporary heaters to households awaiting heating installations under the scheme, and who have no alternative means of heating their home. They can be provided within 24 hours of request. In addition, British Gas is operating a fast-track service for householders who it has identified as being particularly vulnerable.

 

Y Prif Weinidog: Mae gan Nwy Prydain, sy’n rheoli’r cynllun Nest, brosesau ar waith i ddarparu gwresogyddion dros dro i gartrefi sy’n aros am osodiadau gwresogi o dan y cynllun, ac sydd â dim modd amgen o wresogi eu cartrefi. Gellir eu darparu o fewn 24 awr o wneud cais. Yn ogystal, mae Nwy Prydain yn gweithredu gwasanaeth carlam ar gyfer deiliaid cartrefi sydd wedi eu nodi’n arbennig o fregus.

Gwasanaethau Iechyd yn Nhor-faen

Health Services in Torfaen

 

6. Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Nhor-faen.  OAQ(4)0177(FM)

 

6. Lynne Neagle: Will the First Minister outline Welsh Government priorities for health services in Torfaen. OAQ(4)0177(FM)

 

The First Minister: Our priorities for the NHS in Wales, including Torfaen, were set out in our programme for government.

 

Y Prif Weinidog: Roedd ein blaenoriaethau ar gyfer y GIG yng Nghymru, gan gynnwys Tor-faen, wedi’u nodi yn ein rhaglen lywodraethu.

 

Lynne Neagle: First Minister, the specialist and critical centre planned for Cwmbran is fundamental to the future of healthcare delivery, not just in Torfaen, but in the whole of Gwent. I know that local people were delighted when the scheme was given the go-ahead at the end of the last Assembly, and the news earlier this month that detailed planning for the project is continuing was a further boost for campaigners. However, as we know, there are enormous pressures on capital spending due to the cuts forced on us by the Tories and Lib Dems in Westminster. Will you reaffirm your Government’s commitment to delivering high-quality healthcare through schemes such as this one, which demonstrates, above all, that Labour is the party of the NHS in Wales?  

 

Lynne Neagle: Brif Weinidog, mae’r ganolfan arbenigol a chritigol arfaethedig ar gyfer Cwmbrân yn hanfodol i ddyfodol darparu gofal iechyd, nid yn unig yn Nhor-faen, ond yng Ngwent gyfan. Gwn fod pobl leol yn falch iawn pan roddwyd sêl bendith i’r cynllun ddiwedd y Cynulliad diwethaf, ac roedd y newyddion yn gynharach y mis hwn bod cynllunio manwl ar gyfer y prosiect yn parhau yn hwb bellach i ymgyrchwyr. Fodd bynnag, fel y gwyddom, mae pwysau enfawr ar wariant cyfalaf oherwydd y toriadau a orfodir arnom gan y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan. A wnewch ail-gadarnhau ymrwymiad eich Llywodraeth i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel drwy gynlluniau fel hwn, sydd, yn anad dim, yn dangos mai Llafur yw plaid y GIG yng Nghymru?

 

The First Minister: We await the outline business case from Aneurin Bevan Local Health Board. When it is received, we can take this forward.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn disgwyl yr achos busnes amlinellol gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan. Pan ddaw i law, gallwn fynd â hwn yn ei flaen.

William Graham: First Minister, you will be aware of the encouraging progress that the Gwent frailty programme has made, particularly in Torfaen, in helping frail people to be happily independent. How is your Government working with partners to monitor the most effective parts of this programme so that other progressive care packages can be introduced in Wales?

 

William Graham: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o’r cynnydd calonogol a wnaeth y rhaglen eiddilwch Gwent, yn enwedig yn Nhor-faen, i helpu pobl fregus i fod yn hapus yn annibynnol. Sut mae eich Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid i fonitro rhannau mwyaf effeithiol y rhaglen hon fel y gellir cyflwyno pecynnau gofal blaengar eraill yng Nghymru?

The First Minister: I have visited the Gwent frailty project. It is an excellent example of co-operation and collaboration. We are keen to see that kind of model being reproduced across the whole of Wales.

 

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi ymweld â phrosiect eiddilwch Gwent. Mae’n enghraifft wych o gydweithredu a chydweithio. Yr ydym yn awyddus i weld y math hwnnw o fodel yn cael ei ailadrodd ledled Cymru.

 

Jocelyn Davies: I am delighted that you are continuing with the ‘One Wales’ commitment to the critical care unit in Torfaen, but are you aware that the LHB is closing down a number of minor injuries units across Gwent, including Torfaen? Can you tell us why local accountability for local health boards has never materialised?

 

Jocelyn Davies: Yr wyf yn falch iawn eich bod yn parhau ag ymrwymiad ‘Cymru’n Un’ i’r uned gofal critigol yn Nhor-faen, ond a ydych yn ymwybodol bod y BILl yn cau nifer o unedau mân anafiadau ar draws Gwent, gan gynnwys Tor-faen? A allwch ddweud wrthym pam nad yw atebolrwydd lleol ar gyfer byrddau iechyd lleol wedi ymddangos?

The First Minister: The problem with the minor injuries units is finding doctors, unfortunately. Aneurin Bevan health board is not alone in that regard, but where it is not possible to run a unit safely and effectively, an LHB has difficult decisions to take. However, there is a need across the whole of the UK to ensure better recruitment of doctors who are accident and emergency specialists.

 

Y Prif Weinidog: Y broblem gydag unedau mân anafiadau yw dod o hyd i feddygon, yn anffodus. Nid yw bwrdd iechyd Aneurin Bevan ar ben ei hun yn hynny o beth, ond lle nad yw’n bosibl rhedeg uned yn ddiogel ac effeithiol, mae gan BILl benderfyniadau anodd i’w gwneud. Fodd bynnag, mae angen sicrhau ar draws y DU bod meddygon sy’n arbenigwyr damweiniau ac achosion brys yn cael eu recriwtio’n well.

Budd-daliadau Pobl sy’n Anabl

Benefits for Disabled People

 

7. Julie Morgan: Pa ystyriaeth y mae’r Prif Weinidog wedi’i rhoi i effaith toriadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau lles ar bobl sy’n anabl yng Nghymru. OAQ(4)0168(FM)

 

7. Julie Morgan: What consideration has the First Minister given to the effect of the welfare benefit cuts by the UK Government on people who are disabled in Wales. OAQ(4)0168(FM)

The First Minister: I would refer you to answers that I gave to earlier questions, but our programme for government demonstrates our commitment to mitigating, wherever possible, the impact of the welfare benefit cuts on disabled people. 

 

Y Prif Weinidog: Fe’ch cyfeiriaf at yr atebion a roddais i gwestiynau cynharach, ond mae ein rhaglen lywodraethu yn dangos ein hymrwymiad i liniaru, lle bo hynny’n bosibl, effaith toriadau’r budd-daliadau lles ar bobl anabl.

Julie Morgan: I thank the First Minister for his answer. Is he aware that the introduction of the personal independence payment instead of the disability living allowance will mean that all applicants will now be means tested, including those who were previously automatically awarded the highest rate, such as people who are double amputees? Many of these people will lose out. What can he do to mitigate these effects?

 

Julie Morgan: Diolch i’r Prif Weinidog am ei ateb. A yw’n ymwybodol y bydd cyflwyno’r taliad annibyniaeth bersonol yn hytrach na lwfans byw i’r anabl yn golygu y bydd bob ymgeisydd bellach yn cael prawf modd, gan gynnwys y rheini a gafodd eu dyfarnu y gyfradd uchaf yn awtomatig o’r blaen, megis pobl a gollodd ddwy fraich neu goes? Bydd llawer o’r bobl hyn yn colli allan. Beth all ei wneud i liniaru’r effeithiau hyn?

 

The First Minister: I know that the Deputy Minister has raised concerns over the past few months regarding the adverse impact on people in Wales in receipt of DLA of its replacement by PIP, as it will be called. That is why so many disabled people are so concerned about seeing the end of DLA and why they are so concerned that PIP will prove to be an inadequate replacement.

 

Y Prif Weinidog: Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi mynegi pryderon dros y misoedd diwethaf am yr effaith niweidiol ar bobl yng Nghymru sy’n derbyn DLA o PIP, fel y’i gelwir, a fydd yn cymryd ei le. Dyna pam mae cynifer o bobl anabl yn poeni cymaint am weld diwedd y DLA a pham maent mor bryderus y bydd y PIP yn profi i fod yn opsiwn amgen annigonol.

 

Nick Ramsay: First Minister, do you share my concern that the current UK Government has been put in the position of having to make a series of cuts across the board due to the financial mismanagement of your party in power over the 10 previous years? However, we are where we are. Do you agree that the universal credit that is due for launch in 2013 will provide disabled people with support? Is it not better for us to support people into work, where they can work, through incentives and support rather than supporting a model of economic growth, as was done during the previous Labour Government’s time in power, that bypassed disabled people?

 

Nick Ramsay: Brif Weinidog, a ydych yn rhannu fy mhryder bod Llywodraeth bresennol y DU wedi cael ei rhoi yn y sefyllfa o orfod gwneud cyfres o doriadau oherwydd camreoli ariannol eich plaid mewn grym dros y 10 mlynedd blaenorol? Fodd bynnag, yr ydym lle yr ydym. A ydych yn cytuno y bydd y credyd cynhwysol sydd yn cael ei lansio yn 2013 yn darparu cefnogaeth i bobl anabl? Onid yw’n well i ni i gynorthwyo pobl i gael gwaith, lle gallant weithio, drwy gymhellion a chymorth yn hytrach na chefnogi model twf economaidd, fel y gwnaethpwyd yn amser y Llywodraeth Lafur flaenorol mewn grym, a wnaeth osgoi pobl anabl?

The First Minister: Time will tell, but I am surprised that the old chestnut ‘We’re clearing up after the last Government’ is still being used. The reality of the situation is that today we see inflation at 5.2 per cent—the highest level for many years—and that is under a Conservative-Lib Dem Government. We have seen unemployment rise under a Conservative-Lib Dem Government. We have seen no growth in the economy under a Conservative-Lib Dem Government, despite being told that there would be growth. The country is stagnant; the UK Government needs to change.

 

Y Prif Weinidog: Amser a ddengys, ond yr wyf yn synnu bod yr hen stori ‘Rydym yn clirio llanast y Llywodraeth ddiwethaf’ yn dal i gael ei defnyddio. Y gwir amdani yw ein bod heddiw yn gweld chwyddiant yn 5.2 y cant—y lefel uchaf ers amser maith—a hynny o dan Lywodraeth Geidwadol-Democratiaid Rhyddfrydol. Gwelsom ddiweithdra yn codi o dan y Llywodraeth Geidwadol-Democratiaid Rhyddfrydol. Ni welsom unrhyw dwf yn yr economi o dan y Llywodraeth Geidwadol-Democratiaid Rhyddfrydol, er y dywedwyd wrthym y byddai twf. Mae’r wlad yn ddisymud; mae angen i Lywodraeth y DU newid.

 

Simon Thomas: Despite the empty rhetoric of the Conservatives opposite, there is a real division in the Chamber between those of us who want to protect the most vulnerable in society and those who are looking at the easy target to pay the bankers’ bonuses and for their excesses. Does the First Minister share my particular concern as regards universal credit, that is, the proposal to cut the disability element of the child tax credit from £54 a week to £27 a week, which will cost families who have disabled children nearly £1,500 a year? How on earth does that help people get into work?

 

Simon Thomas: Er gwaethaf rhethreg wag y Ceidwadwyr gyferbyn, mae ymraniad go iawn yn y Siambr rhwng y rhai ohonom sy’n awyddus i amddiffyn y mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas a’r rhai sydd yn edrych ar y targed hawdd i dalu bonysau bancwyr ac am eu gormodeddau. A yw’r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder penodol o ran credyd cynhwysol, hynny yw, y cynnig i dorri elfen anabledd y credyd treth plant o £54 yr wythnos i £27 yr wythnos, a fydd yn costio bron £1,500 y flwyddyn i deuluoedd sydd â phlant anabl? Sut ar y ddaear mae  hynny’n helpu pobl i gael gwaith?

The First Minister: I do not think that I can put it more strongly and powerfully than the Member already has. The reality of the situation is that far from people who can afford it paying, it is the people who have the least money who are paying the most. However, we should not expect anything else from the Tories and, sadly, the Lib Dems.

 

Y Prif Weinidog: Ni chredaf y gallaf ei roi yn gryfach na’n fwy pwerus nag y gwnaeth yr Aelod. Y gwir amdani yw mai nid mater o bobl sy’n gallu fforddio ei dalu ydyw, ond mai’r bobl sydd â’r lleiaf o arian sy’n talu fwyaf. Fodd bynnag, ni ddylem ddisgwyl dim arall gan y Torïaid, nag, yn anffodus, gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Peter Black: First Minister, do you agree that one of the issues around the reform of disabled benefits is related to the assessment process and the contracts that were set up under the previous UK Government? I believe that about 70 per cent of appeals against these assessments are successful, indicating a clear problem with how those assessments are being carried out and their outcome. Will you consider making representations to the UK Government, as we have already done, about how that can be reformed?

 

Peter Black: Brif Weinidog, a ydych yn cytuno bod un o’r materion sy’n ymwneud â diwygio budd-daliadau anabl yn gysylltiedig â’r broses asesu a’r contractau a sefydlwyd o dan Lywodraeth flaenorol y DU? Credaf fod tua 70 y cant o apeliadau yn erbyn yr asesiadau hyn yn llwyddiannus, sy’n dangos bod problem amlwg gyda’r ffordd mae’r asesiadau hynny’n cael eu cynnal a’u canlyniad. A wnewch ystyried gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU, fel y gwnaethom eisoes, am sut y gellir diwygio hynny?

The First Minister: Yes, I am more than prepared to do that. We would support anything that makes it easier for disabled people and those who are in receipt of benefit. 

 

Y Prif Weinidog: Ydwyf, yr wyf yn fwy na pharod i wneud hynny. Byddem yn cefnogi unrhyw beth sy’n ei gwneud yn haws i bobl anabl a’r rhai sydd yn derbyn budd-dal.

Gwasanaethau Iechyd yng Ngorllewin Cymru

 

Health Services in West Wales

 

10. Angela Burns: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin Cymru. OAQ(4)0180(FM)

 

10. Angela Burns: Will the First Minister make a statement on the delivery of health services in West Wales. OAQ(4)0180(FM)

The First Minister: As with the rest of Wales, the NHS aims to provide health services that are safe, sustainable, effective and of the highest quality.

 

Y Prif Weinidog: Yn yr un modd â gweddill Cymru, mae’r GIG yn anelu at ddarparu gwasanaethau iechyd sy’n ddiogel, yn gynaliadwy, yn effeithiol ac o’r safon uchaf.

 

Angela Burns: Thank you for that, First Minister. I direct this question at you as I am hoping that you will be able to bring some joined-up thinking to this whole debate. My concern about the delivery of health services in west Wales is that it is a rural area and it is different to delivering health services in metro land. The view from Pembrokeshire is entirely different to the view from Cardiff. Will you be able to ensure that the Minister for Health and Social Services and the Minister with responsibility for transport can work together to ensure that services that are being leached eastwards, away from west Wales, can be got at by the patients who need them? The public transport and roads are so poor, it is almost impossible for an elderly person, living somewhere like Castlemartin, for example, to get to Morriston Hospital in time for a 9 a.m. appointment for kidney dialysis or anything else. Unless we have this joined-up thinking, west Wales is going to suffer ad infinitum on this issue.

 

Angela Burns: Diolch am hynny, Brif Weinidog. Cyfeiriaf y cwestiwn hwn atoch chi gan fy mod yn gobeithio y byddwch yn gallu dod â rhywfaint o feddylfryd gydlynus i’r holl ddadl. Fy mhryder am ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru yw ei bod yn ardal wledig ac mae’n wahanol i ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd dinesig. Mae’r olygfa o sir Benfro yn hollol wahanol i’r olygfa o Gaerdydd. A fyddwch yn gallu sicrhau y gall y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth gydweithio i sicrhau y gall y cleifion sydd eu hangen gael mynediad i’r gwasanaethau sy’n cael eu symud tua’r dwyrain, i ffwrdd o orllewin Cymru? Mae cludiant cyhoeddus a’r ffyrdd mor wael, mae bron yn amhosibl i berson hŷn, sy’n byw rhywle fel Castellmartin, er enghraifft, i fynd i Ysbyty Treforys mewn pryd am apwyntiad 9 a.m. ar gyfer dialysis arennau neu unrhyw beth arall. Oni bai fod gennym y feddylfryd gydlynus hon, mae gorllewin Cymru yn mynd i ddioddef yn ddi-ben-draw yn hyn o beth.

 

The First Minister: These are factors that we will be considering over the next few months. It is important that people are able to access services as locally as possible, but there are some services that can only be delivered in larger hospitals because it is safer and more effective that way. It is important, however, that people are able to travel to those hospitals, and we will be considering that issue as we look at the development of the NHS in the months to come.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r rhain yn ffactorau y byddwn yn eu hystyried dros y misoedd nesaf. Mae’n bwysig bod pobl yn gallu cael mynediad i wasanaethau mor lleol â phosibl, ond mae rhai gwasanaethau na ellir ond eu darparu mewn ysbytai mawr oherwydd mae’n fwy diogel ac effeithiol felly. Mae’n bwysig, fodd bynnag, fod pobl yn gallu teithio i’r ysbytai hynny, a byddwn yn ystyried y mater hwnnw wrth inni edrych ar ddatblygiad y GIG yn y misoedd i ddod.

Rhodri Glyn Thomas: Cefnogaf, yn y lle cyntaf, yr hyn mae Angela Burns wedi’i ddweud yn enwedig ynglŷn â dialysis yr arennau. Nid ydyw’n ymarferol i’r cleifion hynny deithio pellter, cael y driniaeth ac wedyn teithio yn ôl wedi’r driniaeth. Yr wyf yn gobeithio y derbyniwch y pwynt hwnnw o ran y problemau daearyddol sydd yn ein hwynebu yn ne-orllewin Cymru.

 

Rhodri Glyn Thomas: First, I support what Angela Burns has said, particularly about renal dialysis. It is not practicable for those patients to travel some distance, have the treatment, and then to travel back following the treatment. I hope that you will accept that point about the geographical problems that face us in south-west Wales.


Hoffwn eich cyfeirio at fater arall, sef llawdriniaeth ar gataract. Mae nifer o etholwyr wedi dod ataf gan ddweud fod triniaeth ar eu hail lygad wedi cael ei gwrthod oherwydd bod problem ynglŷn â chyflogi arbenigwyr offthalmig yn ysbytai de-orllewin Cymru i sicrhau’r driniaeth honno. Mae’n rhaid iddynt aros am gyfnod hir heb dderbyn dyddiad ar gyfer y driniaeth. Fel y byddwch yn deall, mae goblygiadau i hynny o ran eu golwg i’r dyfodol. A drafodwch y problemau hyn gyda’r Gweinidog iechyd a sicrhau bod modd mynd i’r afael â nhw? Bu ymgais i gyflogi arbenigwyr, ond nid yw’r broses wedi llwyddo.

 

I would like to refer you to another issue, which is cataract surgery. A number of constituents have approached me to say that they have been refused treatment on the second eye because there is a problem with the employment of ophthalmic specialists in the hospitals in south-west Wales in order to ensure that treatment. They have to wait for a long time without a date for the treatment. As you will understand, that has implications for their future sight. Will you discuss these problems with the Minister for health and ensure that there is a way of addressing them? There has been an attempt to appoint specialists, but the process was not successful.

 

Y Prif Weinidog: Gwnaf ac ysgrifennaf at yr Aelod gydag ateb i’r cwestiwn.

The First Minister: I will and I will write to the Member with an answer to the question.

 

Ffermio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol

Farming in Less Favoured Areas

 

11. Kirsty Williams: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth mae ei lywodraeth yn ei wneud i helpu ffermwyr sy’n ffermio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol. OAQ(4)0181(FM)

 

11. Kirsty Williams: Will the First Minister outline what his government are doing to assist farmers who farm in Less Favoured Areas. OAQ(4)0181(FM)

The First Minister: Those proposals are contained in the programme for government.

 

Y Prif Weinidog: Y mae’r cynigion hynny wedi’u cynnwys yn y rhaglen lywodraethu.

Kirsty Williams: First Minister, you will be aware that the Scottish Government provides a scheme to the LFA in Scotland that has the goal of ensuring viable rural communities. In Northern Ireland, the Executive also has a scheme that is designed for the less favoured areas to promote a viable rural society. Given the One Wales Government’s decision to end Tir Mynydd payments, we have seen support for farmers in the LFA, similar to that which we see in Scotland and Northern Ireland, come to an end. Now that your hands are no longer tied by your Plaid partners, can we expect your Government to reinstate the scheme to support farmers in the LFA?

 

Kirsty Williams: Brif Weinidog, gwyddoch fod Llywodraeth yr Alban yn darparu cynllun i’r ardaloedd llai ffafriol yn yr Alban yda’r bwriad o sicrhau cymunedau gwledig hyfyw. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r Weithrediaeth hefyd â chynllun ar gyfer ardaloedd llai ffafriol i hyrwyddo cymdeithas wledig hyfyw. O ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru’n Un i roi’r gorau i daliadau Tir Mynydd, gwelsom gymorth i ffermwyr yn yr ardaloedd llai ffafriol, tebyg i’r hyn a welwn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn dod i ben. Gan nad yw eich partneriaid yn y Blaid yn clymu eich dwylo rhagor, a allwn ddisgwyl i’ch Llywodraeth adfer y cynllun i gefnogi ffermwyr yn yr ardaloedd llai ffafriol?

 

The First Minister: First, the changes have been forced upon us by the European Commission as it would not accept an LFA element. That is clear and a matter of public record. Secondly, farmers in the LFA are receiving an increase of 20 per cent in their payments. I cannot, for the life of me, understand why there are complaints about this. Every single farmer in Wales, every single one, will be better off as a result of the proposals that we are putting forward. Farmers in the LFA, particularly, will be even better off. I do not see that there is cause for complaint.

 

Y Prif Weinidog: Yn gyntaf, cafodd y newidiadau eu gorfodi arnom gan y Comisiwn Ewropeaidd gan na fyddai’n derbyn elfen ALlFf. Mae hynny’n glir ac yn fater a wnaed yn gyhoeddus. Yn ail, mae ffermwyr yn yr ardaloedd llai ffafriol yn cael cynnydd o 20 y cant yn eu taliadau. Ni allaf, yn fy myw, ddeall pam fod cwynion am hyn. Bydd pob un ffermwr yng Nghymru, bob un, yn well eu byd o ganlyniad i’r cynigion yr ydym yn eu rhoi ger bron. Yn benodol, bydd ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol hyd yn oed yn well eu byd. Ni welaf bod achos i gwyno.  

Russell George: Given the relatively poor uptake of Glastir and the ending of Tir Mynydd in 2012, if the full £89 million Glastir budget, under annex 2 of the rural development plan, is not committed in 2013, will the First Minister consider the reintroduction of the Tir Mynydd scheme to support agriculture in Wales’s most difficult to farm areas?

 

Russell George: O ystyried y nifer cymharol isel a ymunodd â Glastir a diwedd Tir Mynydd yn 2012, os nad yw cyllideb lawn £89 miliwn Glastir, o dan atodiad 2 y cynllun datblygu gwledig, wedi’i hymrwymo yn 2013, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailgyflwyno’r cynllun Tir Mynydd i gefnogi amaethyddiaeth yn yr ardaloedd mwyaf anodd i’w ffermio yng Nghymru?

2.15 p.m.

 

The First Minister: The European Commission made it clear it would never support the reintroduction of Tir Mynydd. That is well known to a number of us in the Chamber, in this party and in other parties. The important thing is that we provide the right level of support to farmers, and we have done that. A 20 per cent increase, in this day and age, with economic conditions being as they are, is not bad.

Y Prif Weinidog: Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi ei gwneud yn glir na fyddai byth yn cefnogi ailgyflwyno Tir Mynydd. Mae hynny yn wybyddus i nifer ohonom yn y Siambr, yn y blaid hon ac mewn pleidiau eraill. Y peth pwysig yw ein bod yn darparu’r lefel briodol o gymorth i ffermwyr, ac fe wnaethom hynny. Mae cynnydd o 20 y cant, yn yr oes sydd ohoni, gyda’r sefyllfa economaidd fel ag y mae, yn bur dda. 

 

Llyr Huws Gruffydd: Mae cyhoeddiad diweddar eich Dirprwy Weinidog ynglŷn â thaliadau ardaloedd llai ffafriol yn ddim ond un o nifer o gyhoeddiadau gan eich Llywodraeth sydd wedi cythruddo’r gymuned amaethyddol a chwalu’r berthynas bositif ac adeiladol a oedd yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru’n Un a ffermwyr. A ydych yn poeni pan fo’r undebau amaeth yn dweud—fel y gwnaethant yn y Western Mail yr wythnos diwethaf—eu bod bellach mewn brwydr i oroesi yn erbyn eu Gweinidog? Sut yr ydych yn ymateb pan fo arweinyddion undeb yn dweud bod y sefyllfa gynddrwg erbyn hyn y byddai’n well gan nifer ohonynt ffermio yn yr Alban?

 

Llyr Huws Gruffydd: Your Deputy Minister’s recent announcement about less favoured area payments is only one of many announcements from your Government that have angered the agricultural community and destroyed the positive and constructive relationship that existed between the One Wales Government and farmers. Does it worry you when farmers’ unions say—as they did last week in the Western Mail—that they are now in a battle for survival against their Minister? How do you respond when union leaders say that the situation is now so bad that many would prefer to farm in Scotland?

Y Prif Weinidog: Cynllun eich Gweinidog chi oedd Glastir, nid cynllun y Llywodraeth hon, ac yr oeddwn yn cefnogi’n fawr yr hyn yr oedd Elin Jones yn ei wneud. Ychydig iawn o ddewis oedd gennym o ran y newidiadau i reoliadau Ewrop. Os yw ffermwyr Cymru wir yn dweud nad ydynt yn hapus ag 20 y cant yn fwy yn eu taliadau, rhaid iddynt egluro hynny i weddill pobl Cymru.

 

The First Minister: Glastir was your Minister’s scheme, rather than this Government’s scheme, and I strongly supported what Elin Jones did. We had little choice, given the changes to European regulations. If Welsh farmers are really saying that they are unhappy with an increase of 20 per cent in their payments, let them explain that to the rest of the people of Wales.

Economi Cymru

The Welsh Economy

 

12. Byron Davies: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynigion ei lywodraeth i gefnogi economi Cymru. OAQ(4)0171(FM)

12. Byron Davies: Will the First Minister outline his Government’s proposals to support the Welsh economy. OAQ(4)0171(FM)

 

The First Minister: Growth and sustainable jobs are at the heart of our programme for government.

 

Y Prif Weinidog: Mae twf a swyddi cynaliadwy wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu.

Byron Davies: Will the First Minister enlighten us as to why he saw fit to reduce the budget for the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, and tell us what monitoring the Government has put in place to ensure that Wales is not put to any further disadvantage as a result of this decision, at a time when the encouragement of new business is critical to the Welsh economy?

 

Byron Davies: A wnaiff y Prif Weinidog egluro wrthym pam iddo leihau cyllideb y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, a dweud wrthym pa fonitro a roes y Llywodraeth ar waith i sicrhau nad yw Cymru dan anfantais bellach o ganlyniad i’r penderfyniad hwn, ar adeg pan fo annog busnes newydd yn allweddol i economi Cymru?   

The First Minister: We have a consequential as a result of the council tax freeze in England, and we are considering using that for jobs and skills, as I have said many times, but we cannot replace what your party took away.

Y Prif Weinidog: Mae gennym gyllid canlyniadol yn sgîl rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr, ac yr ydym yn ystyried defnyddio hwnnw ar gyfer swyddi a sgiliau, fel y dywedais sawl gwaith, ond ni allwn roi o’r newydd yr hyn a gymerodd eich plaid i ffwrdd.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno bod swyddi gwyrdd yn hanfodol fel buddsoddiad i greu cyflogaeth? A fyddai’n derbyn bod cwmnïau sylweddol yng Nghymru—megis y contractwyr Jones Bros. Cyf., sydd wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ynni gwynt yn y gorffennol—yn gofidio nad yw Cymru bellach yn lle da i wneud busnes o ran ynni gwynt oherwydd ansicrwydd cynllunio?

 

Lord Elis-Thomas: Would the First Minister agree that green jobs are essential as an employment-creating investment? Would he accept that some significant Welsh companies—such as Jones Bros. Ltd., which has invested significantly in wind energy in the past—are worried that Wales is no longer a good place to do business in wind energy because of planning uncertainties?

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn credu bod hynny’n wir. Mae pobl wedi dweud hynny wrthyf, oherwydd yr hollt o ran cyfrifoldeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw’n bodoli yn yr Alban. Felly, mae cymhlethdod yn y broses. Byddai’n llawer rhwyddach pe bai’r pwerau’n dod i Gymru, fel ag y maent yn yr Alban.

 

The First Minister: I believe that that is true. People have said that to me, because of the split in responsibility between the Welsh Government and the United Kingdom Government, which does not exist in Scotland. The process is, therefore, complex. It would be much easier if the powers were devolved to Wales, as is the case in Scotland.

Denu Buddsoddiad i Ddwyrain De Cymru

Attracting Investment to South Wales East

 

13. William Graham: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad i Ddwyrain De Cymru. OAQ(4)0179(FM)

13. William Graham: Will the First Minister outline the Welsh Government’s policies to attract investment to South Wales East. OAQ(4)0179(FM)

 

The First Minister: We continue to promote Wales’s strengths and capabilities proactively to secure high-quality investment opportunities.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn parhau i fynd ati yn rhagweithiol i hybu cryfderau a galluoedd Cymru i sicrhau cyfleoedd buddsoddi o’r safon uchaf.

William Graham: You will be aware that the recent Cities Outlook 2011 report by Centre for Cities underlined that Newport is among the British cities where the local economy is most sensitive to coming reductions in public sector spending. With this in mind, could you describe how your Government is going to work with the local authority to prioritise stimulating growth in the city’s private sector, particularly as Newport has yet again been overlooked as an enterprise zone?

 

William Graham: Byddwch yn gwybod bod yr adroddiad Cities Outlook 2011 gan Centre for Cities yn tanlinellu bod Casnewydd ymysg y dinasoedd Prydeinig lle mae’r economi leol yn fwyaf sensitif i’r lleihad sydd ar ddod mewn gwariant sector cyhoeddus. O gofio am hyn, a wnewch chi ddisgrifio sut mae eich Llywodraeth yn mynd i weithio gyda’r awdurdod lleol i roi blaenoriaeth i ysgogi twf yn sector preifat y ddinas, yn enwedig gan fod Casnewydd wedi cael ei hanwybyddu unwaith eto fel parth menter?

 

The First Minister: We are still open to proposals regarding enterprise zones in other parts of Wales. I regret that one of the major public sector job losses in Newport came as a result of the closure of the Newport Regional Passport Office, opposed by many in this Chamber, across all parties, but which has been taken forward by the UK Government.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn dal i groesawu cynigion am barthau menter mewn rhannau eraill o Gymru. Yr wyf yn edifar fod nifer fawr o swyddi sector cyhoeddus yng Nghasnewydd wedi eu colli oherwydd cau Swyddfa Basport Ranbarthol Casnewydd, a wrthwynebwyd gan nifer yn y Siambr hon, ym mhob plaid, ond sydd wedi cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU.

 

Lindsay Whittle: First Minister, thank you for your answers to William Graham. Attracting private investment to south-east Wales relies heavily on how strong our infrastructure is in comparison with our near neighbours across the border. We all know that the Brynglas tunnels on the M4 are a blood clot to one of our main arteries in south Wales. What plans does the Government have to attract capital investment by improving the infrastructure of south-east Wales? I am sure that you will not resort to private finance initiatives.

 

Lindsay Whittle: Brif Weinidog, diolch am eich atebion i William Graham. Mae denu buddsoddiad preifat i dde-ddwyrain Cymru yn dibynnu’n helaeth ar ba mor gryf yw ein seilwaith o’i gymharu â’n cymdogion agos ar draws y ffin. Yr ydym i gyd yn gwybod bod twneli Brynglas ar yr M4 yn rhwystr i un o’n priffyrdd yn y de. Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ddenu buddsoddiad cyfalaf drwy wella seilwaith de-ddwyrain Cymru? Yr wyf yn siŵr na wnewch chi droi at fentrau cyllid preifat.

The First Minister: The M4 relief road carries a substantial cost—there was one estimate of £1 billion when your party was in Government, as One Wales Ministers will know; that is way beyond us, and it is more difficult now. Having said that, the first step towards better connectivity would be the completion of rail electrification to Cardiff and, we believe, to Swansea, and then the consideration of the electrification of the Valley lines. Those projects would be a good start to improve connectivity in south-east Wales.

Y Prif Weinidog: Mae cost sylweddol i ffordd liniaru yr M4—cafwyd un amcangyfrif o £1 biliwn pan oedd eich plaid mewn Llywodraeth, fel y gŵyr Gweinidogion Cymru’n Un; mae hynny ymhell o’n cyrraedd, ac mae’n fwy anodd bellach. Wedi dweud hynny, y cam cyntaf tuag at gysylltedd gwell fyddai cwblhau trydaneiddio’r rheilffordd i Gaerdydd, ac, fe gredwn, i Abertawe, ac wedyn ystyried trydaneiddio llinellau’r Cymoedd. Byddai’r projectau hynny yn fan cychwyn da i wella cysylltedd yn ne-ddwyrain Cymru.

 

Twf Economaidd

Economic Growth

 

14. Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer rhoi hwb i dwf economaidd. OAQ(4)0172(FM)

14. Nick Ramsay: Will the First Minister make a statement on his policies for boosting economic growth. OAQ(4)0172(FM)

 

The First Minister: Growth and sustainable jobs are at the heart of our programme for government.

 

Y Prif Weinidog: Mae twf a swyddi cynaliadwy wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu.

Nick Ramsay: I am sure that the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has brought you up to date with a meeting that we held recently with a group of entrepreneurs who had ideas and concerns about policies currently being pursued by the Government. A number of concerns were raised about the operation of Finance Wales, and the inability of certain businesses to access its money in the way that they would like. In the light of those criticisms, will you, along with the Minister for business, undertake a root-and-branch review of the way that Finance Wales operates to ensure that, at this time when accessing finance from banks is difficult, at least the resource that is available from the Welsh Government—and I accept that it is not always available—goes where it is needed, to the front line, and to businesses in Wales that are finding times difficult?

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn siŵr bod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth wedi rhoi’r diweddaraf i chi am gyfarfod a gawsom yn ddiweddar gyda grŵp o entrepreneuriaid a oedd â syniadau a phryderon am bolisïau sy’n cael eu dilyn gan y Llywodraeth ar y funud. Codwyd nifer o bryderon am y modd oedd Cyllid Cymru yn cael ei weithredu, a’r ffaith nad oedd rhai busnesau yn gallu cael mynediad at ei arian yn y ffordd y byddent yn ei hoffi. O ystyried y beirniadaethau hynny, a wnewch chi, ynghyd â’r Gweinidog busnes, gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r ffordd mae Cyllid Cymru yn gweithredu er mwyn sicrhau, ar adeg pan fo cael gafael ar gyllid gan fanciau yn anodd, fod yr adnodd sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru o leiaf—er fy mod yn derbyn nad yw ar gael drwy’r adeg—yn mynd i lle mae ei angen, i’r rheng flaen, ac i fusnesau yng Nghymru sy’n cael amser anodd?

 

The First Minister: I know that the Minister is considering all representations that are being made and is examining the way forward for Finance Wales.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn gwybod bod y Gweinidog yn ystyried yr holl sylwadau sy’n cael eu gwneud ac yn edrych ar y ffordd ymlaen i Gyllid Cymru.

 

Ardal Adnewyddu Hafod

The Hafod Renweal Area

 

15. Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Ardal Adnewyddu Hafod yn Nwyrain Abertawe. OAQ(4)0173(FM)

15. Mike Hedges: Will the First Minister provide an update on the Hafod Renewal Area scheme in Swansea East. OAQ(4)0173(FM)

 

The First Minister: Since 2000, the Hafod renewal area has received approximately £19 million in Welsh Government funding. In March of this year, the area was re-declared for a further two years.

 

Y Prif Weinidog: Ers 2000, mae ardal adnewyddu Hafod wedi derbyn tua £19 miliwn mewn arian gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Mawrth eleni, cafodd yr ardal ei hailddatgan am ddwy flynedd arall.

Mike Hedges: I thank the First Minister for that. It is unfortunate that all the work could not have been done in the first 10 years. The Liberal-Democrat-run City and County of Swansea Council must take some of the blame for that. I thank you for the commitment to a further two years of funding, but how can you make sure that Swansea council gets it done? Those houses that have missed out through no fault of their own have the same needs as others, and really need to be dealt with before the scheme comes to an end.

 

Mike Hedges: Diolch i’r Prif Weinidog am hynny. Mae’n drueni na chafodd y gwaith i gyd ei wneud yn y 10 mlynedd cyntaf. Mae’n rhaid i Gyngor Dinas a Sir Abertawe a redir gan y Democratiaid Rhyddfrydol gymryd rhywfaint o’r bai am hynny. Diolch am eich ymrwymiad i ddwy flynedd arall o gyllid, ond sut y gallwch chi sicrhau bod cyngor Abertawe yn gwneud y gwaith? Mae gan y tai hynny sydd wedi colli allan heb fod bai arnynt hwy yr un anghenion ag eraill, ac mae gwir angen delio â nhw cyn y daw’r cynllun i ben. 

The First Minister: I know that officials from the Welsh Government are working with officials from the City and County of Swansea to make sure that the renewal area in the Hafod is completed as we expect it to be.

 

Y Prif Weinidog: Gwn fod swyddogion o Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion o Ddinas a Sir Abertawe i sicrhau bod yr ardal adnewyddu yn yr Hafod yn cael ei chwblhau fel y byddem yn disgwyl.

Suzy Davies: The Hafod renewal area has not been a resounding success, it is probably fair to say. What actions will you be taking, First Minister, to ensure that lessons are learned from the way that this scheme has been delivered in Swansea, and that those lessons are applied to other, similar schemes in future? As you have said, this Assembly term is all about delivery rather than good intentions.

 

Suzy Davies: Nid yw ardal adnewyddu Hafod wedi bod yn llwyddiant ysgubol, byddai’n deg i ddweud mae’n siŵr. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd, Brif Weinidog, i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu o’r ffordd mae’r cynllun wedi cael ei gyflwyno yn Abertawe, a bod y gwersi hynny yn cael eu cymhwyso i gynlluniau eraill, tebyg yn y dyfodol? Fel y dywedoch, mae tymor y Cynulliad hwn yn ymwneud â darparu yn hytrach na bwriadau da.

  

The First Minister: Over 700 properties in the area have been helped. That is a substantial amount of delivery in the renewal area itself, but where there are lessons in the way that renewal areas are implemented, they will of course be learned.

 

Y Prif Weinidog: Mae dros 700 o eiddo wedi cael eu helpu. Mae hynny yn ddarpariaeth sylweddol yn yr ardal adnewyddu ei hun, ond lle bynnag y bo gwersi yn y ffordd y caiff ardaloedd adnewyddu eu gweithredu, byddant wrth gwrs yn cael eu dysgu.

 

Bethan Jenkins: We also have renewal areas in other parts of Wales, such as Melincryddan, in Neath, where people have been saying that it is all well and good to update properties externally, but unless you also target the social behaviour of people living in the area, it is difficult to see how it will have any effect. I hope that these lessons can be applied to the Hafod, and I wonder what discussions you can have with the team there to ensure that the lessons are learned from other areas that are facing difficulties.

 

Bethan Jenkins: Mae gennym ardaloedd adnewyddu mewn rhannau eraill o Gymru, fel Melincryddan yng Nghastell-nedd, lle mae pobl wedi bod yn dweud mai un peth yw diweddaru eiddo yn allanol, ond os nad ydych chi hefyd yn targedu ymddygiad cymdeithasol y bobl sy’n byw yn yr ardal, mae’n anodd ei weld yn cael unrhyw effaith. Gobeithio y caiff y gwersi hyn eu cymhwyso i’r Hafod. Tybed pa drafodaethau y medrwch chi eu cael gyda’r tîm yno i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu o’r ardaloedd eraill sy’n wynebu anawsterau.

 

The First Minister: Of course, it is not of itself enough to do that, but I am sure that the people who live in the housing renewal areas are more than happy to see the work that has taken place. I am familiar with Lower Brynamman and the work that is being done there, and people are very happy with the work that has been done on their houses. Of course, by the use of other policies, it is important that we target other factors such as anti-social behaviour and unemployment—but they run hand in hand with the renewal area schemes that have been of so much benefit to so many people in many parts of Wales.

 

Y Prif Weinidog: Wrth gwrs, nid yw’n ddigon ynddo’i hun i wneud hynny, ond yr wyf yn siŵr bod y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd adnewyddu tai yn fwy na bodlon i weld y gwaith a wnaethpwyd. Yr wyf yn gyfarwydd â Brynaman Isaf a’r gwaith a wneir yno, ac mae pobl yn fodlon iawn â’r gwaith a wnaethpwyd ar eu cartrefi. Wrth gwrs, drwy ddefnyddio polisïau eraill, mae’n bwysig ein bod yn targedu ffactorau eraill fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a diweithdra—ond maent yn rhedeg yn gyfochrog â’r cynlluniau ardal adnewyddu sydd wedi bod o gymaint o fudd i gymaint o bobl mewn sawl rhan o Gymru. 

Peter Black: Will you acknowledge that one of the reasons why the Hafod renewal scheme was not completed within the 10 years was because the Welsh Government money available for housing renewal areas was actually reduced? Will you also join me in congratulating the Liberal Democrat cabinet member with responsibility for housing who took the initiative in seeking to have the area re-declared, so as to ensure that this successful scheme was completed?

 

Peter Black: A wnewch chi gydnabod mai un o’r rhesymau pam na chafodd cynllun adnewyddu Hafod ei gwblhau o fewn y 10 mlynedd oedd bod yr arian gan Lywodraeth Cymru oedd ar gael ar gyfer ardaloedd adnewyddu tai wedi lleihau? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i longyfarch yr aelod cabinet o’r Democratiaid Rhyddfrydol gyda chyfrifoldeb dros dai a gymerodd gamau i sicrhau bod yr ardal yn cael ei hailddatgan, er mwyn sicrhau bod y cynllun llwyddiannus yn cael ei gwblhau?

 

The First Minister: I do not suppose that they had much choice, given that the scheme had not been completed. I am glad that the area has been re-declared, because it gives the opportunity now for the work to be completed.

Y Prif Weinidog: Nid wyf yn tybio bod fawr o ddewis ganddynt, o gofio nad oedd y cynllun wedi ei gwblhau. Yr wyf yn falch fod yr ardal wedi cael ei hailddatgan, achos mae’n rhoi cyfle nawr i’r gwaith gael ei gwblhau.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I have two changes to report to this week’s Government business, to clarify the titles of today’s statements. The Minister for Health and Social Services’s statement is on the launch of a consultation on the need to introduce legislation to ensure that parental consent is obtained for cosmetic piercing procedures carried out on young people. The Minister for Environment and Sustainable Development’s statement is on progress on reducing greenhouse gas emissions and preparing for climate change in Wales. Business for the next three weeks is shown on the business statement announcement that can be found among the agenda papers available to Members electronically.

 

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae gennyf ddau newid i’w adrodd i fusnes y Llywodraeth yr wythnos hon, er mwyn egluro teitlau datganiadau heddiw. Mae datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar lansiad ymgynghoriad ar yr angen i gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau caniatâd rhieni ar gyfer gweithdrefnau tyllu cosmetig a wneir ar bobl ifanc. Mae datganiad y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y cynnydd ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a pharatoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei ddangos ar y cyhoeddiad datganiad busnes sydd ymysg y papurau agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Darren Millar: Minister, I wonder whether you will be able to secure the opportunity for an update from the Minister for Health and Social Services on wheelchair services in Wales. I asked this question to you on 20 September this year, and you indicated that the Minister would be happy to bring forward a statement. However, we are still waiting for that statement while the services appear to be deteriorating, certainly in my part of Wales. Could you procure that statement as soon as possible, so that the Chamber can hold the Minister accountable for the action, or lack of action, on improving wheelchair services in Wales?

 

Darren Millar: Weinidog, tybed a allech chi sicrhau cyfle i gael y diweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar wasanaethau cadair olwyn yng Nghymru. Gofynnais y cwestiwn hwn i chi ar 20 Medi eleni, a dywedoch y byddai’r Gweinidog yn fodlon gwneud datganiad.  Fodd bynnag, yr ydym yn dal i aros am y datganiad hwnnw tra bod y gwasanaethau yn dirywio, fe ymddengys, yn sicr yn fy rhan i o Gymru. A fyddech chi’n gallu cael gafael ar y datganiad hwnnw gynted ag y bo modd, fel y gall y Siambr wneud y Gweinidog yn atebol am y gweithredu, neu’r diffyg gweithredu, ar wella gwasanaethau cadair olwyn yng Nghymru?

 

Jane Hutt: Progress is being made on the extensive review of wheelchair services, which engages with the service users who are critical to taking it forward. The health boards are responding. The Minister will update the Assembly on this in due course.

 

Jane Hutt: Mae cynnydd yn cael ei wneud ar adolygiad helaeth o wasanaethau cadair olwyn, sy’n ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth sy’n allweddol i fwrw ymlaen â hyn. Mae’r byrddau iechyd yn ymateb. Bydd y Gweinidog yn rhoi’r diweddaraf i’r Cynulliad cyn bo hir.

 

Bethan Jenkins: Minister, when I staged a short debate in the Senedd in December 2009 on the effectiveness of buffer zones in relation to open-cast mines, the then Minister for environment said that the policy needed to be tested and to bed down. Given that the judge’s ruling in the recent Court of Appeal case between Celtic Energy and the Welsh Government highlighted a number of inconsistencies regarding the coal mineral technical advice note 2 and buffer zones, could we have a debate in Government time on the buffer-zone policy, and could we have an update on whether the Government will change its mind in relation to this particular ruling?

 

Bethan Jenkins: Weinidog, pan gyflwynais ddadl fer yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2009 ar effeithiolrwydd clustogfeydd o ran pyllau glo brig, dywedodd y Gweinidog amgylchedd ar y pryd fod angen rhoi’r polisi ar brawf a’i sefydlogi. O gofio bod dyfarniad y barnwr yn yr achos diweddar yn y Llys Apêl rhwng Celtic Energy a Llywodraeth Cymru wedi amlygu nifer o anghysondebau o ran nodyn cyngor technegol mwynau glo 2 a chlustogfeydd, a allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ar y polisi clustogfeydd, ac a gawn ni ddiweddariad ar pa un a wnaiff y Llywodraeth newid ei meddwl o ran y dyfarniad arbennig hwn? 

Jane Hutt: It was important that we saw the impact of that policy in relation to buffer zones. The Minister will consider when is appropriate to update and report on the current position.

 

Jane Hutt: Yr oedd yn bwysig ein bod yn gweld effaith y polisi hwnnw o ran y clustogfeydd. Bydd y Gweinidog yn ystyried pryd fydd yn addas i roi diweddariad a chyflwyno adroddiad ar y sefyllfa bresennol.

Kirsty Williams: Minister, would it be possible for your Cabinet colleague the Minister for Environment and Sustainable Development to bring forward a statement on permitted development rights? Network Rail is currently installing a railway communications system on the Heart of Wales line that requires high microwave masts, which do not require planning permission because of permitted development rights. That is causing grave concern in communities such as Garth and Cilmeri, where the masts will be close to people’s homes. In the village of Garth, the mast will be close to a primary school. Constituents feel that this is an inappropriate use of permitted development rights, and that their concerns are not being listened to. Does the Minister for environment intend to issue guidance on this matter, or change the law on permitted development rights for masts of this kind?

 

Kirsty Williams: Weinidog, a fyddai’n bosibl i’ch cydweithiwr yn y Cabinet y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy gyflwyno datganiad ar hawliau datblygu a ganiateir? Mae Network Rail wrthi yn gosod system gyfathrebu rheilffordd ar hyn o bryd ar linell Calon Cymru sydd angen mastiau meicrodon uchel, nad ydynt angen caniatâd cynllunio oherwydd hawliau datblygu a ganiateir. Mae hyn yn achosi cryn bryder mewn cymunedau fel Garth a Chilmeri, lle bydd y mastiau yn agos i gartrefi pobl. Ym mhentref Garth, bydd y mast yn agos i ysgol gynradd. Mae etholwyr yn teimlo nad yw hyn yn ffordd briodol o ddefnyddio hawliau datblygu a ganiateir, ac nad oes neb yn gwrando ar eu pryderon. A yw’r Gweinidog amgylchedd yn bwriadu cyhoeddi canllawiau ar y mater hwn, neu newid y gyfraith ar gyfer hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer mastiau o’r math hwn? 

Jane Hutt: I thank the leader of the Welsh Liberal Democrats for raising this issue. I am sure that the Minister for environment will want to follow it up, because it is an issue on which planning permission is not needed and, therefore, it has not necessarily been brought to his attention. It is a wider issue to do with permitted development rights, and I am sure that the Minister will want to look at that.

 

Jane Hutt: Diolch i arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am godi’r mater hwn. Yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog amgylchedd am fynd ar drywydd hyn, oherwydd mae’n fater lle nad oes angen caniatâd cynllunio, ac felly, ni chafodd ei sylw ei dynnu ato o anghenraid. Mae’n fater ehangach i wneud â hawliau datblygu a ganiateir, ac yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog am edrych ar hynny.

 

Andrew R.T. Davies: Leader of the House, could we have a statement from the Minister for Health and Social Services on staffing in the NHS, particularly health boards’ ability to recruit junior doctors? Two health boards in my area have had issues recently, and that has put inordinate pressure on services. I accept that there is a Westminster dimension to this with cross-border issues, but there is also a role for the Welsh Government in working proactively with local health boards to ensure that we can attract junior doctors so that services can be provided in our district general hospitals.

 

Andrew R.T. Davies: Arweinydd y Tŷ, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar staffio yn y GIG, yn enwedig ar allu byrddau iechyd i recriwtio meddygon iau? Mae dau fwrdd iechyd yn fy ardal i wedi cael problemau yn ddiweddar, ac mae hynny wedi rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau. Derbyniaf fod dimensiwn San Steffan i hyn gyda materion trawsffiniol, ond mae rôl gan Lywodraeth Cymru hefyd i fod yn rhagweithiol gyda byrddau iechyd lleol i sicrhau ein bod yn gallu denu meddygon iau er mwyn darparu gwasanaethau yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth.

 

Jane Hutt: I am grateful to the leader of the opposition for recognising that this is an issue that extends beyond Wales. It is an issue relating to our ability to bring doctors to work in Wales. It is vital that the NHS has the appropriate number of staff with a mix of skills to meet fluctuating demand. This is an issue of maintaining our investment in health and social services in cash terms. We have 1,500 more front-line staff working in the NHS in Wales than in 2007. We have made great progress with those appointments, but, I know that the Minister for health is addressing these issues.

Jane Hutt: Diolch i arweinydd yr wrthblaid am gydnabod bod hwn yn fater sy’n ymestyn y tu hwnt i Gymru. Mae’n fater sy’n ymwneud â’n gallu i ddod â meddygon i weithio i Gymru. Mae’n bwysig fod gan y GIG y nifer priodol o staff gyda chymysgedd o sgiliau i gwrdd â galw cyfnewidiol. Mater yw hyn o gynnal ein buddsoddiad mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn termau arian parod. Mae gennym 1,500 yn fwy o staff rheng flaen yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag yn 2007. Yr ydym wedi gwneud cynnydd mawr gyda’r penodiadau hynny, ond gwn fod y Gweinidog iechyd yn ymdrin â’r materion hyn.    

 

2.30 p.m.

 

Llyr Huws Gruffydd: Yr wyf ar ddeall y bydd y panel a sefydlwyd gan Weinidog yr amgylchedd i edrych ar TB mewn gwartheg yn cynnal ei gyfarfod olaf wythnos nesaf. O gofio bod 700 o wartheg yn dal i gael eu colli bob mis o ganlyniad i TB, a hefyd o gofio datganiad gwreiddiol y Gweinidog, yn ôl ym mis Mehefin, am bwysigrwydd dod i gasgliad buan er mwyn sicrhau nad yw’r ymdrech i ddileu TB mewn gwartheg yn colli momentwm, a wnewch chi sichrau y bydd cyfle buan i’r Cynulliad drafod yr argymhellion hyn pan bydd y panel wedi’u cyflwyno?

Llyr Huws Gruffydd: I understand that the panel established by the Minister for environment to look at bovine TB holds its final meeting next week. Bearing in mind that 700 cattle are still lost every month as a result of TB, and also bearing in mind the Minister’s original statement, back in June, about the importance of coming to an early conclusion to ensure that efforts to eradicate TB in cattle do not lose momentum, will you ensure that there will be an early opportunity for the Assembly to discuss these recommendations when the panel has produced them?

 

Jane Hutt: The Minister expects the report to be delivered later in the autumn and I know that he will want to bring this to the Assembly as soon as is appropriate.

 

Jane Hutt: Mae’r Gweinidog yn disgwyl i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn yr hydref ac rwy’n gwybod y bydd am ddod â hyn i’r Cynulliad cyn gynted â phosibl.

 

Eluned Parrott: Given the announcement last week on the withdrawal of Welsh European Funding Office funding for POWIS, the Prince of Wales Innovation Scholarships, at the University of Wales—as we all know, it is Wales’s only innovation fund—I request a statement from the relevant Minister on what this will be replaced with and how innovation and engagement in higher education is to be funded in the future?

 

Eluned Parrott: O ystyried y datganiad yr wythnos diwethaf ar dynnu arian Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ôl ar gyfer ysgoloriaethau POWIS ym Mhrifysgol Cymru—fel y gwyddom i gyd, dyma unig gronfa ddyfeisgarwch Cymru—gofynnaf am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ar beth fydd yn dod yn lle hyn a sut bydd dyfeisgarwch ac ymgysylltu mewn addysg uwch yn cael ei ariannu yn y dyfodol?

Jane Hutt: The Minister will be answering questions tomorrow and that will be an appropriate time to raise this question.

 

Jane Hutt: Bydd y Gweinidog yn ateb cwestiynau yfory a dyna fydd yr adeg priodol i ofyn y cwestiwn hwn.

Janet Finch-Saunders: This week, we heard that it could be another three years or more before people get care home fees refunds. That is unacceptable, as many residents and their relatives have already been waiting for over a decade for the return of their money. Will you ask the Minister for Health and Social Services to make a statement to the Chamber so that we can ascertain what positive steps are being taken by the Welsh Government to ensure that these moneys are refunded quickly, as a matter of some priority?

 

Janet Finch-Saunders: Yr wythnos hon, clywsom y gallai fod yn dair blynedd neu fwy tan y bydd pobl yn cael ad-daliadau ffioedd cartrefi gofal. Nid yw hyn yn dderbyniol, gan fod nifer o breswylwyr a’u perthnasau wedi bod yn aros dros ddegawd i gael dychwelyd eu harian. A wnewch chi ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud datganiad i’r Siambr fel ein bod yn gallu sefydlu pa gamau cadarnhaol sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ad-dalu yn gyflym, fel blaenoriaeth?

 

Jane Hutt: This is a matter that is being undertaken. It is an ongoing issue; there are many outstanding cases and it is being taken forward by the health service, along with the Minister for Health and Social Services, to ensure that we get a speedy result for the families of those who are affected and those who are cared for themselves.

 

Jane Hutt: Mae hwn yn fater sy’n cael sylw. Mae’n fater parhaus; mae nifer o achosion heb eu datrys ac mae’n cael ei ddwyn ymlaen gan y gwasanaeth iechyd, ynghyd â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i sicrhau ein bod yn cael ymateb cyflym ar gyfer teuluoedd y rhai yr effeithir arnynt a’r rhai y gofelir amdanynt eu hunain.

 

Aled Roberts: You may be aware of comments in The Sunday Times last week regarding the provision of tuition fees and the legal advice that may have been given to the Scottish Government regarding the status of European Union students studying in England and the impact of Scottish policy on that issue. Will you ensure that the Minister for Education and Skills brings forward a statement outlining his confidence in respect of the policy currently being adopted by the Welsh Government, and whether that is backed up with legal advice?

 

Aled Roberts: Hwyrach eich bod yn gwybod am sylwadau yn The Sunday Times wythnos ddiwethaf am ddarpariaeth ffioedd dysgu a’r cyngor cyfreithiol a roddwyd efallai i Lywodraeth yr Alban am statws myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn astudio yn Lloegr ac effaith polisi yr Alban ar hynny. A wnewch chi sicrhau bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn cyflwyno datganiad yn amlinellu ei hyder yn y polisi sy’n cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a pa un a yw hynny wedi ei gefnogi gan gyngor cyfreithiol? 

Jane Hutt: The Minister is quite clear about the tuition fee policy in Wales in relation to EU students. We are not here to comment upon the position in Scotland. We are confident of our position in relation to tuition fee funding arrangements.

 

Jane Hutt: Mae’r Gweinidog yn eithaf clir am y polisi ffioedd dysgu yng Nghymru mewn perthynas â’r UE. Nid ydym yma i wneud sylwadau am y sefyllfa yn yr Alban. Rydym yn hyderus o’n safbwynt mewn perthynas â threfniadau ariannu ffioedd dysgu.

 

Antoinette Sandbach: I would be grateful if the Deputy Minister for Agriculture would make an oral statement to the Chamber on the less favoured area position. As you have heard, it is a matter of great concern; 80 per cent of Wales falls within the LFA and European funding has certainly been allocated up until 2014 in relation to Tir Mynydd. Given the fact that this affects 80 per cent of the land mass in Wales, and the vast majority of Welsh farmers, I ask that the Deputy Minister makes an oral statement on this matter.

 

Antoinette Sandbach: Byddwn yn ddiolchgar pe bai’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth yn gwneud datganiad llafar i’r Siambr ar y sefyllfa o ran ardaloedd llai ffafriol. Fel y clywsoch, mae’n destun pryder mawr; mae 80 y cant o Gymru o fewn yr ardaloedd hynny ac mae arian Ewropeaidd yn sicr wedi ei ddyrannu hyd at 2014 mewn perthynas â Tir Mynydd. O ystyried bod hyn yn effeithio ar 80 y cant o wyneb y tir yng Nghymru, a’r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru, rwy’n gofyn i’r Dirprwy Weinidog wneud datganiad llafar ar hyn.   

Jane Hutt: This issue certainly had a good airing in First Minister’s questions. EU changes have brought this about and I believe that the Deputy Minister has made our responsibilities in terms of these changes very clear.

Jane Hutt: Cafodd y mater hwn ei drafod yn helaeth yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Newidiadau UE sydd wedi creu hyn a chredaf fod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud ein dyletswyddau yn glir iawn o ran y newidiadau hyn.

 

 

Datganiad: Lansio Ymgynghoriad ar yr Angen i Gyflwyno Deddfwriaeth i Sicrhau Caniatâd Rhieni ar gyfer Prosesau Tyllu Cosmetig ar Bobl Ifanc
Statement: Launch of a Consultation on the Need to Introduce Legislation to Ensure Parental Consent for Cosmetic Piercing Procedures Carried out on Young People

 

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I am pleased to launch a consultation today that seeks views on the need to introduce legislation to ensure parental consent for cosmetic piercing procedures carried out on young people. The consultation meets a key action in the programme for government, which the First Minister announced last month. I see the proposals as an effort to protect young people’s safety and wellbeing.

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Rwy’n falch o lansio ymgynghoriad heddiw sy’n ceisio sylwadau ar yr angen i gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau caniatâd rhieni ar gyfer tyllu cosmetig ar bobl ifanc. Mae’r ymgynghoriad yn ymateb i bwynt gweithredu allweddol yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu, y gwnaeth y Prif Weinidog ei chyhoeddi fis yn ôl. Rwy’n gweld y cynigion fel ymdrech i amddiffyn diogelwch a lles pobl ifanc.

 

A cosmetic piercing can be defined as the perforation of the skin and underlying tissue in order to create a hole in the skin through which jewellery may be inserted. Cosmetic piercings may also be referred to as body piercings, cosmetic body piercings or skin piercings. A cosmetic piercing involves the piercing of any site on the body, including the eyebrow, ears, nose, lip, tongue, cheek, neck and navel. A cosmetic piercing of the nipples or genitalia is referred to in the consultation as ‘intimate cosmetic piercings’.

 

Gellir diffinio tyllu cosmetig fel tyllu’r croen a’r meinwe oddi tano er mwyn creu twll yn y croen y gellir gosod gemwaith ynddo. Gellir cyfeirio at dyllu cosmetig hefyd fel tyllu’r corff, tyllu’r corff yn gosmetig neu dyllu’r croen. Mae tyllu cosmetig yn golygu tyllu unrhyw ran o safle ar y corff, gan gynnwys yr aeliau, clustiau, trwyn, gwefus, tafod, boch, gwddf a bogail. Cyfeirir at dyllu cosmetig y tethau neu organau rhywiol yn yr ymgynghoriad fel ‘twll cosmetig mewn rhan bersonol o’r corff’.     

Around a third of people who have a cosmetic piercing other than of the earlobes experience complications, and around half of those who experience complications consider them serious enough to seek professional help. These complications can include swelling, infection, bleeding, allergy, tearing or physical injury. Although most problems associated with a cosmetic piercing are usually minor and self-limiting, some complications are serious enough to require medical attention or admission to hospital and there are individual cases of significant damage to a young person’s health. Complications can be particularly serious for those with underlying health conditions, and there have been tragic cases where individuals have died following a cosmetic piercing. Any piercing of the skin, including cosmetic piercing, carries a small risk of transmission of blood-borne viruses. Such risks arise primarily where unclean or non-sterile equipment is used, where unhygienic premises or practices are maintained and/or where aftercare is lacking.

 

Mae tua traean o bobl sy’n cael twll cosmetig mewn rhan ar wahân i labed y clust yn cael cymhlethdodau, ac mae tua hanner y rhai sy’n cael cymhlethdodau yn eu hystyried yn ddigon difrifol i chwilio am help proffesiynol. Mae’r cymhlethdodau hyn yn gallu cynnwys chwyddo, haint, gwaedu, alergedd, rhwygo neu anaf corfforol. Er bod y rhan fwyaf o broblemau a gysylltir â thyllu cosmetig fel arfer yn rhai bach ac yn rhai y gellir eu cyfyngu eich hun, mae ambell i gymhlethdod yn ddigon difrifol i fod angen sylw meddygol neu anfon i’r ysbyty ac mae achosion unigol o niwed sylweddol i iechyd person ifanc. Gall cymhlethdodau fod yn arbennig o ddifrifol i’r sawl sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol, a chafwyd achosion trasig pan fu unigolion farw yn dilyn tyllu cosmetig. Mae unrhyw dyllu’r croen, gan gynnwys tyllu cosmetig, gyda risg fach o drosglwyddo feirysiau a gludir yn y gwaed. Mae’r risgiau o’r fath yn codi pan y caiff offer budr neu heintiedig ei ddefnyddio, lle mae eiddo neu arferion budr yn cael eu cynnal ac/neu lle mae diffyg ôl-ofal.  

Cosmetic piercings are known to be more common in younger age groups, particularly among young women. Research in England found that nearly 50 per cent of women and 13 per cent of men aged 16 to 24 reported having a cosmetic piercing other than in their earlobe. Local authorities in Wales can currently require cosmetic piercers to register their businesses and to follow rules relating to cleanliness and hygiene. However, there is no statutory minimum age of consent for cosmetic piercing in Wales and therefore a young person can themselves give permission to have a cosmetic piercing. This also applies to intimate cosmetic piercing, although for young people under 16 years of age, an intimate cosmetic piercing could be classed as an offence, depending on the facts of the case. Although many young people make the decision to have a cosmetic piercing in discussion with their parent or guardian, some young people take this decision without their parent or guardian’s involvement and permission.

 

Mae’n wybyddus bod tyllu cosmetig yn fwy cyffredin ymysg grwpiau oedran iau, yn enwedig ymysg merched ifanc. Canfu ymchwil yn Lloegr fod bron i 50 y cant o ferched a 13 y cant o ddynion rhwng 16 a 24 oed yn dweud iddynt gael twll gosmetig rhywle ar wahân i labed y glust. Ar hyn o bryd, gall awdurdodau lleol yng Nghymru ei gwneud yn ofynnol i dyllwyr cosmetig gofrestru eu busnesau a dilyn rheolau yn ymwneud â glanweithdra a hylendid. Fodd bynnag, nid oes isafswm oed statudol i gael caniatâd ar gyfer tyllu cosmetig yng Nghymru, ac felly gall person ifanc roi caniatâd iddynt eu hunain i gael twll cosmetig. Mae hyn hefyd yn gymwys i dyllu cosmetig mewn rhan bersonol o’r corff, er y gellid ystyried fod twll cosmetig mewn rhan bersonol o’r corff i rywun o dan 16 oed fod yn drosedd, yn dibynnu ar ffeithiau’r achos. Er bod nifer o bobl ifanc yn penderfynu cael twll cosmetig mewn trafodaeth gyda’u rhiant neu warcheidwad, mae rhai pobl ifanc yn penderfynu gwneud hyn heb gynnwys na chael caniatâd eu rhiant neu warcheidwad.

 

Parents and guardians are responsible for the care and protection of the young people in their care, as well as for providing them with the skills and knowledge to make good choices. Given that a cosmetic piercing can have an impact upon a young person’s safety and wellbeing, we think it appropriate to consider whether a parent or guardian should be required to provide their permission before a cosmetic piercing procedure is carried out. Requiring the involvement of a parent or guardian will ensure that they have the opportunity to discuss with the young person their desire to have a cosmetic piercing and are present to support the young person during the procedure. Most importantly, the involvement of a parent may help reduce the potential health risks associated with cosmetic piercing. The parent or guardian can help the young person to choose a registered piercer to perform the piercing and can ensure that the young person follows the correct aftercare procedures to minimise any risk of infection.

 

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gyfrifol am ofalu a diogelu am bobl ifanc yn eu gofal, yn ogystal â darparu’r sgiliau a’r wybodaeth iddynt wneud dewisiadau da. O ystyried bod tyllu cosmetig yn gallu effeithio ar ddiogelwch a lles person ifanc, credwn ei bod yn briodol ystyried a ddylid gofyn i riant neu warcheidwad roi eu caniatâd cyn y cynhelir proses tyllu cosmetig. Bydd ei gwneud yn ofynnol i riant neu warcheidwad fod yn gysylltiedig sicrhau eu bod yn cael cyfle i drafod gyda’r person ifanc eu dymuniad i gael twll cosmetig a’u bod yn bresennol i gefnogi’r person ifanc yn ystod y broses. Yn bwysicaf oll, fe all cysylltiad rhiant helpu i leihau’r risgiau iechyd posibl sy’n gysylltiedig â thyllu cosmetig. Gall y rhiant neu warcheidwad helpu’r person ifanc i ddewis tyllwr cofrestredig i wneud y tyllu a gall sicrhau fod y person ifanc yn dilyn y gweithdrefnau ôl-ofal cywir er mwyn lleihau unrhyw berygl o haint.     

Peer pressure to have a cosmetic piercing may also be a factor in some young people’s decision to have a cosmetic piercing. Requiring a parent or guardian’s involvement and permission may help to reduce that pressure. The Health and Safety Executive provides guidance to local authorities on cosmetic piercing, which includes advising piercers to adopt reasonable age restrictions to avoid parental conflict. For those piercers willing to pierce young people under 16 years of age, the guidance advises the attendance of a parent or guardian. Cosmetic piercers are expected to follow this guidance, but it is only guidance and they do not have to do it by law.

 

Gall pwysau gan gyfoedion i gael twll cosmetig hefyd fod yn ffactor ym mhenderfyniad rhai pobl ifanc i gael twll cosmetig. Gall gofyn am gysylltiad neu ganiatâd rhiant neu warcheidwad helpu i leihau’r pwysau hwnnw. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddarparu canllawiau i awdurdodau lleol ar dyllu cosmetig, sy’n cynnwys cynghori tyllwyr i fabwysiadu cyfyngiadau oed rhesymol er mwyn osgoi gwrthdaro â rhieni. O ran y tyllwyr hynny sy’n fodlon tyllu pobl ifanc o dan 16 oed, mae’r canllawiau yn cynghori y dylai rhiant neu warcheidwad fod yn bresennol. Disgwylir i dyllwyr cosmetig ddilyn y canllawiau hyn, ond dim ond canllawiau ydynt ac nid oes rhaid iddynt wneud hynny yn ôl y gyfraith.

 

We are consulting on the possible introduction of new legislation that will cover the following key areas. First, we are consulting on the need for a parent or guardian to give their permission, both in writing and through attendance at the piercing appointment, before a young person below a certain age can have a cosmetic piercing. Secondly, we are consulting on a clear age restriction for intimate cosmetic piercings and, thirdly, on a standard set of questions that must be asked by the piercer before any cosmetic piercing procedure can be performed. If a minimum age of consent for cosmetic piercing were to be introduced in Wales, I would favour setting the age at 16. In the main, young people at 16 years of age are able to maturely and intelligently identify and consider the short and long-term risks and implications of having a cosmetic piercing and are able to understand and implement aftercare advice without the assistance of a parent or guardian. However, I very much want to hear the views of others.

 

Rydym yn ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn cwmpasu’r meysydd allweddol canlynol. Yn gyntaf, rydym yn ymgynghori ar yr angen i riant neu warcheidwad roi eu caniatâd, yn ysgrifenedig a thrwy fod yn bresennol yn yr apwyntiad tyllu, cyn y gall person ifanc o dan oed penodol gael twll cosmetig. Yn ail, rydym yn ymgynghori ar derfyn oed clir ar gyfer tyllu rhannau personol o’r corff ac, yn drydydd, ar gyfres o gwestiynau safonol mae’n rhaid i dyllwr eu gofyn cyn y gellir cynnal proses tyllu cosmetig. Pe bai isafswm oed caniatâd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, byddwn yn ffafrio ei osod yn 16 oed. Ar y cyfan, mae pobl ifanc 16 oed yn gallu nodi ac ystyried yn aeddfed a deallus y risgiau a’r goblygiadau tymor byr a hirdymor o gael twll cosmetig ac yn gallu deall a gweithredu cyngor ôl-ofal heb gymorth rhiant neu warcheidwad. Fodd bynnag, rwy’n eiddgar iawn i glywed beth yw barn pobl eraill.  

The consultation document sets out, in a balanced way, a number of reasons for and against change. We are seeking views from a wide range of stakeholders, including groups representing businesses, parents and young people. The deadline for comments is 31 January 2012.

 

Mae’r ddogfen ymgynghori yn amlinellu nifer o resymau, mewn ffordd gytbwys, o blaid ac yn erbyn newid. Rydym yn chwilio am safbwyntiau gan amrywiaeth helaeth o randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau yn cynrychioli busnesau, plant a phobl ifanc. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 31 Ionawr 2012.

 

I look forward to receiving the views of Assembly Members on this proposal, as I know there are many who are concerned about the current situation. The Petitions Committee, for instance, has lobbied strongly for change. I hope that as many people as possible respond to this consultation. A decision on the need to legislate will be taken following a full analysis of the consultation responses.

 

Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn safbwyntiau Aelodau Cynulliad ar y cynnig hwn, oherwydd fe wn fod nifer yn bryderus am y sefyllfa bresennol. Mae’r Pwyllgor Deisebau, er enghraifft, wedi lobïo yn gryf am newid. Gobeithio y bydd gymaint o bobl â phosibl yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Bydd penderfyniad am yr angen i ddeddfu yn cael ei wneud ar ôl gwneud dadansoddiad llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. 

Darren Millar: Thank you for your statement, Minister. We, on the Welsh Conservative benches, welcome the consultation that you have announced today on the cosmetic piercing of young people. There is no doubt that piercings have become increasingly popular, and not just piercings of the ear lobe, which is the more traditional piercing, but piercings of other, much more intimate parts of the body.

 

Darren Millar: Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Rydym ni ar feinciau y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r datganiad y gwnaethoch ei gyhoeddi heddiw ar dyllu cosmetig i bobl ifanc. Nid oes amheuaeth bod tyllau wedi dod yn fwy poblogaidd, ac nid dim ond tyllu llabed y glust, sef y tyllu mwy traddodiadol, ond tyllu rhannau eraill, llawer mwy personol, o’r corff.

We welcome the fact that you are consulting on regulation. The age of 16 is probably an appropriate age in terms of being an age of responsibility on this issue, particularly given that there can be significant health risks from piercings. Also, when parents become aware that their children have had piercings, particularly more intimate piercings, that can cause family conflict on occasions, particularly if people are from certain religious or ethnic backgrounds. We need to standardise the procedure that people go through. There is much good practice among people who perform piercings, but there is bad practice too and we need to eradicate that.

 

Rydym yn croesawu’r ffaith eich bod yn ymgynghori ar reoleiddio. Mae’n debyg bod 16 oed yn oed priodol o ran bod yn oed cyfrifol ar y mater hwn, yn arbennig o ystyried y gall fod peryglon iechyd sylweddol o dyllu. Hefyd, pan fo rhieni yn ymwybodol fod eu plant wedi cael tyllau, yn enwedig tyllau mewn rhai mwy personol o’r corff, fe all hynny weithiau greu anghydfod teuluol, yn enwedig os yw pobl yn dod o rai cefndiroedd crefyddol neu ethnig. Mae angen i ni safoni’r weithdrefn y mae pobl yn mynd drwyddi. Mae llawer o arfer da ymysg pobl sy’n gwneud tyllau, ond mae arfer gwael hefyd ac mae angen i ni ddileu hynny.

I have several questions. It seems to me that there should be different age of responsibility than 16 for intimate piercings. I feel that 18 would be a more appropriate age for those sorts of piercings, given the fact that young people may put themselves in a vulnerable position with someone if they undertake to have one of those piercings. Will you comment on that? Also, are you able to comment on how an adult would be able to properly demonstrate that they have parental responsibility when an individual presents for a piercing at a piercing salon?

 

Mae gennyf nifer o gwestiynau. Mae’n ymddangos i mi y dylai bod oedran cyfrifol gwahanol i 16 ar gyfer tyllu rhan bersonol o’r corff. Teimlaf fod 18 yn oed mwy addas ar gyfer y mathau hynny o dyllau, o ystyried y gall pobl ifanc roi eu hunain mewn sefyllfa fregus gyda rhywun os ydynt yn penderfynu cael un o’r tyllau hynny. A wnewch chi wneud sylwadau ar hynny? A ydych chi hefyd yn gallu gwneud sylwadau ar sut y byddai oedolyn yn gallu dangos yn briodol eu bod wedi cael caniatâd gan riant pan fo unigolyn yn ymddangos i gael twll mewn salon tyllu?

 

There have been some concerns that legislating in this way may lead to young people taking matters into their own hands, piercing themselves in an unsafe or unhygienic way, or going to a disreputable, unregistered business. What safeguards does the Minister intend to put in place through regulation and legislation in order to combat that? Can you tell us what discussions you or your officials have had so far with different religious or cultural groups that regard piercings as normal according to their religious customs and practice, and how the legislation may negatively impact on those customs and practices?

 

Bu rhai pryderon y gallai deddfu yn y ffordd hon arwain at bobl ifanc yn cymryd yr awenau eu hunain a thyllu eu hunain mewn ffordd anniogel neu fudr, neu fynd i fusnes ag enw drwg sydd heb ei gofrestru.  Pa gamau mae’r Gweinidog yn bwriadu eu rhoi ar waith drwy reoleiddio a deddfwriaeth er mwyn atal hynny? A allwch chi ddweud wrthym ba drafodaethau a gawsoch chi neu eich swyddogion hyd yma gyda grwpiau crefyddol neu ddiwylliannol sy’n ystyried tyllau fel rhan gyffredin o’u harferion crefyddol, a sut y gall deddfwriaeth gael effaith negyddol ar yr arferion hynny?   

One thing that I find bizarre, and it is an increasing trend in my part of the country in north Wales, is the tendency for young people to stretch their ear lobes rather than just to pierce them. With the stretching of an ear lobe there can be permanent damage to that part of the anatomy, which is irreversible. How will you, Minister, deal with that? I think it is called ‘gauging’. It is a significant change in someone’s cosmetic appearance that is irreversible. How will the regulations be able to deal with that? Should that also have a higher threshold in terms of an age of responsibility?

 

Rwy’n canfod un peth yn od iawn, ac mae’n duedd gynyddol yn fy rhan i o’r wlad yn y gogledd, yw’r duedd i bobl ifanc ymestyn llabedi eu clust yn hytrach na dim ond eu tyllu. Wrth ymestyn llabed y glust gall fod niwed parhaol i’r rhan hwnnw o’r corff, ac ni ellir ei newid yn ôl. Sut wnewch chi, Weinidog, ddelio efo hynny? Rwy’n credu mai ‘gauging’ maen nhw yn ei alw. Mae’n newid sylweddol i ymddangosiad rhywun, ac ni ellir ei newid yn ôl. Sut fydd y rheoliadau yn gallu delio efo hynny? A ddylai hynny hefyd gael trothwy uwch o ran oed cyfrifol? 

Finally, I understand that your predecessor Edwina Hart, when she was the Minister for health, established a task and finish group that looked at body piercings and whether there was a need for regulation. I know that that group produced a report that is available to you. Would you be able to publish that report, to ensure that it is in the public domain, in order to inform the debate as we go forward?

 

Yn olaf, rwy’n cael ar ddeall fod eich rhagflaenydd, Edwina Hart, pan roedd hi’n Weinidog iechyd, wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a edrychodd ar dyllu’r corff a pa un a oedd angen rheoleiddio. Rwy’n gwybod fod y grŵp wedi llunio adroddiad sydd ar gael i chi. A fyddech chi’n gallu cyhoeddi’r adroddiad hwnnw, er mwyn sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd, er mwyn hysbysu’r ddadl wrth i ni fynd yn ein blaenau?

 

Lesley Griffiths: I am pleased that you welcome the consultation and the good practice that goes on across Wales in some cosmetic piercing establishments.

 

Lesley Griffiths: Rwy’n falch eich bod yn croesawu’r ymgynghoriad a’r arfer da sy’n digwydd ledled Cymru mewn rhai sefydliadau tyllu cosmetig.

2.45 p.m.

 

You raised several points. Obviously, you can contribute to the consultation in writing with regard to several of the points you raised, but I will refer to a few of them. With regard to stretching the ear, it is the initial piercing of the skin that would come under this consultation. It would not cover the stretching of the earlobe, because that is something that a person would do after the initial piercing. You mentioned that you thought that 18 would be the correct age for intimate cosmetic piercings. Again, that is a view that you can feed into the consultation. As I said, I favour 16 for the whole process.

 

Fe wnaethoch chi godi sawl pwynt. Yn amlwg, gallwch gyfrannu i’r ymgynghoriad yn ysgrifenedig mewn perthynas â nifer o’r pwyntiau y gwnaethoch eu codi, ond fe gyfeiriaf at ambell un. O ran ymestyn y glust, tyllu’r croen yn y lle cyntaf a fyddai’n dod o dan yr ymgynghoriad hwn. Ni fyddai’n cwmpasu ymestyn llabed y glust, oherwydd rhywbeth y byddai rhywun yn ei wneud ar ôl y tyllu cyntaf yw hynny. Fe sonioch eich bod yn meddwl mai 18 fyddai’r oed cywir ar gyfer tyllu corff mewn rhan bersonol. Eto, dyna rywbeth y gallwch ei ddweud wrth ymateb i’r ymgynghoriad. Fel y dywedais, rwy’n ffafrio 16 ar gyfer yr holl broses.

 

With regard to people not going to a recognised cosmetic piercing establishment, obviously, local authorities in Wales have the adoptive powers under the Local Government Act 2003 to require individuals who perform cosmetic piercing to register themselves and their premises and to observe bye-laws relating to cleanliness and hygiene. Really, local authorities should be aware of all businesses providing these treatments. We hope that that will protect children and young people in that aspect. You mentioned the task and finish group that the previous Minister for health had. I know that the report did not make any recommendation on any age restriction for cosmetic piercing.

 

O ran pobl ddim yn mynd i sefydliad tyllu cosmetig cydnabyddedig, yn amlwg, mae’r pwerau mabwysiadol gan awdurdodau lleol yng Nghymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i’w gwneud yn ofynnol i unigolion sy’n tyllu’n gosmetig i gofrestru eu hunain a’u heiddo ac i lynu at is-ddeddfau yn ymwneud â glanweithdra a hylendid. Yn wir, dylai awdurdodau lleol wybod am bob busnes sy’n darparu’r triniaethau hyn. Gobeithiwn y bydd hynny yn diogelu plant a phobl ifanc yn hynny o beth. Sonioch am y grŵp gorchwyl a gorffen a oedd gan y Gweinidog iechyd blaenorol. Rwy’n gwybod na wnaeth yr adroddiad wneud unrhyw argymhelliad ar unrhyw derfyn oed ar gyfer tyllu cosmetig.

 

David Rees: Minister, I agree with and welcome the consultation. With regard to the enforcement side of the issue, I also agree with Darren Millar that we do not want to create a culture of living-room self-piercing. I notice that the definition of cosmetic piercing relates to creating a hole, but there is another form of piercing that we should note, namely tattooing. Tattooing also pierces the skin and can lead to the same infections you refer to in relation to cosmetic piercing. There is a minimum age of 18 for tattoos. Will you be looking at the relationship between cosmetic piercing, under your definition, and tattooing and considering the age restrictions in place to ensure that they are in balance?

 

David Rees: Weinidog, rwy’n cytuno â’r ymgynghoriad ac yn ei groesawu. O ran yr agwedd gorfodi ar y mater, rwyf hefyd yn cytuno â Darren Millar nad ydym am greu diwylliant o hunan-dyllu yn yr ystafell fyw. Sylwaf fod y diffiniad o dyllu gosmetig yn ymwneud â chreu twll, ond mae ffurf arall o dyllu y dylem ei ystyried, sef tatŵio. Mae tatŵio hefyd yn tyllu’r croen ac yn gallu arwain at yr un heintiau rydych yn cyfeirio atynt o ran tyllu cosmetig. Mae lleiafswm oedran o 18 ar gyfer tatwîau. A fyddwch chi’n edrych ar y berthynas rhwng tyllu cosmetig, o dan eich diffiniad chi, a thatŵio ac yn ystyried y terfynau oed sydd yn eu lle er mwyn sicrhau eu bod yn gytbwys? 

Lesley Griffiths: Thank you. I am glad that you welcome the consultation. You are quite right that the minimum age of consent under the Tattooing of Minors Act 1969 is 18. It is something that I have looked at, but I think that the two are very different. At 16, people can go out to work and live independently. I think that that is the right age for them to be able to understand the significance of cosmetic piercing and the after-care they would have to apply.

 

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy’n falch eich bod yn croesawu’r ymgynghoriad. Rydych yn gywir mai’r oedran caniatâd lleiaf o dan y Ddeddf Tatŵio Pobl Ifanc o dan Oed 1969 yw 18. Mae’n rhywbeth rwyf wedi edrych arno, ond rwy’n meddwl bod y ddau yn wahanol iawn. Yn 16 oed, gall bobl fynd allan i weithio a byw yn annibynnol. Rwy’n meddwl mai hwnnw yw’r oed cywir iddynt allu deall arwyddocâd tyllu cosmetig a’r broses ôl-ofal y byddai’n rhaid iddynt ei dilyn. 

 

Jocelyn Davies: Thank you, Minister, for the statement. However, I think that I am going to have to break the consensus that there appears to be between the Government and the opposition on this. You probably know that the Welsh Government is fast developing a reputation for inaction, so I should not criticise you for actually doing something, and I imagine that there are a number of very serious individual cases relating to piercings, but these are not necessarily related to age or a lack of parental consent. As you mentioned earlier, sometimes, these are due to underlying health problems. However, I am just wondering why you are doing this now when, surely, there are more urgent things to address. You are probably aware that the Royal College of Nursing is promoting a Bill to place on a statutory basis the protection of vulnerable people, and yet this appears to be your priority.

 

Jocelyn Davies: Diolch, Weinidog, am y datganiad.  Fodd bynnag, rwy’n credu y bydd yn rhaid i mi dorri’r consensws yr ymddengys sydd rhwng y Llywodraeth a’r wrthblaid ar hyn. Mae’n debyg eich bod yn gwybod fod Llywodraeth Cymru yn prysur ddatblygu enw am beidio gweithredu, felly ni ddylwn eich beirniadu am wneud rhywbeth, a gallaf ddychmygu bod nifer o achosion unigol difrifol iawn o ran tyllu, ond nid yw’r rhain o anghenraid yn gysylltiedig ag oed na diffyg caniatâd rhieni. Fel y sonioch yn gynharach, problemau iechyd gwaelodol sy’n gyfrifol am y rhain weithiau. Fodd bynnag, rwyf jest yn holi pam eich bod chi yn gwneud hyn rŵan pan fo pethau mwy brys i’w datrys. Mae’n debyg eich bod yn gwybod fod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn hyrwyddo Bil i roi diogelu pobl sy’n agored i niwed mewn statud, ond nid yw’n ymddangos fod hyn yn flaenoriaeth i chi.   

There are a couple of things I would like you to explain. It is important to me to know why this is your priority. The NHS Direct Wales website describes piercing as a fairly safe procedure that is undertaken by many. Looking around this Chamber, I can assure you that there are many here, including me, who have had piercings. We already have regulations, bye-laws and codes of practice. Minister, I think that you have to accept that you are not going to be able to legislate with regard to aftercare, unless, of course, you are intending to impose a duty other than the general welfare duty of parents.

 

Mae ambell beth yr hoffwn i chi eu hegluro. Mae’n bwysig i mi wybod pam mai hwn yw eich blaenoriaeth. Mae gwefan Galw Iechyd Cymru yn disgrifio tyllu fel gweithdrefn eithaf diogel a wneir gan lawer. O edrych o gwmpas y Siambr hon, gallaf eich sicrhau fod llawer yma, gan gynnwys fi, wedi cael tyllau. Mae rheoliadau, is-ddeddfau a chodau ymarfer gennym yn barod. Weinidog, rwy’n meddwl bod rhaid i chi dderbyn nad ydych yn mynd i allu deddfu o ran ôl-ofal, oni bai, wrth gwrs, eich bod yn bwriadu gosod dyletswydd ar wahân i’r ddyletswydd lles cyffredinol sydd ar rieni.  

I have a number of specific questions, having read your consultation document. I would like some clarification on the issue of intimate piercings, which have already been mentioned. Again, the NHS Direct Wales website says that these are illegal under the age of 16. However, your document and your oral statement contradict that. Have you had advice from the Counsel General on that matter? We know that there is little point asking him, but I would be happy to take your word on that. If it is not illegal for under-16s, before waiting for the legislation, perhaps you could seek a voluntary code with the industry on that as soon as possible.

 

Mae gennyf nifer o gwestiynau penodol, wedi darllen eich dogfen ymgynghori. Hoffwn rywfaint o eglurhad ar dyllu rhan bersonol o’r corff, y soniwyd amdano yn barod. Eto, mae gwefan Galw Iechyd Cymru yn dweud bod hyn yn anghyfreithlon o dan 16 oed. Fodd bynnag, mae eich dogfen a’ch datganiad llafar yn dweud yn groes i hynny. A gawsoch chi gyngor gan y Cwnsler Cyffredinol ar hynny? Gwyddom nad oes fawr o bwynt gofyn iddo, ond byddwn yn fodlon cymryd eich gair ar hynny. Os nad yw’n anghyfreithlon i’r rhai o dan 16 oed, cyn aros am y ddeddfwriaeth, efallai y dylech lunio cod gwirfoddol gyda’r diwydiant ar hynny cyn gynted ag y bo modd.

 

I would like you to clarify exactly who would be criminalised by the legislation that you have in mind. We all assume that you are only talking about criminalising or penalising the licenced piercers. You will have to consider seriously the fact that there would be more self-piercing or people piercing each other, and I am sure that you would be the last person who would want to criminalise young people in relation to how they treat their own bodies. I know a little bit about self-piercing, but we can have a chat about that some other time.

 

Hoffwn i chi egluro beth yn union fyddai’n cael ei gwneud yn drosedd gan y ddeddfwriaeth sydd gennych mewn golwg. Rydym i gyd yn cymryd eich bod ddim ond yn sôn am ei gwneud yn drosedd i dyllwyr trwyddedig neu eu cosbi nhw. Bydd yn rhaid i chi ystyried o ddifrif y byddai mwy o hunan-dyllu neu bobl yn tyllu ei gilydd, ac rwy’n siŵr mai chi fyddai’r olaf i fod eisiau gwneud troseddwyr o bobl ifanc o ran sut maent yn trin eu cyrff eu hunain, Rwy’n gwybod rhywfaint am hunan-dyllu, ond fe gawn ni sgwrs am hynny rhywdro eto.

Finally, I would like you to tell us why there is no lower limit on the age of children that parents can have pierced. I am thinking of babies and toddlers. Your website says that accident and emergency departments report a number of cases of jewellery embedded in the ears of babies. Obviously, there has been a complete failure of aftercare by parents in those cases. Therefore, I do not know why you were so keen on the parental consent, because there is no guarantee of aftercare, even when parents not only have the ability to consent, but have the control of the aftercare. So, I would like you to answer those questions, Minister, before we can consider giving you our support in this matter.

 

Yn olaf, hoffwn i chi ddweud wrthym pam nad oes terfyn is ar oed plant sydd wedi cael eu tyllu gan eu rhieni. Rwy’n meddwl am fabis a phlant bach. Mae eich gwefan yn dweud bod adrannau damweiniau ac achosion brys yn cofnodi sawl achos o emwaith wedi ymwreiddio yng nghlustiau babis. Yn amlwg, mae rhieni wedi methu’n llwyr â darparu ôl-ofal yn yr achosion hynny. Felly, wn i ddim pam eich bod mor frwd dros gael caniatâd rhieni, achos nid oes sicrwydd o ôl-ofal, hyd yn oed pan fo gan rieni nid yn unig y gallu i roi caniatâd, ond hefyd reolaeth dros ôl-ofal. Felly, hoffwn i chi ateb y cwestiynau hynny, Weinidog, cyn y gallwn ystyried rhoi ein cefnogaeth i chi ar y mater hwn. 

Lesley Griffiths: I look forward to the conversation about self-piercing. The Welsh Labour party manifesto, on which we were elected in May, stated that we would consult on whether legislation should be introduced that would require the involvement and consent of parents for cosmetic piercing procedures on a young person below a certain age. Then, it was a key action in the programme for Government. That is why I have launched this consultation today.

 

Lesley Griffiths: Edrychaf ymlaen at y sgwrs am hunan-dyllu. Dywedodd maniffesto Llafur Cymru, y cawsom ein hethol arno ym mis Mai, y byddem yn ymgynghori ar ba un a ddylid cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n gofyn am gynnwys rhieni a’u caniatâd ar gyfer prosesau tyllu cosmetig ar berson ifanc o dan oed arbennig. Roedd wedyn yn gam gweithredu allweddol yn y rhaglen ar gyfer llywodraethu. Dyna pam rwyf wedi lansio’r ymgynghoriad hwn heddiw. 

You mentioned aftercare; it is up to the cosmetic piercers to ensure that the young person, or any person, understands the aftercare. That is one of the reasons that the local authorities are responsible for ensuring that cosmetic piercers are registered, to provide that service. In relation to a minimum age, that is something that can be looked at, either as part of this consultation or, if need be, in the future. You are also right in saying that young people under the age of 16 are not able to consent lawfully to intimate cosmetic piercings, because it could be regarded as indecent assault. We have to be very careful about this. If the piercing is considered to be sexual, it could be an offence under the Sexual Offences Act 2003.

 

Fe sonioch am ôl-ofal; mae fyny i’r tyllwyr cosmetig sicrhau bod y person ifanc, neu unrhyw un, yn deall yr ôl-ofal. Dyna un o’r rhesymau pam fod awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau fod tyllwyr cosmetig wedi eu cofrestru, i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw. O ran yr oed lleiaf, mae hynny yn rhywbeth y gellir edrych arno, naill ai fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, neu yn y dyfodol os oes angen. Rydych hefyd yn gywir i ddweud nad yw pobl ifanc o dan 16 oed yn gallu rhoi caniatâd cyfreithiol i dyllu cosmetig mewn rhan bersonol o’r corff, oherwydd gellid ei ystyried fel ymosodiad anweddus. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn am hyn. Os ystyrir tyllu yn rhywiol, gallai fod yn drosedd o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.

 

Kirsty Williams: I thank the Minister for her statement and I look forward to responding fully to the consultation document in due course. I have a number of questions. In the previous Assembly, the Constitutional Affairs Committee received evidence about the principles that underline good legislation and when it is appropriate to legislate. Given that this is the first time that we have the full raft of powers at our disposal, it is important that we get the decisions right about when and how to legislate, to repay the confidence that the people of Wales had in us when they gave us those powers. If the overarching emphasis and reasoning behind your legislation is to protect young people from harm, what international experience and evidence do you have that legislation of this kind actually leads to a reduction in complications and health risks associated with piercing? As you say, figures are available for complications after piercing, but I have not seen any evidence to suggest that those are primarily for those of a certain age. What analysis, evidence and research have you carried out in Wales to ascertain whether this is a widespread problem that needs tackling?

 

Kirsty Williams: Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad ac rwy’n edrych ymlaen at ymateb yn llawn i’r ddogfen ymgynghori toc. Mae gennyf nifer o gwestiynau. Yn y Cynulliad blaenorol, derbyniodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol dystiolaeth am yr egwyddorion sy’n tanlinellu deddfwriaeth dda a phryd mae’n briodol i ddeddfu. O ystyried mai dyma’r tro cyntaf rydym wedi cael yr ystod lawn o bwerau i’w defnyddio, mae’n bwysig ein bod yn gwneud penderfyniadau cywir am bryd a sut i ddeddfu, er mwyn ad-dalu yr hyder a oedd gan bobl Cymru ynom ni pan wnaethant roi’r pwerau hynny i ni. Os mai’r pwyslais a’r rhesymeg gyffredinol tu ôl i’ch deddfwriaeth yw diogelu pobl ifanc rhag niwed, pa brofiad a thystiolaeth ryngwladol sydd gennych fod deddfwriaeth o’r fath yn arwain at lai o gymhlethdodau a risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thyllu? Fel y dywedwch, mae ffigurau ar gael ar gyfer cymhlethdodau ar ôl tyllu, ond ni welais unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y rhain yn bennaf ar gyfer rhai o oed arbennig. Pa ddadansoddiad, tystiolaeth ac ymchwil a wnaethoch chi yng Nghymru i weld a yw hon yn broblem helaeth sydd angen ei datrys?  

You referred to some incidents of severe harm in your statement. Will you elaborate on the nature of those and the numbers involved? What research have you done to see how widespread this problem is? You also mention in your statement that there is a great deal of guidance already available. What analysis has your Government carried out to ascertain whether that guidance is failing or not? Will you outline what is lacking in the current powers under the Local Government Act that already allows local government to require the registration and the good practice of piercing salons? Why do you feel that the current legislation is inadequate?

 

Bu ichi gyfeirio at rai achosion o niwed difrifol yn eich datganiad. A wnewch chi ymhelaethu ar natur y rheini a’r niferoedd? Pa ymchwil a wnaethoch i weld pa mor helaeth yw’r broblem? Rydych yn sôn yn eich datganiad fod llawer iawn o ganllawiau ar gael yn barod. Pa ddadansoddiad a wnaeth eich Llywodraeth i weld a yw’r canllawiau yn ddiffygiol ai peidio? A wnewch chi amlinellu beth yw’r diffyg yn y pwerau cyfredol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol sydd eisoes yn galluogi llywodraeth leol i’w gwneud yn ofynnol i salonau tyllu gofrestru a dilyn arfer da? Pam ydych chi’n teimlo bod y ddeddfwriaeth gyfredol yn annigonol? 

Of course, the danger of proceeding down this road is that young people will simply take it upon themselves to carry out piercing with or without the consent of their parent or guardian, if that is what they want to do. The ability to do that is greatly enhanced since the time when I was a teenager with a needle, a cork and an ice cube. Now, it is much easier to buy, via the internet, professional tools that could carry out piercing in a way that was not available not so very long ago. So, the ability of young people to take things into their own hands, and to have the resources and the ability to do that, is enhanced now perhaps more than before. What safeguards will you take to limit that?

 

Wrth gwrs, y perygl o ddilyn y llwybr hwn yw y bydd pobl ifanc yn penderfynu tyllu eu hunain gyda neu heb ganiatâd eu rhiant neu warcheidwad. Mae’r gallu i wneud hynny yn sylweddol fwy ers yr adeg roeddwn i yn fy arddegau gyda nodwydd, corcyn a chiwb o rew. Erbyn hyn, mae’n llawer haws i brynu, drwy’r rhyngrwyd, offer proffesiynol sy’n gallu tyllu mewn ffordd nad oedd ar gael ddim mor hir â hynny yn ôl. Felly, mae gallu pobl ifanc i gymryd yr awenau, a meddu ar yr adnoddau a’r gallu i wneud hynny, wedi ei ehangu bellach efallai yn fwy nag o’r blaen. Pa gamau a gymerwch chi i gyfyngu ar hynny?  

Could you outline who you expect to enforce the legislation, should it be decided to proceed along this route? I want to reinforce the points made by Jocelyn Davies about who would fall foul of the law? Is it the child, is it the individual piercer who may be working in that salon on that particular shift, or is it the owner of the salon? Who do you see being held responsible for failure to comply with the law should you proceed in this area?

 

A wnewch chi amlinellu pwy rydych chi’n disgwyl i orfodi’r ddeddfwriaeth, os penderfynir mynd lawr y trywydd hwn? Rwyf eisiau atgyfnerthu’r pwyntiau a wnaed gan Jocelyn Davies am bwy fyddai’n torri’r gyfraith? Ai’r plentyn, ai’r tyllwr unigol a allai fod yn gweithio yn y salon ar y shifft arbennig honno, neu ai perchennog y salon? Pwy welwch chi yn cael eu dal yn gyfrifol am fethu a chydymffurfio â’r gyfraith os ewch chi ymlaen yn y maes hwn?

 

Lesley Griffiths: I will start with the last question, because I realise that I did not answer Jocelyn’s question. Officials are looking at that. The initial response, I would say, is that it would be the cosmetic piercer. However, that is something that we are looking at.

 

Lesley Griffiths: Fe ddechreuaf gyda’r cwestiwn olaf, achos rwy’n sylweddoli na wnes i ateb cwestiwn Jocelyn. Mae swyddogion yn edrych ar hynny. Yr ymateb cychwynnol, byddwn yn ddweud, yw’r tyllwr cosmetig. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar hynny. 

Jocelyn also asked me about the Counsel General. I have not had a conversation with the Counsel General, but officials have, and every piece of work, such as this consultation, would go through legal services.

 

Gofynnodd Jocelyn i mi hefyd am y Cwnsler Cyffredinol. Ni chefais sgwrs â’r Cwnsler Cyffredinol, ond mae swyddogion wedi, a byddai bob darn o waith, fel yr ymgynghoriad hwn, yn mynd drwy’r gwasanaethau cyfreithiol.

We have to accept that there is limited evidence about the risks of cosmetic piercing of young people in Wales, and I think that the consultation paper acknowledges that. The evidence referred to in the document comes from research entitled ‘Body piercing in England: a survey of piercing at sites other than earlobe’. This research was published in the British Medical Journal in 2008. This piece of evidence was the first of its kind and was carried out by public health doctors. That is where we got our figures that nearly 50 per cent of women and 30 per cent of men aged 16 to 24 reported having a cosmetic piercing other than in their earlobe. The research also showed that over 25 per cent of people who have a cosmetic piercing, other than in their earlobe, experience problems, and about 50 per cent of that figure considers it serious enough to seek further help. We are working on those figures but, as I said, we acknowledge that there is not a huge amount of evidence available.

 

Mae’n rhaid i ni dderbyn mai cyfyng yw’r dystiolaeth am risgiau tyllu cosmetig i bobl ifanc yng Nghymru, ac rwy’n meddwl bod y papur ymgynghori yn cydnabod hynny. Mae’r dystiolaeth y cyfeirir ati yn y ddogfen yn dod o ymchwil o’r enw ‘Body piercing in England: a survey of piercing at sites other than earlobe’. Cyhoeddwyd yr ymchwil hwn yn y British Medical Journal yn 2008. Y darn yma o dystiolaeth yw’r cyntaf o’i fath ac fe’i gwnaed gan feddygon iechyd cyhoeddus. Dyna le cawsom ein ffigurau fod bron i 50 y cant o ferched a 30 y cant o ddynion rhwng 16 a 24 oed wedi dweud eu bod wedi cael twll cosmetig yn rhywle ar wahân i labed y glust. Dangosodd yr ymchwil hefyd fod dros 25 y cant o bobl sydd wedi cael twll cosmetig, yn rhywle ar wahân i labed eu clust, yn cael problemau, a bod tua 50 y cant o’r ffigur hwnnw yn ei ystyried yn ddigon difrifol i chwilio am ragor o help. Rydym yn gweithio ar y ffigurau hynny ond, fel y dywedais, rydym yn cydnabod nad oes swm anferth o dystiolaeth ar gael.

    

I encourage everyone to participate in this and to submit evidence into the consultation. Only after we have analysed it will we decide whether legislation is required.

 

Rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn hyn ac i gyflwyno tystiolaeth i’r ymgynghoriad. Dim ond ar ôl i ni ei ddadansoddi y byddwn yn penderfynu a oes angen deddfwriaeth.

3.00 p.m.

 

Datganiad: Cynnydd ynghylch Newid yn yr Hinsawdd o ran Lleihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a Pharatoi ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd
Statement: Climate Change Progress on Reducing Greenhouse Gas Emissions and Preparing for Climate Change

 

The Minister for Environment and Sustainable Development (John Griffiths): Our programme for government reaffirms the Welsh Government’s commitment to lead on tackling the causes and consequences of climate change, and I am pleased to be able to outline to you this afternoon the solid progress we are making in delivering the climate change strategy announced a year ago.

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (John Griffiths): Mae ein rhaglen ar gyfer llywodraethu yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arwain ar fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau’r newid yn yr hinsawdd, ac yr wyf yn falch o allu amlinellu ichi y prynhawn hwn y cynnydd cadarn yr ydym yn ei wneud wrth gyflawni’r strategaeth newid yn yr hinsawdd a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl.

 

This is a timely opportunity as the chair of the Energy and Climate Change Committee in Westminster has written to me today outlining his assessment of the progress being made by the Welsh Government in delivering the strategy and the associated emission reduction targets. I welcome this opportunity to share the committee’s findings with you.

 

Mae hwn yn gyfle amserol gan fod cadeirydd y Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd yn San Steffan wedi ysgrifennu ataf heddiw yn amlinellu ei asesiad o’r cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r strategaeth a’r targedau cysylltiedig ar gyfer lleihau allyriadau. Yr wyf yn croesawu’r cyfle hwn i rannu canfyddiadau’r pwyllgor â chi.

 

In reviewing our work to reduce greenhouse gas emissions, the committee has concluded that the Welsh Government is making good progress in all sectors in developing approaches to drive down emissions. As well as acknowledging our high level of ambition reflected in our 3 per cent emission reduction target, the committee has highlighted the waste and residential sectors as areas where significant progress has already been made.

 

Wrth adolygu ein gwaith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae’r pwyllgor wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd da ym mhob sector o ran datblygu dulliau i leihau allyriadau. Yn ogystal â chydnabod ein lefel uchel o uchelgais a adlewyrchir yn ein targed i leihau allyriadau 3 y cant, mae’r pwyllgor wedi tynnu sylw at y sectorau gwastraff a phreswyl fel ardaloedd lle y mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud eisoes.

 

In the residential sector, at least 6,000 homes have benefited from Arbed, our flagship, strategic, area-based energy performance investment programme. Arbed, combined with the home energy efficiency scheme and the boiler scrappage scheme, resulted in 25,000 Welsh homes becoming more energy efficient in 2010 and 2011. I am confident that phase 2 of Arbed, which will begin to roll out early next year, and Nest, our new fuel poverty scheme, will make a real difference to our communities and help to further reduce energy usage and emissions from some of Wales’s most vulnerable households.

 

Yn y sector preswyl, mae o leiaf 6,000 o gartrefi wedi elwa ar Arbed, ein rhaglen flaenllaw a strategol sy’n buddsoddi fesul ardal mewn perfformiad ynni. Mae Arbed, ynghyd â’r cynllun effeithlonrwydd ynni cartref a’r cynllun sgrapio boeleri, wedi arwain at 25,000 o gartrefi Cymru yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni yn 2010 a 2011. Rwy’n hyderus y bydd cam 2 Arbed, a fydd yn dechrau cael ei gyflwyno yn gynnar y flwyddyn nesaf, a Nest, ein cynllun tlodi tanwydd newydd, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau ac yn helpu i leihau ymhellach y defnydd o ynni ac allyriadau o rai o gartrefi mwyaf bregus Cymru.

 

In the waste sector, as a result of the implementation of the ‘Towards Zero Waste’ strategy, the volume of residual household waste is continuing to fall, while the amount of municipal waste being re-used, recycled or composted is increasing. The committee has predicted that if we can maintain this progress, Wales will go beyond the UK as a whole in reducing emissions from the waste sector.

 

Yn y sector gwastraff, o ganlyniad i weithrediad y strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, mae cyfaint gwastraff gweddilliol cartrefi yn parhau i ostwng, tra bod swm y gwastraff trefol sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn cynyddu. Mae’r pwyllgor wedi rhagweld, os gallwn barhau â’r cynnydd hwn, bydd Cymru yn mynd y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig gyfan o ran lleihau allyriadau o’r sector gwastraff.

 

The committee has also commended the Welsh Government on a solid range of policies in the transport, agriculture and business sectors, but has encouraged us to go further in developing policies to support behaviour change on transport, improve farming practices to help drive down emissions, and encourage take-up of renewable heat for business. I intend to work closely with Cabinet colleagues to explore opportunities to enhance action in these areas.

 

Mae’r pwyllgor hefyd wedi canmol Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth cadarn o bolisïau yn y sectorau trafnidiaeth, amaethyddiaeth a busnes, ond y mae wedi ein hannog i fynd ymhellach wrth ddatblygu polisïau i gefnogi newid mewn ymddygiad ar gludiant, gwella arferion ffermio i helpu i leihau allyriadau, ac annog manteisio ar wres adnewyddadwy ar gyfer busnes. Rwy’n bwriadu cydweithio’n agos â chydweithwyr yn y Cabinet i ystyried cyfleoedd i wella camau gweithredu yn y meysydd hyn.

 

The committee has noted that there is scope for further emission reductions, which could be secured through a shift towards more sustainable behaviours more widely across Wales. To this end, the climate change engagement strategy, which I recently announced, aims to help people to understand the need for change and will make an important contribution towards achieving the anticipated emission reductions from our policies and programmes.

 

Mae’r pwyllgor wedi nodi bod lle i leihau allyriadau ymhellach, y gellid ei sicrhau drwy symud tuag at ymddygiad mwy cynaliadwy yn ehangach ar draws Cymru. I’r perwyl hwn, mae’r strategaeth ymgysylltu ar y newid yn yr hinsawdd, a gyhoeddais yn ddiweddar, yn anelu at helpu pobl i ddeall yr angen am newid a bydd yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at gyflawni’r gostyngiadau disgwyliedig o ran allyriadau o’n polisïau a’n rhaglenni.

 

I would like to turn now to adaptation. As a result of past and current emissions, we cannot avoid some degree of climate change. Therefore, the Welsh Government is also delivering a progressive work programme to help Wales adapt to the changes that will affect many aspects of our lives in future. The committee has concluded that the Welsh Government is making good progress in implementing our adaptation delivery plan, particularly in the areas of land-use planning, water-resource management and flood awareness.

 

Hoffwn droi yn awr at addasu. O ganlyniad i allyriadau cyfredol a rhai’r gorffennol, ni allwn osgoi rhywfaint o newid yn yr hinsawdd. Felly, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno rhaglen waith blaengar i helpu Cymru i addasu i’r newidiadau a fydd yn effeithio ar lawer o agweddau ar ein bywydau yn y dyfodol. Mae’r pwyllgor wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd da wrth weithredu ein cynllun cyflawni ar gyfer ymaddasu, yn enwedig ym meysydd cynllunio defnydd tir, rheoli adnoddau dŵr ac ymwybyddiaeth llifogydd.

 

Finally, you will be aware that the 2009 greenhouse gas emission figures for Wales were published last month. The figures show that emissions in 2009 fell significantly. The last 20 years have seen dramatic changes in how we live and treat our environment, so this is welcome news. It is important that we recognise, however, that the economic downturn was a major factor in driving down emissions during this period, so there is no room for complacency. Looking ahead, we must maintain and look to enhance our efforts to reduce emissions, and everyone has a role to play in that.

 

Yn olaf, byddwch yn ymwybodol y cafodd ffigurau allyriadau nwyon tŷ gwydr 2009 ar gyfer Cymru eu cyhoeddi y mis diwethaf. Mae’r ffigurau’n dangos bod allyriadau yn 2009 wedi gostwng yn sylweddol. Mae’r 20 mlynedd diwethaf wedi gweld newidiadau dramatig yn y ffordd yr ydym yn byw ac yn trin ein hamgylchedd, felly mae hyn yn newyddion da. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod, fodd bynnag, y bu’r dirywiad economaidd yn ffactor bwysig yn gyrru i lawr allyriadau yn ystod y cyfnod hwn, felly nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Gan edrych ymlaen, mae’n rhaid i ni gynnal ac edrych i wella ein hymdrechion i leihau allyriadau, ac mae gan bawb rôl i’w chwarae yn hynny.

 

The sum of global efforts are, of course, critical if climate change is to be tackled effectively. To that end, we have committed to continue to share our approaches on this challenging agenda with regional and sub-national partners and learn from approaches being adopted elsewhere.

 

Mae swm yr ymdrechion byd-eang, wrth gwrs, yn hollbwysig os yw’r newid yn yr hinsawdd i gael ei daclo yn effeithiol. I’r perwyl hwnnw, yr ydym wedi ymrwymo i barhau i rannu ein dulliau gweithredu ar yr agenda heriol hwn gyda phartneriaid rhanbarthol ac is-genedlaethol, ac i ddysgu o ddulliau gweithredu sy’n cael eu mabwysiadu mewn mannau eraill.

 

I will formally respond to the committee’s advice in the Welsh Government’s first annual progress report on delivery of the climate change strategy, which will be laid before the Assembly in March 2012.

 

Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i gyngor y pwyllgor yn adroddiad cynnydd blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyflawni’r strategaeth newid yn yr hinsawdd, a fydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth 2012.

 

Russell George: I thank the Minister for his statement on the Government’s approach to tackling climate change, its progress on cutting greenhouse gases as well as the introduction of the new guidance, ‘Preparing for a changing climate’.

 

Russell George: Diolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad ar ymagwedd y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ei gynnydd ar leihau nwyon tŷ gwydr, yn ogystal â chyflwyniad y canllawiau newydd, ‘Paratoi ar gyfer hinsawdd sy’n newid’.

 

In looking at the general policy approach and emissions reduction in the first instance, the Minister is right to say that the effects of climate change over the next century will be significant. A rise in sea levels, extremes in climate, water scarcity, food scarcity, and a loss of biodiversity and habitats will all impact on how we live our lives on a daily basis. The moral duty on all of us as inhabitants of a developed country means that we must play our part to the full in reducing our environmental impact, and to mitigate the effects of climate change.

 

Wrth edrych ar y dull polisi cyffredinol a gostwng allyriadau yn y lle cyntaf, mae’r Gweinidog yn iawn i ddweud y bydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd dros y ganrif nesaf yn arwyddocaol. Bydd cynnydd yn lefel y môr, eithafion yn yr hinsawdd, prinder dŵr, prinder bwyd, a cholli bioamrywiaeth a chynefinoedd i gyd yn effeithio ar sut yr ydym yn byw ein bywydau bob dydd. Mae’r ddyletswydd foesol ar bob un ohonom fel trigolion gwlad ddatblygedig yn golygu bod yn rhaid inni chwarae ein rhan yn llawn wrth leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, ac i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

 

We discussed the Government’s ‘One Wales: One Planet—The Sustainable Development Annual Report 2010-2011’ two weeks ago. I will not rehash the points that I put forward at that time, other than to reiterate the concern of the Commissioner for Sustainable Futures that the sustainable development indicators for greenhouse gas emissions were of grave concern, in that progress had not been achieved.

 

Buom yn trafod ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned—Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy 2010-2011’ y Llywodraeth bythefnos yn ôl. Ni wnaf aildwymo’r pwyntiau a roddais gerbron ar y pryd, heblaw i ailadrodd pryder y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy bod y dangosyddion datblygu cynaliadwy ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yn destun pryder mawr gan na chafwyd cynnydd.

 

I welcome the reduction in the figures published at the beginning of September, however, a number of non-governmental organisations are rightfully worried that although the Government’s overall climate change vision is robust and that it has made good progress on the short-term actions required, the medium-term goal of a 3 per cent reduction per year from 2011 onwards and a long-term goal reduction of 40 per cent by 2020, against a 1990 baseline, will not be achieved.

 

Yr wyf yn croesawu’r gostyngiad yn y ffigurau a gyhoeddwyd ar ddechrau mis Medi; fodd bynnag, mae nifer o sefydliadau anllywodraethol yn poeni, wrth reswm, er bod gweledigaeth gyffredinol y Llywodraeth o ran newid yn yr hinsawdd yn gadarn a’i bod wedi gwneud cynnydd da ar y camau tymor byr sy’n ofynnol, ni fydd y nod tymor canolig o ostyngiad o 3 y cant y flwyddyn o 2011 ymlaen, neu’r nod tymor hir o leihad o 40 y cant erbyn 2020, yn erbyn llinell sylfaen 1990, yn cael eu cyflawni.

 

It comes back to the fact that sustainable development is not fully embedded at the core of Government, which is creating inconsistencies across departments in developing policy. We cannot afford to allow departments or the wider public sector—the largest employer in Wales—to prioritise sustainable development as an additional extra to the work of Government; it must be a central theme. For example, the Government’s sustainable development strategy, ‘One Wales: One Planet’, is absent from its economic strategy, ‘Economic Renewal: a new direction’. There is no mention of sustainable consumption and emissions reductions, despite there being a narrative for green jobs. This shows a lack of credibility. Is the Minister confident that the policy architecture set out in ‘One Wales: One Planet’ is right to deliver sustainability, or are changes now required?

 

Mae’n dod yn ôl at y ffaith nad yw datblygu cynaliadwy yn cael ei ymgorffori’n llawn wrth graidd y Llywodraeth, sy’n creu anghysonderau ar draws yr adrannau wrth ddatblygu polisi. Nid ydym yn gallu fforddio i ganiatáu i adrannau neu’r sector cyhoeddus ehangach—y cyflogwr mwyaf yng Nghymru—flaenoriaethu datblygu cynaliadwy fel rhywbeth ychwanegol at waith y Llywodraeth; mae’n rhaid iddo fod yn thema ganolog. Er enghraifft, mae strategaeth datblygu cynaliadwy y Llywodraeth, ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’, ar goll o’i strategaeth economaidd, ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’. Nid oes unrhyw sôn am ddefnydd cynaliadwy ac allyriadau gostyngiadau, er bod naratif ar gyfer swyddi gwyrdd. Mae hyn yn dangos diffyg hygrededd. A ydyw’r Gweinidog yn hyderus bod y seilwaith polisi a nodir yn ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ yn iawn i sicrhau cynaliadwyedd, neu a oes angen newidiadau yn awr?

 

Another area where the Government has fallen short is the emissions reduction plan. There are some good elements within the plan, but without a clear assessment of the impact of the carbon and ecological footprint on individual policies, programmes of expenditure and their accumulative impact, it is impossible for the Welsh Government to know whether its plans and programmes are sufficient to achieve the goals. Will the Minister comment on that fact?

 

Maes arall lle y mae’r Llywodraeth wedi methu yw’r cynllun lleihau allyriadau. Mae yna rai elfennau da o fewn y cynllun, ond heb asesiad clir o effaith y carbon ac ôl-troed ecolegol ar bolisïau unigol, rhaglenni gwariant a’u heffaith cronnus, mae’n amhosibl i Lywodraeth Cymru wybod a ydyw ei chynlluniau a’i rhaglenni yn ddigonol i gyrraedd y nodau. A wnaiff y Gweinidog roi sylw ar y ffaith hwnnw?

 

Sir John Houghton recently raised the matter that we are getting so close to the tipping point of reaching an increase in temperature of 2 degrees Celsius that there is a substantial risk that the big increase of 4 degrees Celsius comes ever more into the equation. He believes that the target of a reduction of 3 per cent in emissions for Wales needs to be re-examined. Therefore, does the Minister agree with Sir John’s analysis, and is he seriously considering the introduction of a new and more ambitious target, such as the 6 per cent reduction that was modelled by the Tyndall Centre for Climate Change Research?

 

Yn ddiweddar, cododd Syr John Houghton y mater ein bod mor agos at y trobwynt o gyrraedd cynnydd mewn tymheredd o 2 radd Celsius fel bod yna risg sylweddol bod y cynnydd mawr o 4 gradd Celsius yn dod yn fwyfwy o ran o’r ystyriaeth. Mae’n credu bod angen ailedrych ar y targed o ostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau ar gyfer Cymru. Felly, a ydyw’r Gweinidog yn cytuno â dadansoddiad Syr John, ac a ydyw’n ystyried o ddifrif cyflwyno targed newydd a mwy uchelgeisiol, megis y gostyngiad o 6 y cant a gafodd ei fodelu gan Ganolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil i’r Newid yn yr Hinsawdd?

 

Finally, we come to the issue of the 31 per cent of greenhouse gases that fall outside the Welsh Government’s devolved competence. It is important that, in trying to understand the whole Welsh picture, we have a comment from the Minister about how he and his officials are working with the UK Government on the other third of the jigsaw and how progress is being achieved.

 

Yn olaf, down at fater y 31 y cant o’r nwyon tŷ gwydr sydd y tu allan i gymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig, wrth geisio deall y darlun cyfan yng Nghymru, bod gennym sylwadau’r Gweinidog ynglŷn â sut y mae ef a’i swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar draean arall y jig-so a sut y caiff cynnydd ei gyflawni.

 

Briefly, on the adaption of proposals, the Government’s new guidance, the obligation in relation to parts 1 and 2 has to be welcomed. I look forward to the other parts following next year. All sectors in society need to be mindful of the effects that climate change will have on how we live and work, and they should be preparing for those effects, sooner rather than later. Behavioural changes will be required and it is right that the Government works closely with stakeholders and that they bring all sectors with them in achieving this important policy initiative.

 

Yn fyr, ar addasu cynigion, mae’n rhaid croesawu canllawiau newydd y Llywodraeth, a’r rhwymedigaeth mewn perthynas â rhannau 1 a 2. Rwy’n edrych ymlaen at y rhannau eraill yn dilyn y flwyddyn nesaf. Mae angen i bob sector yn y gymdeithas fod yn ymwybodol o sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar sut yr ydym yn byw ac yn gweithio, a dylent baratoi ar gyfer yr effeithiau hynny, yn gynharach yn hytrach nag yn hwyrach. Bydd newidiadau ymddygiadol yn angenrheidiol ac y mae’n iawn bod y Llywodraeth yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid, a’u bod yn dod â phob sector gyda hwy i gyflawni’r fenter bolisi bwysig hon.

 

John Griffiths: I thank Russell George for his general welcome for the progress that we have made with our climate change strategy. I agree with him on the imperative to understand what is happening with climate change and to keep policy under review. I note that Russell George stated that some NGOs are concerned that our 3 per cent and 40 per cent targets may not be achieved—obviously, we work towards ensuring that they are achieved. Russell George went on to state that more ambitious targets may be needed, but those two views may not be on an entirely consistent footing. In any event, the UK Committee on Climate Change looks at different scenarios based on different degrees of climate change. Therefore, we always keep policies under review and look at necessary actions around mitigation and adaptation in relation to the various scenarios that are based on different degrees of climate change. All of this is constantly being looked at and kept under review. It certainly extends to ‘One Wales: One Planet’ as well.

 

John Griffiths: Diolch i Russell George am ei groeso cyffredinol i’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud gydag ein strategaeth newid yn yr hinsawdd. Yr wyf yn cytuno ag ef ar y rheidrwydd i ddeall beth sy’n digwydd gyda newid yn yr hinsawdd ac i gadw polisi dan arolwg. Nodaf y dywedodd Russell George fod rhai cyrff anllywodraethol yn pryderu efallai nad yw ein targedau 3 y cant a 40 y cant yn cael eu cyflawni—wrth gwrs, yr ydym yn gweithio tuag at sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni. Aeth Russell George ymlaen i nodi efallai bod angen targedau mwy uchelgeisiol, ond efallai na fydd y ddwy farn honno yn gwbl gyson. Beth bynnag, mae Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn edrych ar wahanol senarios yn seiliedig ar wahanol raddau o newid yn yr hinsawdd. Felly, yr ydym bob amser yn cadw polisïau dan arolwg ac yn edrych ar gamau gweithredu sy’n angenrheidiol o amgylch lliniaru ac addasu mewn perthynas â’r gwahanol senarios sy’n seiliedig ar wahanol raddau o newid yn yr hinsawdd. Mae hyn i gyd yn cael ei ystyried a’i adolygu’n gyson. Mae’n sicr yn ymestyn i ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ hefyd.

 

We work hard to ensure that sustainable development operates as the central organising principle across the Welsh Government at ministerial and official level. However, I accept what the Member says in terms of having to ensure that that is the case. It is something, again, that we have to keep working towards. It is difficult to ensure that, in all the workings of Government, sustainable development is always at the forefront of people’s minds. Therefore, we have to keep plugging away to ensure that it really operates as the central organising principle. We are looking at a sustainable development Bill and that legislation will look to build on the progress that we have made around sustainable development as a central organising principle, to further entrench and embed that, not only within the Welsh Government, but also the devolved public sector in Wales.

 

Yr ydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn gweithredu fel y prif egwyddor drefniadol ar draws Llywodraeth Cymru ar lefel Gweinidogion a swyddogion. Fodd bynnag, derbyniaf yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud o ran yr angen i sicrhau bod hynny’n wir. Mae’n rhywbeth, unwaith eto, y mae’n rhaid inni barhau i weithio tuag ato. Mae’n anodd sicrhau, yn holl waith y Llywodraeth, bod datblygu cynaliadwy bob amser ar flaen meddyliau pobl. Felly, mae’n rhaid inni fwrw ymlaen er mwyn sicrhau ei bod yn wir yn gweithredu fel y prif egwyddor drefniadol. Rydym yn edrych ar Fesur datblygu cynaliadwy a bydd y ddeddfwriaeth honno yn edrych i adeiladu ar y cynnydd a wnaed gennym ar ddatblygu cynaliadwy fel y prif egwyddor drefniadol, er mwyn sefydlu ac ymgorffori hynny ymhellach, nid yn unig o fewn Llywodraeth Cymru, ond hefyd y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

 

Finally, let me reassure the Member that we prioritise working with the UK Government, with the understanding that it is only with that partnership approach that we will make the sort of progress that we want to see. On one level, there is the European Union with, for example, the emissions trading scheme, which is significant; there is then a raft of UK policies and our own Welsh Government policies that feed into our 3 per cent target. Therefore, all of that must be seen as a whole and it is about partnership working.

 

Yn olaf, gadewch i mi roi sicrwydd i’r Aelod ein bod yn blaenoriaethu cydweithio â Llywodraeth y DU, gyda’r ddealltwriaeth mai dim ond gyda’r dull partneriaeth hwnnw y byddwn yn gwneud y math o gynnydd y dymunwn ei weld. Ar un lefel ceir yr Undeb Ewropeaidd sydd, er enghraifft, â’r cynllun masnachu allyriadau, sydd yn arwyddocaol; wedyn mae yna lu o bolisïau yn y DU, ac ein polisïau ein hunain gan Lywodraeth Cymru, sy’n bwydo i mewn i’n targed o 3 y cant. Felly, mae’n rhaid gweld hynny yn ei gyfanrwydd, ac y mae’n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Diolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae’r datganiadau hyn yn bwysig oherwydd maent yn cadw ein targedau o flaen ein llygaid ac o flaen llygaid y cyhoedd yw’r gobaith. A gaf, felly, ofyn yn arbennig am dri mater?

 

Lord Elis-Thomas: I thank the Minister for his statement. These statements are important because they ensure that our targets are always at the forefront of our minds and, hopefully, the minds of the public. May I, therefore, ask specifically about three issues?

3.15 p.m.

 

 

Yn gyntaf, y cynllun ynglŷn â thlodi tanwydd. Mae’n ymddangos i mi—ac nid yn unig i mi, ond i Dr Calvin Jones a nifer o bobl sydd wedi ysgrifennu am hyn yn ddiweddar; mae’r Gweinidog yn ymwybodol o’r llenyddiaeth honno—fod gennym ddull yn y fan hon i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd a thlodi tanwydd ar yr un pryd os ydym yn gallu diddosi mwy a mwy o gartrefi a chynnig cysur i bobl. Felly, byddwn yn pwyso arno yn y trafodaethau presennol ar y gyllideb—efallai y cawn gyfle i wneud hyn bore yfory yn y pwyllgor—i roi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd ag anghenion cymdeithasol ac anghenion amgylcheddol ar yr un pryd.

 

First, on the scheme on tackling fuel poverty, it appears to me—not just to me, but to Dr Calvin Jones and a number of people who have written about this recently; the Minister will be aware of that literature—that we have means in this place of taking action against climate change and fuel poverty at the same time if we can insulate more and more homes and provide warmth for our people. Therefore, I would impress upon the Minister, in the current budgetary discussions—we might have an opportunity to do this tomorrow morning at the committee—the need to prioritise schemes that meet social and environmental needs at the same time.

 

Yr wyf yn derbyn yr hyn y mae wedi ei ddweud ynglŷn â’r ymgais i weithredu ar draws y Llywodraeth, ond mae’n rhaid imi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi bod hyn yn digwydd yn ddigonol. Mae’n amlwg bod yn rhaid inni hyrwyddo newid agwedd tuag at drafnidiaeth ymhlith y cyhoedd. Yr wyf yn croesawu’r ffaith ei fod eisiau cydweithio gyda’i gyfeillion yn y Cabinet ynglŷn â hyn, ond carwn wybod sut y mae’n gobeithio rhoi arweiniad i adrannau eraill wrth i gynlluniau gael eu datblygu. Mae’n amlwg y byddai cynllunio trydaneiddio rheilffyrdd, cynlluniau ar gyfer llwybrau bysus ac yn blaen mewn dinasoedd, yn enwedig yn y de-ddwyrain, yn delio gyda newid agweddau at drafnidiaeth yn effeithiol.

 

I accept what he has said with regard to the attempts to take action across Government, but I must say that I am not convinced that this is happening adequately. It is apparent that we must promote a change of attitude toward transport among the public. I welcome the fact that he wants to collaborate with his Cabinet colleagues on this issue, but I would like to know how he aims to provide a lead for other departments as schemes are developed. It is apparent that planning for the electrification of the railways, plans for bus routes and so forth in our cities, particularly in south-east Wales, would deal effectively with changing attitudes towards transport.

 

Yn olaf, trof at y strategaeth gyfranogol ynglŷn â newid yn yr hinsawdd y mae wedi ei chyhoeddi. Mae’n ymddangos bod llawer o waith wedi ei wneud yn barod yn y maes hwn o fewn Llywodraeth Cymru, a hwnnw’n waith rhagorol. Yr wyf yn cyfeirio at y gwaith ar addysg ar ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang sydd yn rhan o gwricwlwm sylfaenol disgyblion Cymru erbyn hyn. Mae’n fy nharo mai’r hyn sydd ei angen yw rhyw fath o gwricwlwm tebyg ar gyfer oedolion, yn enwedig, efallai, ym Mhowys—addysg ynglŷn â’r angen i ymdopi a wynebu’r peryglon sydd o’n blaenau.

 

Finally, on the collaborative strategy towards climate change that he has announced, it appears that a great deal of outstanding work has been done already within the Welsh Government. I refer to the work on education on sustainable development and global citizenship that is now part of Welsh pupils’ core curriculum. It strikes me that what is required is a similar curriculum for adults, particularly, perhaps, in Powys—education on the need to manage and face the dangers ahead.

 

Ar y pwynt hwnnw, a gaf orffen drwy ofyn i’r Gweinidog a yw’n derbyn casgliadau’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd y bydd y newid tebygol yn ystod y ganrif hon rhwng 1.1 a 6.4 gradd C, ac y bydd effaith hynny yn ddifäol ar wledydd drwy’r byd? Felly, mae’n rhaid i ni yng Nghymru chwarae ein rhan i sicrhau bod uchafbwynt yn cael ei gyrraedd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr cyn 2020 a’n bod yn eu troi a’u lleihau, gan gyrraedd y targed arbennig hwnnw mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, sydd fymryn tu allan i etholaeth Dwyfor Meirionnydd, wedi bod yn ei hyrwyddo ar hyd y blynyddoedd, sef ynysoedd Prydain sero carbon erbyn 2030.

 

On that point, may I finish by asking the Minister whether he accepts the conclusions of the Intergovernmental Panel on Climate Change about the likely change during this century of between 1.1 and 6.4 degrees C, which will have a destructive impact on countries across the world? Therefore, we in Wales must play our part in ensuring that we reach a maximum in terms of greenhouse gas emissions before 2020 and that we then turn that around and reduce them, achieving the target that the Centre for Alternative Technology, which is just outside the Dwyfor Meirionnydd constituency, has been promoting over the years, namely zero-carbon British isles by 2030.

 

John Griffiths: I thank Dafydd Elis-Thomas for that positive contribution to this very important agenda and start by agreeing on the link between fuel poverty and the wider anti-poverty agenda and social justice agenda, because these matters go together significantly. I often meet with my colleague Carl Sargeant to talk about fuel poverty as part of that wider anti-poverty agenda. We know that we have made considerable progress with schemes such as Arbed 1, the home energy efficiency scheme and the boiler scrappage scheme. We now seek to build on that with the new home energy efficiency scheme, Nest, and Arbed 2. Some of the organisations that monitor these matters commented today on the fact that our external cladding for energy efficiency under Arbed has resulted, in terms of work in Wales, several times what would be expected from our population share compared with other parts of the UK. Some of the work that is going on on that front is attracting attention from further afield than Wales, and rightly so.

 

John Griffiths: Diolch i Dafydd Elis-Thomas am ei gyfraniad cadarnhaol at yr agenda pwysig iawn hwn. Dechreuaf drwy gytuno ar y cysylltiad rhwng tlodi tanwydd a’r agenda gwrthdlodi a’r agenda cyfiawnder cymdeithasol ehangach, oherwydd mae’r materion hyn yn mynd gyda’i gilydd yn sylweddol. Byddaf yn aml yn cyfarfod â’m cyd-Weinidog Carl Sargeant i drafod tlodi tanwydd fel rhan o’r agenda gwrthdlodi ehangach hwnnw. Gwyddom ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda chynlluniau fel Arbed 1, y cynllun effeithlonrwydd ynni cartref a’r cynllun sgrapio boeleri. Bellach, yr ydym yn ceisio adeiladu ar hynny gyda’r cynllun effeithlonrwydd ynni cartref newydd, Nyth, ac Arbed 2. Heddiw, cyfeiriodd rhai o’r sefydliadau sy’n monitro’r materion hyn at y ffaith bod ein cladin allanol ar gyfer effeithlonrwydd ynni dan Arbed wedi arwain, o ran gwaith yng Nghymru, at sawl gwaith y gyfran a ddisgwyliech oddi wrth ein poblogaeth o’i chymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae peth o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes hwnnw yn denu sylw o bellach i ffwrdd na Chymru, ac y mae hynny’n briodol.

 

Transport is another important area: it is about behavioural change and we have to engage to achieve that. That also applies to areas of Wales where there are issues around renewable energy, such as onshore windfarms. Therefore, I am pleased to have recently announced our climate change engagement strategy, which is about the communication approach of spreading understanding of the challenges of climate change and the need to respond effectively to them. With transport, we have some important initiatives to achieve behavioural change and greater understanding, such as the Smart Travel projects and travel centres that seek to inform people about the availability of public transport and opportunities for cycling and walking. Many journeys in Wales are over short distances, which could easily be undertaken by means other than cars. We have eco-driving schemes and we are aided by the fact that new vehicles are much more energy efficient than some of the older vehicles. Progress is being made, but at the heart of it, as Dafydd Elis-Thomas said, are improvements to public transport. I very much hope that we will see important schemes, such as the metro scheme in south-east Wales, being progressed in due course.

 

Maes pwysig arall yw trafnidiaeth: mae’n ymwneud â newid ymddygiad ac mae’n rhaid i ni ymgysylltu er mwyn cyflawni hynny. Mae hynny hefyd yn berthnasol i ardaloedd yng Nghymru lle mae problemau ynghylch ynni adnewyddadwy, megis ffermydd gwynt ar y tir. Felly, yr wyf yn falch o fod wedi cyhoeddi ein strategaeth ymgysylltu ar y newid yn yr hinsawdd yn ddiweddar. Mae’n ymwneud â’r dull cyfathrebu o ledaenu dealltwriaeth o heriau newid yn yr hinsawdd a’r angen i ymateb yn effeithiol iddynt. Ym maes trafnidiaeth, mae gennym rai mentrau pwysig i newid ymddygiad ac ennyn mwy o ddealltwriaeth, fel y prosiectau Teithio Doeth a chanolfannau teithio sy’n ceisio hysbysu pobl am argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleoedd i feicio a cherdded. Mae llawer o deithio yng Nghymru dros bellteroedd byr a gellid yn hawdd defnyddio dulliau heblaw ceir. Mae gennym gynlluniau eco-yrru ac y mae’r ffaith bod cerbydau newydd yn llawer mwy effeithlon o ran ynni na rhai cerbydau hŷn o gymorth i ni. Mae cynnydd yn cael ei wneud, ond, fel y dywedodd Dafydd Elis-Thomas, mae gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus wrth wraidd hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn yn gweld cynlluniau pwysig, megis y cynllun metro yn ne-ddwyrain Cymru, yn cael eu datblygu yn eu tro.

 

As part of the engagement strategy, eco-schools are important, which links to education for global citizenship and sustainable development. On the international front, I am pleased that the Welsh Government continues to play an important part in organisations such as National and Regional Governments for Sustainable Development. I recently attended a meeting of that organisation. We also go to the climate change summits, on an international level, and we remain committed to that international approach.

 

Mae eco-ysgolion yn bwysig fel rhan o’r strategaeth ymgysylltu, sy’n cysylltu ag addysg ar ddinasyddiaeth fyd-eang a datblygiad cynaliadwy. Yn rhyngwladol, yr wyf yn falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae rhan bwysig mewn sefydliadau fel llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol dros ddatblygu cynaliadwy. Yn ddiweddar, bûm mewn cyfarfod o’r corff hwnnw. Yr ydym hefyd yn mynd i uwchgynadleddau am newid yn yr hinsawdd, ar lefel ryngwladol, ac yr ydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r dull rhyngwladol hwnnw.

 

Aled Roberts: On behalf of my colleague William Powell—who is at this moment contributing to greenhouse gas emissions by representing the Assembly in Canada—I welcome the statement this afternoon. I also identify this group with some of the issues that you raised regarding the danger of complacency. While the Government has made progress, as far as StatsWales information is concerned, we are still facing a situation where, according to its traffic lights, we are not making sufficient progress, as Russell George outlined. Although we welcome the reduction for this one year, in your own statement you recognise that that may have more to do with the downturn and recession, than reflecting the success or otherwise of policies.

 

Aled Roberts: Ar ran fy nghyd-Aelod William Powell—sydd ar hyn o bryd yn cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy gynrychioli’r Cynulliad yng Nghanada—croesawaf y datganiad y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn uniaethu’r grŵp hwn â rhai o’r materion a godasoch ynglŷn â pherygl hunanfodlonrwydd. Er bod y Llywodraeth wedi gwneud cynnydd, cyn belled ag y mae gwybodaeth StatsCymru yn y cwestiwn, yr ydym yn parhau i wynebu sefyllfa lle, yn ôl ei oleuadau traffig, nad ydym yn gwneud digon o gynnydd, fel yr amlinellodd Russell George. Er ein bod yn croesawu’r gostyngiad ar gyfer yr un flwyddyn hon, yn eich datganiad eich hun yr ydych yn cydnabod y gall fod gan hynny fwy i’w wneud â’r dirywiad economaidd a dirwasgiad, na’i fod yn adlewyrchu llwyddiant neu fethiant polisïau.

 

I also support Dafydd Elis-Thomas’s comments that we, as an Assembly, need to ensure that the Government and you, in discussions with your Cabinet colleagues, take the agenda further than it has been taken thus far, particularly with regard to public transport. Perhaps you need to look at the re-regulation of buses. In parts of north Wales, we face major problems because of a lack of regulation. We will provide all the support that we can for the Government’s proposals to invest, for example, in rail infrastructure, in collaboration with the UK Government. We must realise that the real difficulty is that we have to win over hearts and minds. I think that we still have some way to go. Would you be willing to consider examples from the other devolved administrations—Scotland, in particular—which appears to be much more successful with regard to community energy generation? Community Energy Scotland is seen to be at the forefront of raising awareness of community energy schemes, and ensuring that community councils, among others, are able to spread best practice.

 

Yr wyf hefyd yn cefnogi sylwadau Dafydd Elis-Thomas bod angen i ni, fel Cynulliad, sicrhau bod y Llywodraeth a chithau, mewn trafodaethau gyda’ch cyd-Weinidogion, yn dwyn yr agenda ymhellach nag o’r blaen, yn enwedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Efallai bod angen i chi edrych ar ail-reoleiddio bysiau. Mewn rhannau o ogledd Cymru, yr ydym yn wynebu problemau mawr oherwydd diffyg rheoleiddio. Byddwn yn darparu’r holl gefnogaeth y gallwn ni i gynigion y Llywodraeth i fuddsoddi, er enghraifft, yn y seilwaith rheilffyrdd, ar y cyd â Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni sylweddoli mai’r anhawster gwirioneddol yw bod yn rhaid i ni ennill calonnau a meddyliau. Credaf fod yna rywfaint o ffordd i ni fynd ar ei hyd-ddi o hyd. A fyddech yn barod i ystyried enghreifftiau o’r gweinyddiaethau datganoledig eraill—yr Alban yn enwedig—sy’n ymddangos fel pe baent yn llawer mwy llwyddiannus o ran cynhyrchu ynni cymunedol? Ystyrir bod Community Energy Scotland ar flaen y gad yn codi ymwybyddiaeth am gynlluniau ynni cymunedol a sicrhau y gall cynghorau cymuned, ymhlith eraill, ledaenu arfer gorau.

 

Given that you have already outlined the need to work alongside other Government Ministers in developing proposals in their departments, do you have any proposals to revise the TAN 15 guidance, in particular, so that we can look at protecting areas that flood easily as a result of overdevelopment? There are instances in north Wales at the moment where, if Government household projection targets are to be met, it will mean that all development will have to be concentrated on coastal plains.

 

A chithau eisoes wedi amlinellu’r angen i weithio ochr yn ochr â Gweinidogion eraill y Llywodraeth wrth ddatblygu cynigion yn eu hadrannau, a oes gennych unrhyw gynigion i ddiwygio canllawiau TAN 15, yn arbennig, er mwyn i ni allu edrych ar ddiogelu ardaloedd sy’n gorlifo yn rhwydd o ganlyniad i orddatblygu? Ceir achosion yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd lle, er mwyn bodloni targedau amcanestyniadau aelwydydd y Llywodraeth, bydd yn rhaid canoli pob datblygiad ar wastadeddau arfordirol.

 

John Griffiths: I thank the Member for his general welcome for the progress made and recognised in the UK committee’s report. I agree that we have to balance that with the need not to be complacent and to understand some of the factors involved in progress that has been made, such as the economic downturn. There were also economic downturn factors involved in the 2006-10 period that is the baseline for measuring progress on the 3 per cent annual reduction figure. Therefore, to some extent, it cuts both ways. In any event, there is no room for complacency, and we must drive forward our efforts to deal with climate change challenges.

 

John Griffiths: Diolch i’r Aelod am ei groeso cyffredinol i’r cynnydd a wnaed ac a gydnabyddir yn adroddiad pwyllgor y Deyrnas Unedig. Cytunaf fod yn rhaid i ni gydbwyso hynny â’r angen i beidio â bod yn hunanfodlon, ond i ddeall rhai o’r ffactorau sy’n ymwneud â’r cynnydd a wnaed, fel y dirywiad economaidd. Yr oedd hefyd ffactorau dirywiad economaidd yn ymwneud â’r cyfnod 2006-10, sef y llinell sylfaen ar gyfer mesur cynnydd ar y ffigwr o ostyngiad blynyddol o 3 y cant. Felly, i ryw raddau, mae’n ddadl ddaufiniog. Beth bynnag, nid oes lle i fod yn hunanfodlon, a rhaid i ni fwrw ymlaen â’n hymdrechion i ymdrin â heriau newid yn yr hinsawdd.

 

I again offer a reassurance; I work closely with Cabinet colleagues, including Carl Sargeant who is responsible for transport. Bus and rail travel are central to those discussions and joint working. It is a matter of winning hearts and minds. That is why the climate change engagement strategy that I mentioned earlier is important. We are always keen to look at examples and practices elsewhere. Scotland is doing important things on energy policy, renewable energy and meeting the challenges of climate change. We are always keen to look at the rest of the UK, in particular, to see what lessons we can learn. We will continue to do that, just as other parts of the UK, I hope, look at what is happening in Wales to see what we are doing that they might themselves adopt.

 

Unwaith eto, yr wyf yn cynnig tawelwch meddwl; yr wyf yn gweithio’n agos gyda chyd-Weinidogion, gan gynnwys Carl Sargeant, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth. Mae teithio ar fysiau a’r rheilffyrdd yn ganolog i’r trafodaethau a’r cydweithio hynny. Mae’n fater o ennill calonnau a meddyliau. Dyna pam y mae’r strategaeth ymgysylltu ar newid yn yr hinsawdd a grybwyllais yn gynharach yn bwysig. Yr ydym bob amser yn awyddus i edrych ar enghreifftiau ac arferion mewn mannau eraill. Mae’r Alban yn gwneud pethau pwysig am bolisi ynni, ynni adnewyddadwy a wynebu heriau newid yn yr hinsawdd. Yr ydym bob amser yn awyddus i edrych ar weddill y Deyrnas Unedig, yn arbennig, i weld pa wersi y gallwn eu dysgu. Byddwn yn parhau i wneud hynny, yn union fel ag y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, yr wyf yn gobeithio, yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru i weld beth yr ydym ni’n ei wneud y gallent hwy ei fabwysiadu.

 

On community energy, Ynni’r Fro is an important programme that supports small-scale community energy developments in Wales. It offers funding as well as support and advice. I hope that that will continue to play an important part in driving community development forward. Finally, on flood risk, we always keep planning policies and technical advice notes under review. Some important changes will be made regarding surface-water issues in the near future. I will publish our flood-risk strategy towards the end of this year and it will address those issues.

 

Ar ynni cymunedol, mae Ynni’r Fro yn rhaglen bwysig sydd yn cefnogi datblygiadau ynni cymunedol ar raddfa fach yng Nghymru. Mae’n cynnig cyllid yn ogystal â chymorth a chyngor. Gobeithiaf y bydd hi’n parhau i chwarae rhan bwysig yn gyrru datblygu cymunedol yn ei flaen. Yn olaf, ar berygl llifogydd, yr ydym bob amser yn cadw polisïau cynllunio a nodiadau cyngor technegol dan arolwg. Bydd rhai newidiadau pwysig yn cael eu gwneud yn y dyfodol agos mewn perthynas â materion dŵr wyneb. Byddaf yn cyhoeddi ein strategaeth perygl llifogydd tua diwedd eleni, a bydd yn mynd i’r afael â’r materion hynny.

 

Mark Isherwood: You referenced fuel poverty in an earlier response. Will the Welsh Government respond to the call by the Fuel Poverty Coalition for a road map with clear milestones to highlight how the 2010 target to eradicate fuel poverty in vulnerable households will be achieved, and by when?

 

Mark Isherwood: Cyfeiriasoch at dlodi tanwydd mewn ateb cynharach. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymateb i alwad y Gynghrair Tlodi Tanwydd am fap ffordd gyda cherrig milltir clir i dynnu sylw at sut y cyflawnir targed 2010 i ddileu tlodi tanwydd ar aelwydydd pobl sy’n agored i niwed, ac erbyn pryd?

 

John Griffiths: We very much value the work of the Fuel Poverty Coalition, and I regularly meet fuel poverty groups in Wales. Anything that they suggest is worthy of serious consideration. I assure Mark Isherwood that we will address and respond to those matters.

 

John Griffiths: Yr ydym yn gwerthfawrogi gwaith y Gynghrair Tlodi Tanwydd yn fawr iawn, ac yr wyf yn cwrdd â grwpiau tlodi tanwydd yn Nghymru yn rheolaidd. Mae unrhyw awgrym ganddynt yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol. Yr wyf yn sicrhau Mark Isherwood y byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hynny ac yn ymateb iddynt.

 

Antoinette Sandbach: Minister, I welcome your statement today. However, the Climate Change Commission for Wales’s report that you referenced was released today at 3 p.m., just as you stood up to make your statement. That timing makes it difficult for Members to hold you to account by questioning your statement, because being able to read the report is difficult. However, I have been fortunate enough to get hold of a copy of that report. It notes that it is currently difficult to assess progress in reducing emissions against targets, for a number of reasons. We do not yet know the baseline for the 3 per cent target. Data for 2010, the final year of the baseline, will be available in late 2012. Emissions data are not yet available for 2011 onwards—the years to which the targets relate.

Antoinette Sandbach: Weinidog, croesawaf eich datganiad heddiw. Fodd bynnag, cafodd yr adroddiad gan Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd y cyfeiriasoch ato ei ryddhau heddiw am 3 p.m., yn union wrth i chi sefyll i fyny i wneud eich datganiad. Mae’r amseru hwnnw yn ei gwneud hi’n anodd i Aelodau i’ch dal i gyfrif drwy gwestiynu eich datganiad, oherwydd ei fod yn anodd i allu darllen yr adroddiad. Fodd bynnag, yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael gafael ar gopi o’r adroddiad hwnnw. Mae’n nodi ei bod yn anodd ar hyn o bryd i asesu cynnydd o ran lleihau allyriadau yn erbyn targedau, am nifer o resymau. Ni wyddom eto beth yw’r llinell sylfaen ar gyfer y targed o 3 y cant. Bydd data ar gyfer 2010, sef blwyddyn olaf y llinell sylfaen, ar gael yn hwyr yn 2012. Nid yw data allyriadau ar gael eto ar gyfer 2011 ymlaen—y blynyddoedd y mae’r targedau yn berthnasol iddynt.

 

3.30 p.m.

 

Although you are developing a set of forward indicators against which progress can be assessed, these will not be available until later this year. Therefore, the progress to which you have referred has been measured against a set of targets that has not yet been established. I wonder whether there is any merit in your asking the Climate Change Commission for Wales, ‘Why don’t you measure us against the 2009 and 2008 data and use that as the baseline?’ In relation to the agricultural sector, which is mentioned in the report, it is clear that overall emissions from the agriculture and land use sector fell by 2 per cent, but, again, the 2010 data are not available. It is clear that the focus of Welsh policy, as the report says, is on woodland creation and the provision of grants and information to support improved farming practice. In relation to the woodland scheme, can you indicate whether you will maintain your responsibility for the Glastir woodlands, which are currently administered by the Forestry Commission for Wales, and whether the budget for that will come out of your budget, or the Deputy Minister for agriculture’s budget? The concern relating to those matters relates to cross-departmental working and the importance of the forestry sector in locking up carbon.

 

Er eich bod yn datblygu cyfres o ddangosyddion dangosol i asesu cynnydd, ni fydd y rhain ar gael tan yn ddiweddarach eleni. Felly, mae’r cynnydd yr ydych wedi cyfeirio ato wedi’i fesur yn erbyn set o dargedau sydd ddim wedi’i chreu eto. Tybed a oes unrhyw rinwedd ichi ofyn i Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, ‘Pam na wnewch chi ein mesur yn erbyn data 2009 a 2008 a defnyddio hynny fel y llinell sylfaen?’ O ran y sector amaethyddol, a grybwyllir yn yr adroddiad, mae’n amlwg bod allyriadau cyffredinol o’r sector amaethyddiaeth a defnyddio tir wedi gostwng 2 y cant, ond, unwaith eto, nid yw data 2010 ar gael. Mae’n amlwg bod y polisi yng Nghymru, fel y dywed yr adroddiad, yn canolbwyntio ar greu coetiroedd a darparu grantiau a gwybodaeth i gefnogi arferion ffermio gwell. O ran y cynllun coetir, a allwch chi nodi a fyddwch yn cadw’ch cyfrifoldeb am goetiroedd Glastir, a weinyddir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar hyn o bryd, ac a fydd y gyllideb ar gyfer hynny yn dod o’ch cyllideb chi, neu gyllideb y Dirprwy Weinidog dros amaethyddiaeth? Mae’r pryder ynghylch y materion hynny yn ymwneud â gweithio trawsadrannol a phwysigrwydd y sector coedwigaeth i gloi carbon yn y pridd.

My second question relates to TAN 8. Yesterday, there was a conference on the future of renewable energy in Wales, and TAN 8 was described by the climate change commissioner as an unmitigated disaster. If you are to win hearts and minds, as Aled Roberts said, then how will you address those issues where there are top-down policies coming from Government, rather than bottom-up, community-led initiatives that have the support of local communities? It is the local people on the ground who will help deliver these messages and who have to live in the sustainable way that you are aiming for, and I would be grateful if you could answer those two questions.

 

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â TAN 8. Ddoe, bu cynhadledd ar ddyfodol ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac fe ddisgrifiwyd TAN 8 gan y comisiynydd newid yn yr hinsawdd fel trychineb llwyr. Os ydych am ennill calonnau a meddyliau, fel y dywed Aled Roberts, yna sut fyddwch yn ymdrin â’r materion hynny lle mae polisïau brig i lawr yn dod gan y Llywodraeth, yn hytrach na mentrau a arweinir gan y gymuned o’r gwaelod i fyny sydd â chefnogaeth cymunedau lleol? Y bobl leol ar lawr gwlad fydd yn helpu i wireddu’r negeseuon hyn ac sy’n gorfod byw yn y modd cynaliadwy yr ydych chi’n anelu ato, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech ateb y ddau gwestiwn hynny.

 

John Griffiths: I thank Antoinette Sandbach for those questions. First, in terms of the report and the timing of its publication, notwithstanding the difficulties involved, I am glad that the Member was able to get hold of a copy in time to assist her in her contribution. We will be returning to these matters on numerous future occasions, I am sure, and rightly so. In terms of the data, we are able to use the information for 2006 to 2010 as a baseline and to measure progress against that, notwithstanding that that information will be refined as we move on. That is the nature of the information-gathering exercise, and, to some extent, we are dependent on the greenhouse gas inventory and the activities on a UK level to ensure that the data are properly recorded and collated. Therefore, there will be questions around the data as we move forward, but that is not to say that we do not have valid comparisons to make on the baselines that we have established.

 

John Griffiths: Diolch i Antoinette Sandbach am y cwestiynau hynny. Yn gyntaf, o ran yr adroddiad ac amseriad ei gyhoeddi, er gwaethaf yr anawsterau sydd ynghlwm, yr wyf yn falch bod yr Aelod wedi gallu cael gafael ar gopi mewn pryd i’w chynorthwyo yn ei chyfraniad. Byddwn yn dychwelyd at y materion hyn ar sawl achlysur yn y dyfodol, yr wyf yn siŵr, a hynny’n gwbl briodol. O ran y data, rydym yn gallu defnyddio’r wybodaeth ar gyfer 2006 hyd 2010 fel llinell sylfaen a mesur y cynnydd yn erbyn hynny, er y caiff y wybodaeth ei mireinio wrth inni symud ymlaen. Dyna natur yr ymarfer casglu gwybodaeth, ac, i ryw raddau, yr ydym yn ddibynnol ar y rhestr nwyon tŷ gwydr a gweithgareddau ar lefel y DU i sicrhau bod y data yn cael eu cofnodi a’u coladu’n gywir. Felly, bydd cwestiynau am y data wrth inni symud ymlaen, ond nid yw hynny’n golygu nad oes gennym gymariaethau dilys i’w gwneud ar y llinellau sylfaen a sefydlwyd gennym.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 3.33 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 3.33 p.m.

 

With regard to woodland and Forestry Commission issues, and my joint working with Alun Davies, we work very closely together. We met again very recently to discuss a number of issues, and we of course talk about environmental matters, because that is my portfolio. We know that the business case for a single environment body is being examined at the moment, and there may be movement towards that if the business case stacks up, following which there would be the establishment of that body. However, that is not to say that any of the advantages that the Forestry Commission brings to the table would be lost, because we would have to be convinced that that was not the case in order for this single environment body to go forward. What woodland contributes to environmental policy in Wales and climate change challenges would be very much part of that, as, of course, is Glastir, which is significant in that context. With regard to TAN 8, let me say once again that the Welsh Government remains committed to it. It is a valuable part of the strategic approach that is necessary to developing onshore wind, which has an important part to play as one of a number of renewable technologies that will help to meet the challenges of climate change. There has been a revision to clarify the maximum outputs of TAN 8, and that is very much a matter of responding to community concerns, which, as Antoinette Sandbach highlighted, are very important. I mentioned Ynni’r Fro earlier, and that continues to recognise the importance of community development on the energy policy front.

 

O ran coetir a materion Comisiwn Coedwigaeth, a’m cyd-weithio gydag Alun Davies, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd. Fe gwrddom ni eto yn ddiweddar iawn i drafod nifer o faterion, ac, wrth gwrs, rydym yn trafod materion amgylcheddol, oherwydd dyna fy mhortffolio. Rydym yn gwybod bod yr achos busnes dros un corff amgylcheddol yn cael ei archwilio ar hyn o bryd, ac efallai bydd symudiad tuag at hynny os bydd yr achos busnes yn gwneud synnwyr, a byddai sefydlu’r corff hwnnw’n dilyn hynny. Fodd bynnag, nid yw hynny yn golygu y byddai unrhyw un o’r manteision y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn eu darparu yn cael eu colli, oherwydd byddai’n rhaid inni fod yn argyhoeddedig nad oedd hynny’n wir er mwyn i’r corff amgylchedd sengl hwn fynd yn ei flaen. Byddai’r hyn y mae coetir yn gyfrannu at bolisi amgylcheddol yng Nghymru a heriau newid yn yr hinsawdd yn rhan o hynny, fel ag y mae Glastir, wrth gwrs, sydd yn arwyddocaol yn y cyd-destun hwnnw. O ran TAN 8, gadewch imi ddweud unwaith eto bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig iddo. Mae’n rhan werthfawr o’r ymagwedd strategol sydd ei angen i ddatblygu ynni gwynt ar y tir, sydd â rhan bwysig i’w chwarae fel un o nifer o dechnolegau adnewyddadwy a fydd yn helpu i ateb yr heriau newid yn yr hinsawdd. Bu diwygiad i egluro’r uchafswm o allbynnau TAN 8, ac mae hynny’n sicr yn fater o ymateb i bryderon y gymuned, sydd, fel y nododd Antoinette Sandbach, yn bwysig iawn. Soniais yn gynharach am Ynni’r Fro, ac mae hynny’n parhau i gydnabod pwysigrwydd datblygu cymunedol o ran polisi ynni.

 

Cynnig i Gymeradwyo Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
Motion to Approve the Protection from Tobacco (Sales from Vending Machines) (Wales) Regulations 2011

 

Cynnig NDM4828 Jane Hutt

 

Motion NDM4826 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2011.

 

Approves that the draft The Protection from Tobacco (Sales from Vending Machines) (Wales) Regulations 2011 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 27 September 2011.

 

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I move the motion.

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Cynigiaf y cynnig.

These regulations are to be made under section 3A of the Children and Young Persons (Protection from Tobacco) Act 1991. Section 3A was inserted into that Act by the Health Act 2009. Section 3A provides powers for the Welsh Ministers to prohibit sales of tobacco from vending machines.

 

Mae’r rheoliadau hyn i’w gwneud o dan adran 3A Deddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991. Mewnosodwyd adran 3A yn y Ddeddf honno gan Ddeddf Iechyd 2009. Mae adran 3A yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru wahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu.

 

The primary focus of these regulations is to protect children and young people by restricting access to tobacco. These regulations will come into force on 1 February 2012. Most smokers start smoking during adolescence, and two thirds of adults in the UK who have ever smoked say that they started before they were 18. Those under the age of 18 are particularly vulnerable consumers in that they may not always understand the risks of tobacco consumption, and therefore may not be able to make informed decisions.

 

Prif ffocws y rheoliadau hyn yw amddiffyn plant a phobl ifanc drwy gyfyngu ar fynediad i dybaco. Bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Chwefror 2012. Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dechrau ysmygu yn ystod llencyndod, ac mae dau o bob tri oedolyn yn y DU sydd erioed wedi ysmygu yn dweud eu bod wedi dechrau cyn iddynt gyrraedd 18 oed. Mae’r rhai o dan 18 oed yn ddefnyddwyr sy’n arbennig o agored i niwed oherwydd efallai nad ydynt bob amser yn deall y risgiau o ddefnyddio tybaco, ac felly efallai na fyddent yn gallu gwneud penderfyniadau hyddysg.

 

Although vending machines account for only 1 per cent of the UK market in tobacco sales, it appears that a disproportionate number of young people under the age of 18—that is, under the minimum legal age for the sale of tobacco—purchase their cigarettes from vending machines. Ten per cent of regular smokers aged 11 to 15 report that cigarette vending machines are their usual source of tobacco. In addition, the Welsh heads of Trading Standards have found that the National Association of Cigarette Machine Operators’ voluntary code has not been effective in sufficiently restricting young people’s access to tobacco products from this source.

 

Er mai dim ond 1 y cant o farchnad gwerthu tybaco y DU mae peiriannau gwerthu yn gyfrifol amdano, ymddengys fod nifer anghymesur o bobl ifanc o dan 18 oed—hynny yw, o dan yr oedran cyfreithiol ar gyfer gwerthu tybaco—yn prynu eu sigaréts o beiriannau gwerthu. Dywedodd deg y cant o ysmygwyr rheolaidd 11 i 15 oed mai peiriannau gwerthu sigaréts yw eu ffynhonnell dybaco arferol. Yn ogystal, mae penaethiaid safonau masnach yng Nghymru wedi canfod na fu cod gwirfoddol y gymdeithas genedlaethol gweithredwyr peiriannau sigarét yn effeithiol yn cyfyngu ar fynediad pobl ifanc i gynhyrchion tybaco o’r ffynhonnell hon.

The Health Bill, as introduced to Parliament, gave Welsh Ministers the power to make regulations in relation to Wales either imposing restrictions on the sale of tobacco from vending machines or prohibiting the sale of tobacco from vending machines. However, during the Report stage in the House of Commons, an amendment was passed so that the only possible exercise of the power is to prohibit the sale of tobacco from vending machines. Legal challenges from the tobacco industry to the equivalent regulations in England have impacted on the timing of our regulations. With the judicial review action now completed, I am pleased to be able to bring forward these regulations for the approval of the National Assembly for Wales. They will be enforced by local authorities in Wales, and, as I have said, will come into force on 1 February next year. I felt that this timescale would allow businesses sufficient opportunity to prepare and put in place the necessary arrangements for the regulations to be met. By banning the availability of tobacco products from vending machines, I believe that these regulations provide robust, effective safeguards to help protect our children and young people from the dangers of tobacco use.

 

Fe wnaeth y Bil Iechyd, fel y’i cyflwynwyd i’r Senedd, roi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â Chymru naill ai’n gosod cyfyngiadau ar werthu tybaco o beiriannau gwerthu neu wahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Cyffredin, cafodd gwelliant ei basio fel mai’r unig fodd o weithredu’r pŵer yw i wahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu. Mae heriau cyfreithiol gan y diwydiant tybaco i’r rheoliadau cyfatebol yn Lloegr wedi effeithio ar amseriad ein rheoliadau ni. Gyda’r adolygiad barnwrol bellach wedi’i gwblhau, yr wyf yn falch o allu cyflwyno’r rheoliadau hyn ar gyfer cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddant yn cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol yng Nghymru, ac, fel y dywedais, yn dod i rym ar 1 Chwefror y flwyddyn nesaf. Teimlais y byddai’r amserlen hon yn caniatáu digon o gyfle i fusnesau baratoi a rhoi ar waith y trefniadau angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau. Drwy wahardd argaeledd cynhyrchion tybaco o beiriannau gwerthu, yr wyf yn credu bod y rheoliadau hyn yn darparu mesurau diogelu cadarn, effeithiol i helpu i ddiogelu ein plant a phobl ifanc rhag peryglon defnyddio tybaco.

 

Darren Millar: I am disappointed at the delay in bringing forward these regulations, Minister. We welcome the fact that you are presenting them this afternoon, and I regret that there is not more time to debate them in more detail. We will be supporting them. It is clear that too many young people take up smoking. The charity ASH recently suggested that about 38 teenagers per day begin to smoke, so it is difficult to argue against anything that seeks to reduce that number, and vending machines offer easy access to cigarettes for young people. We know that a ban is already in place in England. We will play catch-up with that in February. However, it is disappointing that it is not already in place, notwithstanding the legal challenges that were raised.

 

Darren Millar: Yr wyf yn siomedig am yr oedi o ran cyflwyno’r rheoliadau hyn, Weinidog. Croesawn y ffaith eich bod yn eu cyflwyno y prynhawn yma, a gresynaf nad oes mwy o amser i’w trafod yn fanylach. Byddwn yn eu cefnogi. Mae’n amlwg bod gormod o bobl ifanc yn dechrau ysmygu. Awgrymodd elusen ASH yn ddiweddar bod tua 38 o blant yn eu harddegau yn dechrau ysmygu bob dydd, felly mae’n anodd dadlau yn erbyn unrhyw beth sy’n ceisio lleihau’r nifer hwnnw, ac mae peiriannau gwerthu yn cynnig mynediad hawdd at sigaréts i bobl ifanc. Gwyddom bod gwaharddiad eisoes ar waith yn Lloegr. Byddwn yn dal i fyny â hynny ym mis Chwefror. Fodd bynnag, mae’n siom nad yw eisoes ar waith, serch yr heriau cyfreithiol a godwyd.

 

I am conscious of the limited time that there is to speak on this matter, so I will just raise a few questions. Four months is not a great deal of time, Minister, for businesses to be able to prepare for the implementation of these regulations. Could you outline briefly to the Chamber what action you are taking to engage fully with those pubs, clubs, hotels, restaurants and other places that currently have vending machines? You indicate in the explanatory notes to the regulations that other unspecified venues, such as market stalls, make up 1 per cent of cigarette vending machine sellers. Could you outline how they will be captured by the regulations, and how you will seek to enforce this ban on vending in this difficult-to-reach part of the sector? You have also indicated that you have a range of other measures to combat smoking among young people, and to reduce smoking in general in Wales. We know that smoking costs the Welsh NHS around £1 million per day. Therefore, any money that is spent reducing the number of people taking up smoking is money well spent. Could you touch again briefly on some of the other actions that the Government is taking in order to deter people from smoking?

 

Gwn mai byr o amser sydd gennym i siarad am y mater hwn, felly dim ond ychydig o gwestiynau sydd gen i. Nid yw pedwar mis yn fawr o amser, Weinidog, i fusnesau allu paratoi i weithredu’r rheoliadau hyn. A allech chi amlinellu’n fyr i’r Siambr pa gamau rydych yn eu cymryd i ymgysylltu’n llawn â’r tafarndai, clybiau, gwestai, bwytai a’r mannau eraill hynny sydd â pheiriannau gwerthu ar hyn o bryd? Dywedwch yn y nodiadau esboniadol i’r rheoliadau bod lleoliadau amhenodol eraill, megis stondinau marchnad, yn gyfrifol am 1 y cant o werthwyr peiriannau gwerthu sigaréts. A allech amlinellu sut y bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau, a sut y byddwch yn ceisio gorfodi’r gwaharddiad hwn ar beiriannau gwerthu yn y rhan hon o’r sector sy’n anodd ei chyrraedd? Dywedoch hefyd bod gennych amryw o fesurau eraill i fynd i’r afael ag ysmygu ymhlith pobl ifanc, ac i leihau ysmygu yn gyffredinol yng Nghymru. Gwyddom bod ysmygu’n costio GIG Cymru tua £1 miliwn y dydd. Felly, mae unrhyw arian sy’n cael ei wario ar leihau’r nifer o bobl sy’n dechrau ysmygu yn arian a wariwyd yn dda. A allech sôn yn fyr eto am rai o’r camau eraill mae’r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn atal pobl rhag ysmygu?

 

The other issue that people have raised with me is the concern among the pub sector that this may further inhibit the viability of businesses. What consideration have you given to the challenges presented to that sector in making the decision to lay these regulations today? Finally, to touch on the issue of timing, I would have liked the opportunity to debate this in a little more detail, for more than just 15 minutes, which is the time allocated to it on the agenda. I hope that that will be addressed in future when regulations come before this Chamber.

 

Y mater arall y mae pobl wedi ei godi gyda mi yw’r pryder ymysg y sector dafarn y gall hyn lesteirio hyfywedd busnesau ymhellach. Pa ystyriaeth a roesoch i’r heriau a gyflwynwyd i’r sector hwnnw wrth wneud y penderfyniad i osod y rheoliadau hyn heddiw? Yn olaf, i gyfeirio at amseru, byddwn wedi hoffi’r cyfle i drafod hyn ychydig yn fwy manwl, am fwy na 15 munud, sef yr amser a neilltuwyd iddo ar yr agenda. Gobeithio y caiff hynny ei ystyried yn y dyfodol pan ddaw’r rheoliadau gerbron y Siambr hon.

Lord Elis-Thomas: The Member will be aware that the Business Committee deals with that. Why did he not ask a representative on the Business Committee to ask for more time?

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Bydd yr Aelod yn gwybod bod y Pwyllgor Busnes yn ymdrin â hynny. Pam na ofynnodd i gynrychiolydd ar y Pwyllgor Busnes ofyn am fwy o amser?

Darren Millar: I am raising it with all members of the Business Committee through this debate. I hope that all Assembly Members are listening to my point. I am sure that they would have appreciated the opportunity to consider these regulations in greater detail today. The fact that we have the affirmative procedure for bringing regulations forward to this Chamber means that it is important to debate these things in detail. As a long-time parliamentarian, I know that you will support the need for proper discussion of these matters in the future.

 

Darren Millar: Yr wyf yn codi hyn gyda holl aelodau’r Pwyllgor Busnes drwy’r ddadl hon. Gobeithio bod holl Aelodau’r Cynulliad yn gwrando ar fy mhwynt. Yr wyf yn siŵr y byddem wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ystyried y rheoliadau hyn mewn mwy o fanylder heddiw. Mae’r ffaith bod gennym y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer dod â rheoliadau gerbron y Siambr hon yn golygu ei fod yn bwysig trafod y pethau hyn yn fanwl. Fel seneddwr hirsefydlog, gwn y byddwch yn cefnogi’r angen i drafod y materion hyn yn iawn yn y dyfodol.

Kirsty Williams: On behalf of the Welsh Liberal Democrat group, I welcome the Government’s announcement today, the publication of these regulations, and sight of the correspondence between the Deputy Presiding Officer and the Minister, which gives a full explanation as to why the Government felt that it was protecting its position by delaying this announcement until the legal challenge had come to a conclusion, rather than find itself, as a Government, caught up in that legal challenge. I can understand why the Government would want to protect its position in that way, although it has been regrettable that has meant delay. However, the Government is taking the right action in trying to close off this particular avenue of access to tobacco, by which young people can avoid the appropriate age checks that are made when purchasing tobacco products over the counter. It is clear that the voluntary code that was put forward to ensure that those aged under 18 would not access tobacco via vending machines has not worked. Vending machines continue to be the most readily available sources of tobacco for those under the age of 18.

 

Kirsty Williams: Ar ran grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, croesawaf gyhoeddiad y Llywodraeth heddiw, cyhoeddi’r rheoliadau hyn, a chael gweld yr ohebiaeth rhwng y Dirprwy Lywydd a’r Gweinidog, sy’n rhoi esboniad llawn pam roedd y Llywodraeth yn teimlo ei bod yn gwarchod ei sefyllfa drwy’r cyhoeddiad hwn nes bod yr her gyfreithiol wedi dod i ben, yn hytrach na chanfod ei hun, fel Llywodraeth, yng nghanol yr her gyfreithiol honno. Gallaf ddeall pam y byddai’r Llywodraeth am ddiogelu ei sefyllfa yn y modd hwnnw, er ei fod yn anffodus bod hynny wedi golygu oedi. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn cymryd y camau cywir wrth geisio cau y llwybr penodol hwn i gael tybaco, lle gall pobl ifanc osgoi’r gwiriadau oedran priodol a wneir wrth brynu cynhyrchion tybaco dros y cownter. Mae’n amlwg nad yw’r cod gwirfoddol a gyflwynwyd i sicrhau na fyddai’r rhai o dan 18 oed yn defnyddio tybaco trwy beiriannau gwerthu wedi gweithio. Mae peiriannau gwerthu’n parhau i fod yn ffynonellau tybaco fwyaf ar gael yn rhwydd ar gyfer y rhai o dan 18 oed.

3.45 p.m.

 

Our chief medical officer’s report was debated last week in this Chamber. He stated that we still have a long way to go in addressing levels of smoking in the Welsh population. If we can stop younger people from taking up the habit, that will go a long way to addressing the Government’s concerns in this area and stop those individuals from having to go through the difficult and challenging task in later life of trying to give up what is a highly addictive habit. Therefore, if we can stop people from smoking in the first place, that will that be beneficial to them as individuals, and to the nation as a whole. I welcome the Government’s announcement and the regulations brought forward today.

Trafodwyd adroddiad ein prif swyddog meddygol yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon. Dywedodd fod gennym ffordd bell i fynd o hyd er mwyn mynd i’r afael â lefelau ysmygu ymysg poblogaeth Cymru. Os gallwn atal pobl iau rhag dechrau’r arfer, bydd hynny’n mynd ffordd bell i fynd i’r afael â phryderon y Llywodraeth yn y maes hwn ac atal yr unigolion hynny rhag gorfod mynd drwy’r dasg anodd a heriol yn ddiweddarach mewn bywyd o geisio rhoi’r gorau i arferiad hynod gaethiwus. Felly, os gallwn atal pobl rhag ysmygu yn y lle cyntaf, bydd o fudd iddynt hwy fel unigolion ac i’r genedl gyfan. Yr wyf yn croesawu datganiad y Llywodraeth a’r rheoliadau a gyflwynwyd heddiw.

 

Lesley Griffiths: I will start with Kirsty Williams by thanking her for her support and for the support of her group. You are right that it is only a week ago that we debated the Chief Medical Officer for Wales’s annual report, which showed that far too many of the population are smoking still and that smoking among young people is still a cause for great concern. The voluntary code for vending machine operators has not worked as well as we would have wanted, therefore this is the way forward.

Lesley Griffiths: Dechreuaf gyda Kirsty Williams trwy ddiolch iddi am ei chefnogaeth ac am gefnogaeth ei grŵp. Yr ydych yn iawn mai dim ond wythnos yn ôl y buom yn trafod adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru, a oedd yn dangos bod llawer gormod o’r boblogaeth yn dal i ysmygu a bod ysmygu ymhlith pobl ifanc yn dal i fod yn achos pryder mawr. Ni weithiodd y cod gwirfoddol ar gyfer gweithredwyr peiriannau gwerthu cystal ag y byddem wedi dymuno, felly dyma’r ffordd ymlaen.

 

Turning to Darren Millar’s contribution, I am pleased to hear that the Welsh Conservatives will be supporting the Government. The fact that the judicial review was going on is the reason for delaying our date, and I am sorry that we have been unable to do it sooner. Indeed, as Kirsty Williams referred to, the letter that I sent to the Deputy Presiding Officer, in his role as Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, sets out the reasons. We had to sit back and watch the UK Government with regard to the judicial review, and given that we did not want to incur any costs, it was better to wait. The legal challenges from the tobacco industry, during and after the consultation period, also raised timetabling issues. However, now that that action has been completed, I am keen to bring forward the regulations banning the sale of tobacco from vending machines in Wales.

A throi at gyfraniad Darren Millar, yr wyf yn falch o glywed y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r Llywodraeth. Y ffaith bod yr adolygiad barnwrol yn digwydd yw’r rheswm dros ohirio ein dyddiad, ac mae’n ddrwg gennyf ein bod wedi methu â gwneud hyn yn gynharach. Yn wir, fel y cyfeiriodd Kirsty Williams ato, mae’r llythyr a anfonais at y Dirprwy Lywydd, yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn nodi’r rhesymau. Yr oedd yn rhaid i ni aros a gwylio Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r adolygiad barnwrol, a chan nad oeddem am greu unrhyw gostau, gwell oedd aros. Gwnaeth yr heriau cyfreithiol gan y diwydiant tybaco, yn ystod ac ar ôl y cyfnod ymgynghori, greu trafferthion amserlennu hefyd. Fodd bynnag, gan fod y cam hwnnw wedi’i gwblhau bellach, yr wyf yn awyddus i gyflwyno’r rheoliadau yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu yng Nghymru.

 

I disagree with one point. Businesses have had plenty of time to know what we plan to do as a Government and have had plenty of time to take the necessary action. Enforcement will be the responsibility of local authorities, and in advance of the regulations coming in on 1 February of next year, owners and operators of vending machines need to contact clients, advising them on the new law, and if vending machines are to be used as secure retail dispensing units—that is, for the use of staff only, because they will not be available to the public—then they will need to arrange to move machines to a position where the public cannot access them.

Yr wyf yn anghytuno ag un pwynt. Mae busnesau wedi cael hen ddigon o amser i wybod beth y bwriadwn ei wneud fel Llywodraeth ac wedi cael hen ddigon o amser i gymryd y camau angenrheidiol. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol fydd gorfodaeth, a chyn i’r rheoliadau ddod i rym ar 1 Chwefror y flwyddyn nesaf, bydd angen i berchnogion a gweithredwyr peiriannau gwerthu gysylltu â chleientiaid, gan eu cynghori ar y gyfraith newydd, ac os bydd peiriannau gwerthu yn cael eu  defnyddio fel unedau dosbarthu manwerthu diogel—hynny yw, at ddefnydd staff yn unig, gan na fyddant ar gael i’r cyhoedd—yna bydd angen iddynt drefnu i symud peiriannau i rywle na all y cyhoedd gael mynediad atynt.

 

The Deputy Presiding Officer: The question is that the motion be agreed. Are there any objections? I see that there are none. In accordance with Standing Order No. 12.36, I therefore declare the motion agreed.

Y Dirprwy Lywydd: Y cwestiwn yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf nad oes. Yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36, felly, datganaf fod y cynnig wedi ei dderbyn.

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

Cynigion i Gymeradwyo Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011
Motions to Approve the Mental Health (Independent Mental Health Advocates) Wales Regulations 2011 and the Mental Health (Assessment of Former Users of Secondary Mental Health Services) (Wales) Regulations 2011

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to debate these two items together under Standing Order No. 12.24, but with separate votes.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw i drafod y ddwy eitem gyda’i gilydd o dan Reol Sefydlog Rhif 12.24, ond gan gynnal pleidleisiau ar wahân.

Cynnig NDM4830 Jane Hutt

 

Motion NDM4830 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Medi 2011.

 

Approves that the draft The Mental Health (Independent Mental Health Advocates)(Wales) Regulations 2011 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 19 September 2011.

 

Cynnig NDM4829 Jane Hutt

 

Motion NDM4829 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

To propose that the National Assembly for Wales, in accordance with Standing Order 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Medi 2011.

 

Approves that the draft The Mental Health (Assessment of Former Users of Secondary Mental Health Services) (Wales) Regulations 2011 is made in accordance with the draft laid in the Table Office on 19 September 2011.

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I move the motions.

 

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Cynigiaf y cynigion.

The two pieces of subordinate legislation that have been laid before the Assembly for your consideration today are being introduced under the Mental Health (Wales) Measure 2010, which was agreed by the National Assembly for Wales in November last year and received Royal Approval in December 2010.

 

Caiff y ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth sydd wedi cael eu gosod gerbron y Cynulliad i chi eu hystyried heddiw eu cyflwyno o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a gytunwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd y llynedd ac a dderbyniodd Gymeradwyaeth Frenhinol ym mis Rhagfyr 2010.

The first set of regulations, the Mental Health (Assessment of Former Users of Secondary Mental Health Services) (Wales) Regulations 2011, are being made under Part 3 of the Measure. Part 3 of the Measure will introduce an entitlement for former users of secondary mental health services to request assessment should they believe their mental health to be deteriorating following their discharge from secondary mental health services. These regulations set out a time within which requests for assessment must be made. That is, three years from the date of the service user’s discharge. They require that the service user be provided with a copy of their assessment report within 10 working days of the assessment taking place and set out arrangements for resolving disputes regarding the service user’s place of usual residence, where these may arise.

 

Mae’r set gyntaf o reoliadau, Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011, yn cael eu llunio o dan Ran 3 o’r Mesur. Bydd Rhan 3 o’r Mesur yn cyflwyno hawl i ddefnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ofyn am asesiad os ydynt yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio ar ôl eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae’r rheoliadau hyn yn nodi o fewn pa gyfnod mae’n rhaid gwneud cais am asesiad, hynny yw, tair blynedd o ddyddiad rhyddhau’r defnyddiwr gwasanaeth. Maent yn ei gwneud yn ofynnol bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael copi o’u hadroddiad asesiad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i’r asesiad gymryd lle a’i fod yn nodi trefniadau ar gyfer datrys anghydfodau am lle mae’r defnyddiwr gwasanaeth fel arfer yn preswylio, lle y gall y rhain godi.

 

The second set of regulations is the Mental Health (Independent Mental Health Advocates) (Wales) Regulations 2011. These regulations are being made to support Part 4 of the Measure, which will expand the independent mental health advocacy scheme, under the Mental Health Act 1983, to also include individuals on certain short-term or emergency sections and informal in-patients—that is, those people who are in hospital receiving assessment or care for a mental disorder who are not detained under the Mental Health Act but are there voluntarily.

 

Yr ail set o reoliadau yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymru) 2011 (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl). Llunnir y rheoliadau hyn i gefnogi Rhan 4 o’r Mesur, a fydd yn ehangu’r cynllun eirioli iechyd meddwl annibynnol, dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel ei fod hefyd yn cynnwys rhai unigolion sy’n cael eu derbyn yn orfodol i’r ysbyty yn y tymor byr neu achos argyfwng penodol a chleifion mewnol anffurfiol—hynny yw, y bobl hynny sydd yn yr ysbyty yn cael eu hasesu neu yn derbyn gofal am anhwylder meddwl nad ydynt yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd meddwl ond sydd yno yn wirfoddol.

 

These regulations propose that local health boards will continue to be responsible for commissioning IMHA services for their areas and that individuals acting as advocates must have appropriate experience and training and be independent of certain people, such as those involved with the medical treatment of the client, and of the local health board that commissions service. Both sets of regulations were subject to a full 12-week formal consultation exercise earlier in the year. My officials met around 600 service users, carers, mental health professionals and others during the consultation period at a range of events and study days. In both cases, more than 90 comprehensive and detailed written responses were received. As explained in the explanatory memoranda laid alongside these regulations, a number of changes have been made to both sets of regulations as a result of the consultation process. I am grateful to all of those stakeholders who found the time to participate, and I believe that this legislation has been improved as a result of their expertise and input. I commend these regulations to the National Assembly.

 

Mae’r rheoliadau hyn yn cynnig bod byrddau iechyd lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i’w hardaloedd a bod unigolion sy’n gweithredu fel eiriolwyr yn gorfod meddu ar brofiad a hyfforddiant priodol a bod yn annibynnol ar rai pobl, fel y rhai sy’n ymwneud â thriniaeth feddygol y cleient, a’r bwrdd iechyd lleol sy’n comisiynu gwasanaethau. Bu’r ddwy set o reoliadau yn destun ymarfer ymgynghori ffurfiol 12 wythnos lawn ynghynt yn y flwyddyn. Cyfarfu fy swyddogion â thua 600 o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac eraill yn y cyfnod ymgynghori mewn amryw o ddigwyddiadau a diwrnodau astudio. Yn y ddau achos, derbyniwyd dros 90 o ymatebion ysgrifenedig cynhwysfawr a manwl. Fel yr eglurwyd yn y memoranda esboniadol a osodwyd gyfochr â’r rheoliadau hyn, gwnaed nifer o newidiadau i’r ddwy set o reoliadau o ganlyniad i’r broses ymgynghori. Yr wyf yn ddiolchgar i bawb o’r rhanddeiliaid hynny a ddaeth o hyd i’r amser i gymryd rhan, a chredaf fod y ddeddfwriaeth hon wedi ei gwella o ganlyniad i’w harbenigedd a’u mewnbwn. Cymeradwyaf y rheoliadau hyn i’r Cynulliad Cenedlaethol.

 

Darren Millar: Minister, I wish to put on record our support for the regulations before the National Assembly today on these two very important issues. The regulations will result in the implementation of Part 3 and Part 4 of the Mental Health (Wales) Measure 2010. This was a very important piece of legislation—a groundbreaking piece of legislation that had support from all sides in the National Assembly and among all the political parties represented here—and I am very pleased that these regulations are being laid before us today.

 

Darren Millar: Weinidog, hoffwn gofnodi ein cefnogaeth i’r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw ar y ddau fater pwysig iawn hyn. Bydd y rheoliadau yn arwain at roi Rhan 3 a Rhan 4 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar waith. Roedd hwn yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth—darn arloesol o ddeddfwriaeth a gafodd cefnogaeth o bob tu yn y Cynulliad Cenedlaethol a’r holl bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma—ac yr wyf yn falch iawn bod y rheoliadau hyn yn cael eu gosod ger ein bron heddiw.

There is no doubt that we need to improve access to advocacy services for those who have been in receipt of secondary mental health care. However, there are some concerns about the possibility of unintended consequences arising from the regulations before us. For example, there is quite obviously a tension between the provision of advocacy in community mental health settings and in secondary care mental health settings. Some organisations that are involved in advocacy work are concerned that there will be a shift of focus to that secondary care sector, rather than to the community, where, really, advocacy prevents those secondary health issues arising. Minister, can you outline what work you and your officials are doing to ensure that the existing advocacy services available in the community continue to be available and that this is not going to be a case of robbing Peter to pay Paul?

 

Nid oes amheuaeth bod angen i ni wella mynediad at wasanaethau eirioli i’r sawl sydd wedi derbyn gofal iechyd meddwl eilaidd. Fodd bynnag, mae rhai pryderon am y posibilrwydd y bydd canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r rheoliadau sydd ger ein bron. Er enghraifft, mae’n eithaf amlwg bod tyndra rhwng darparu eirioli mewn lleoliadau iechyd meddwl cymunedol ac mewn lleoliadau iechyd meddwl gofal eilaidd. Mae rhai sefydliadau sydd yn y maes eirioli yn pryderu y bydd yna symud ffocws i’r sector gofal eilaidd hwnnw, yn hytrach nag i’r gymuned, lle, mewn gwirionedd, mae eirioli yn atal y problemau iechyd eilaidd hynny rhag codi. Weinidog, a allwch chi amlinellu pa waith yr ydych chi a’ch swyddogion yn ei wneud i sicrhau bod y gwasanaethau eirioli presennol sydd ar gael yn y gymuned yn dal i fod ar gael ac na fydd hyn yn achos o ddwyn o’r hen i dalu’r newydd?

 

Of course, the majority of independent mental health advocacy services are commissioned by local health boards and local authorities. What capacity is there within those organisations to expand services in a relatively short period of time? The requirements for properly qualified people to undertake this are very welcome. However, that may mean that more people need to be trained and equipped to be able to do this work. What work has the Government done to ensure that the capacity is there to deliver improvements in services?

 

Wrth gwrs, comisiynir y rhan fwyaf o wasanaethau eirioli iechyd meddwl annibynnol gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Pa gapasiti sydd gan y sefydliadau hynny i ehangu gwasanaethau mewn cyfnod cymharol fyr o amser? Yr wyf yn croesawu’r gofynion i bobl â chymwysterau priodol ymgymryd â hyn. Fodd bynnag, gall hynny olygu y bydd angen hyfforddi a pharatoi mwy o bobl fel y gallant wneud y gwaith hwn. Pa waith a wnaeth y mae’r Llywodraeth i sicrhau bod y capasiti yno i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau?

 

I know that extra money has been made available for the roll-out of these new advocacy services, but can you say, Minister, just how much money has been made available and confirm whether, if there is an additional requirement necessary to meet the demands of service users, you will undertake to make those finances available?

 

Gwn fod arian ychwanegol ar gael ar gyfer cyflwyno’r gwasanaethau eirioli newydd hyn, ond a alwch chi ddweud, Weinidog, yn union faint o arian sydd ar gael a chadarnhau, os oes gofyniad ychwanegol sy’n angenrheidiol i gwrdd â gofynion defnyddwyr gwasanaeth, y byddwch yn sicrhau bod y cyllid hwnnw ar gael?

 

The other part of the regulations is about improving access for people who have been in secondary mental health care services in order that they can refer themselves back within a three-year period following their treatment. We welcome this very much indeed. However, one question that some people have raised with me relates to the fact that transitional arrangements for those reaching the age of 18 during the relevant discharge period were included in the draft regulations, but have now being removed from the set of regulations that we find before us today. Will you give us some clarity on why those have been removed and on the transitional arrangements for people who have been in secondary mental health care services as children to refer themselves back once these regulations are in force?

 

Mae rhan arall y rheoliadau yn ymwneud â gwella mynediad i bobl a fu mewn gwasanaethau gofal iechyd meddwl eilaidd fel y gallant gyfeirio eu hunain yn ôl o fewn cyfnod o dair blynedd yn dilyn eu triniaeth. Yr ydym yn croesawu hyn yn fawr iawn. Fodd bynnag, mae un cwestiwn y mae rhai pobl wedi’i godi gyda mi yn ymwneud â’r ffaith bod y trefniadau pontio ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd 18 oed yn ystod y cyfnod rhyddhau perthnasol wedi cael eu cynnwys yn y rheoliadau drafft, ond bellach maent wedi cael eu tynnu o’r set o reoliadau sydd ger ein bron heddiw. A wnewch chi roi rhywfaint o eglurhad ynghylch pam y cawsant eu dileu ac am y trefniadau trosiannol fel bod pobl a fu mewn gwasanaethau gofal iechyd meddwl eilaidd fel plant yn gallu cyfeirio’u hunain yn ôl unwaith mae’r rheoliadau hyn mewn grym?

 

GPs have also indicated that they feel a little out of the loop and may miss the opportunities for some help, if needed, with regard to being able to refer people back. It is important that GPs are kept informed if patients of theirs refers themselves back directly to a secondary care service. What safeguards are in place in that regard?

 

Dywedodd meddygon teulu hefyd eu bod yn teimlo bod modd eu cynnwys yn fwy fel nad ydynt yn colli cyfle i gynnig rhywfaint o help, os oes angen, o ran y gallu i gyfeirio pobl yn ôl. Mae’n bwysig bod meddygon teulu yn cael gwybod os bydd eu cleifion yn cyfeirio eu hunain yn ôl yn uniongyrchol i wasanaeth gofal eilaidd. Pa fesurau diogelu sydd mewn lle yn hynny o beth?

 

Finally, Minister, I have one question about cross-border services. Obviously, some people who have been in secondary care mental health services in Wales may have moved to England when they feel that they need to refer themselves back to secondary care services. Clearly, this is an issue that was not been discussed widely while the regulations were being drafted. What would the situation be for someone who has moved to England with regard to their ability to be able to access secondary care services in Wales if they want to refer themselves back to a service that was beneficial to them?

 

Yn olaf, Weinidog, mae gennyf gwestiwn am wasanaethau trawsffiniol. Yn amlwg, efallai y bydd rhai pobl a fu mewn gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd yng Nghymru wedi symud i Loegr pan eu bod yn teimlo bod angen iddynt gyfeirio eu hunain yn ôl at wasanaethau gofal eilaidd. Yn amlwg, ni thrafodwyd y mater hwn yn helaeth tra bod y rheoliadau yn cael eu drafftio. Beth fyddai’r sefyllfa i rywun sydd wedi symud i Loegr o ran eu gallu i gael mynediad i wasanaethau gofal eilaidd yng Nghymru os ydynt eisiau cyfeirio’u hunain yn ôl at wasanaeth a oedd yn fuddiol iddynt?

 

Alun Ffred Jones: Bydd Plaid Cymru hefyd yn cefnogi’r rheoliadau hyn. Mae cleifion sy’n dioddef o afiechyd meddwl yn bobl fregus iawn yn ystod cyfnod eu salwch, ac mae cefnogaeth yn hollbwysig iddynt. Mae natur y gefnogaeth honno yn eithriadol o bwysig. Hoffwn godi mater ynglŷn ag ystyriaethau ieithyddol yn y cyd-destun hwn. Wedi’r cwbl, pan fydd rhywun mewn cyflwr bregus iawn, yn enwedig wrth ddioddef afiechyd meddwl, teimlaf fod natur ieithyddol y gofal neu’r gefnogaeth yn eithriadol o bwysig.

 

Alun Ffred Jones: Plaid Cymru will also support these regulations. Patients with mental health problems are very vulnerable during the period of their illness, and support is crucial for them. The nature of that support is also very important. I would like to raise the issue of linguistic considerations in this context. After all, when someone is a very vulnerable state, particularly when suffering from mental ill health, I would have thought the linguistic nature of the care or support to be very important indeed.

Hoffwn gyfeirio at ddwy baragraff yn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011. Mae paragraff 3(4) yn nodi bod rhaid i fwrdd iechyd lleol roi sylw i anghenion ethnig, ieithyddol, diwylliannol ac yn y blaen. Y cwestiwn sy’n codi yw hyn: beth yw ystyr rhoi sylw i anghenion ieithyddol yn y cyd-destun hwn? Mewn gwirionedd, a yw’n golygu y byddai bwrdd iechyd lleol yn gorfod darparu, yn yr achos hwn, eiriolwr sy’n siarad dewis iaith y claf?

 

I would like to refer two paragraphs of the Mental Health (Independent Mental Health Advocates) Wales Regulations 2011. Paragraph 3(4) states that the local health board must have regard to ethnic, linguistic, cultural needs and so on. The question that arises is this: what does having regard to linguistic needs mean in this context? Does it mean that a local health board would have to, in this case, provide an advocate who speaks the patient’s language of choice?

 

O dan ofynion penodi eiriolwyr, yn baragraff 4(2), nodir bod

 

Under the requirements for the appointment of advocates, in paragraph 4(2), it is stated that

 

‘rhaid rhoi sylw i safonau yn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru’.

 

‘regard must be had to standards in any Codes of Practice issued by the Welsh Ministers’.

 

A yw’r cod ymarfer sy’n berthnasol i’r rheoliadau hyn yn ei le? Os yw—mae’r cwestiwn yn berthnasol hyd yn oed os nad yw gan y bydd yn y dyfodol—a oes cyfeiriad penodol at yr angen i gleifion sy’n siarad Cymraeg gael gofal neu driniaeth yn eu dewis iaith, fel mae cleifion sy’n siarad Saesneg yn ei dderbyn?

 

Is the code of practice relevant to these regulations in place? If it is—the question is relevant even it is not, as it will be future—is there a specific reference to the need for Welsh-speaking patients to receive care or treatment in their language of choice, as patients who speak English get?

Angela Burns: Minister, advocates are a lifeline for a person in need; we all understand that. I urge you to ensure that there is clear water between the commissioner of the advocacy service and the providers of it—I heard you state that clearly in your commentary. However, the Children and Young People Committee produced a report that talked about how we need to have proper independent advocates for children. The recent children’s commissioner’s report talked about the failure of that particular requirement. We hear it all in our casework, and for ‘young people’ you can read ‘older people’ and ‘people with mental health issues’. If you have someone who is commissioning an advocate, they have the ability to influence that advocate, and the advocate will always have one eye on what their commissioning agent is asking them to do.

 

Angela Burns: Weinidog, mae eiriolwyr yn achubiaeth i berson sydd mewn angen; yr ydym i gyd yn deall hynny. Yr wyf yn eich annog i sicrhau bod terfyn clir rhwng comisiynydd y gwasanaeth eirioli a’i ddarparwyr—fe’ch clywais yn dweud hynny yn glir yn eich sylwadau. Fodd bynnag, cynhyrchodd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc adroddiad a soniodd bod angen i ni gael eiriolwyr annibynnol priodol i blant. Soniodd adroddiad diweddar y comisiynydd plant am fethiant y gofyniad penodol hwnnw. Yr ydym yn clywed y cyfan yn ein gwaith achos, a gallwch gyfnewid ‘pobl ifanc’ gyda ‘phobl hŷn’ a ‘phobl â phroblemau iechyd meddwl’. Os oes gennych chi rywun sy’n comisiynu eiriolwr, mae ganddynt y gallu i ddylanwadu ar yr eiriolwr, a bydd yr eiriolwr bob amser yn edrych yn rhannol ar yr hyn mae eu hasiant comisiynu yn gofyn iddynt ei wneud.

4.00 p.m.

 

Going back to my original statement, I think that advocates are a lifeline for people in need—people who are completely unable to get through to the system, or even through the system, in any other way. So, I would like to understand how you can ensure that, in the commissioning, the local health boards will be able to let those advocates have the complete independence that they need.

 

I fynd yn ôl at fy natganiad gwreiddiol, credaf fod eiriolwyr yn achubiaeth i bobl mewn angen—pobl sy’n methu’n llwyr i fynd trwyddo i’r system, neu hyd yn oed drwy’r system, mewn unrhyw ffordd arall. Felly, hoffwn ddeall sut y gallwch sicrhau, wrth gomisiynu, y bydd y byrddau iechyd lleol yn gallu gadael i’r eiriolwyr hynny gael yr annibyniaeth gyflawn sydd ei hangen.

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): First, I will refer to Alun Ffred Jones’s question about the Welsh language. We obviously want to ensure that mental health services are culturally and linguistically appropriate for the clientele that they serve. In relation to the Welsh language, Members will be aware that the Government has a task and finish group on Welsh language and mental health, which reports to the Deputy Minister for Children and Social Services. The group has been closely involved in the development of the Measure. I will be publishing a code of practice to support Parts 2 and 3 of the Measure shortly and that will set out our expectations in relation to the provision of services to those whose language of need is Welsh.

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Yn gyntaf, cyfeiriaf at gwestiwn Alun Ffred Jones am yr iaith Gymraeg. Yn amlwg, rydym am sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol ar gyfer y cleientiaid maent yn eu gwasanaethu. O ran yr iaith Gymraeg, bydd Aelodau yn ymwybodol bod gan y Llywodraeth grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg ac iechyd meddwl, sy’n adrodd i’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r grŵp wedi bod yn ymwneud â datblygu’r Mesur. Byddaf yn cyhoeddi cod ymarfer i gefnogi Rhannau 2 a 3 o’r Mesur yn fuan a bydd hynny’n nodi ein disgwyliadau mewn perthynas â darparu gwasanaethau i’r rhai sydd â’r Gymraeg fel eu hiaith o angen.

In relation to advocacy, which is obviously vitally important, I will turn first to the patients in the community that Darren Millar mentioned. I agree that the provision of community advocacy is extremely important. In the guidance that the Welsh Government issues to our mental health advocacy planners and providers, we emphasise the importance of providing the independent mental health advocate services as part of a wider integrated mental health advocacy service. I understand that that approach has already been implemented in some local health board areas, which is obviously very encouraging. We will continue to monitor the provision of statutory and non-statutory advocacy services over the coming years and report on our findings as part of the review of Part 4 of the Measure.

 

Mewn perthynas ag eiriolaeth, sydd yn amlwg yn hanfodol bwysig, trof yn gyntaf at y cleifion yn y gymuned a grybwyllwyd gan Darren Millar. Cytunaf fod y ddarpariaeth eiriolaeth gymunedol yn hynod bwysig. Yn y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi i’n cynllunwyr a darparwyr eiriolaeth iechyd meddwl, rydym yn pwysleisio pwysigrwydd darparu gwasanaethau eiriolwr iechyd meddwl annibynnol fel rhan o wasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl integredig ehangach. Caf ar ddeall y rhoddwyd y dull hwnnw eisoes ar waith mewn rhai ardaloedd bwrdd iechyd lleol, sydd yn amlwg yn galonogol iawn. Byddwn yn parhau i fonitro darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth statudol ac anstatudol dros y blynyddoedd i ddod ac adrodd ar ein canfyddiadau fel rhan o’r adolygiad o Ran 4 y Mesur.

 

In relation to the advocacy services being truly independent in the way that they are commissioned and funded, obviously LHBs are responsible for making those arrangements. I set out my expectations clearly in my opening remarks. I will reiterate that we have amended the regulations to make it absolutely clear that an LHB may not appoint a member of its own staff who is employed under a contract of service as an independent mental health advocate. It is up to local health boards to ensure that they have the capacity for advocates.

 

Mewn perthynas â gwasanaethau eiriolaeth gwirioneddol annibynnol yn y ffordd y maent yn cael eu comisiynu ac ariannu, yn amlwg mae BILlau yn gyfrifol am wneud y trefniadau hynny. Nodais fy nisgwyliadau’n glir yn fy sylwadau agoriadol. Ailadroddaf ein bod wedi newid y rheoliadau i’w gwneud yn gwbl glir na chaiff BILl penodi aelod o’i staff ei hun sy’n cael ei gyflogi o dan gontract gwasanaeth fel eiriolwr iechyd meddwl annibynnol. Y mae i fyrddau iechyd lleol i sicrhau bod ganddynt y capasiti i eiriolwyr.

In relation to funding, the Welsh Government will be increasing the annual funding it provides to LHBs in support of the service from £0.6 million per year to £2 million per year from 2012-13. 

 

O ran cyllid, bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cyllid blynyddol mae’n ei rhoi i fyrddau iechyd lleol i gefnogi’r gwasanaeth o £0.6 miliwn y flwyddyn i £2 miliwn y flwyddyn o 2012-13.

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion to approve the Mental Health (Independent Mental Health Advocates) Wales Regulations 2011. Does any Member object? I see that there are no objections. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn i gymeradwyo’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) Cymru 2011. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.

Motion agreed.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion to approve the Mental Health (Assessment of Former Users of Secondary Mental Health Services) (Wales) Regulations 2011. Does any Member object? I see that there are no objections. The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn i gymeradwyo’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

 

Derbyniwyd y cynnig.

Motion agreed.

 

Yr Adolygiad o Gymwysterau
The Qualifications Review

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Jocelyn Davies and amendments 2 and 3 in the name of William Graham.

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies a gwelliannau 2 a 3 yn enw William Graham.

Cynnig NDM4831 Jane Hutt

 

Motion NDM4831 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

Yn nodi y bydd yr Adolygiad o Gymwysterau yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein system cymwysterau yn ddealledig, yn cael ei gwerthfawrogi a’i bod yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac anghenion economi Cymru.

Notes that the Review of Qualifications will consider how we can ensure that our qualifications system is understood, valued and meets the needs of our young people and the Welsh economy.

 

The Deputy Minister for Skills (Jeff Cuthbert): I move the motion.

 

Y Dirprwy Weinidog Sgiliau (Jeff Cuthbert): Cynigiaf y cynnig.

On 29 September, I was pleased to be able to take part in the Business Skills Success Conference and Awards at the Liberty Stadium in Swansea. The conference and awards provided an opportunity for us to celebrate examples of good practice in leadership and management skills and there are many such examples to be found in Wales. The day was particularly valuable. I began with meeting some of the individuals working for businesses across Wales, before ending the day sitting down with young people from a range of our communities, from the relatively affluent to those who are not as fortunate.

 

Ar 29 Medi, yr oeddwn yn falch o allu cymryd rhan yn y Gynhadledd a Gwobrau Llwyddiant Sgiliau Busnes yn Stadiwm Liberty yn Abertawe. Roedd y gynhadledd a’r gwobrau yn gyfle inni ddathlu enghreifftiau o arfer da mewn sgiliau arwain a rheoli ac mae nifer o enghreifftiau o’r fath i’w gweld yng Nghymru. Roedd y diwrnod yn arbennig o werthfawr. Dechreuais gyda chyfarfod â rhai o’r unigolion sy’n gweithio ar gyfer busnesau ar draws Cymru, cyn gorffen y diwrnod gan eistedd i lawr gyda phobl ifanc o amrywiaeth o’n cymunedau, o’r rhai cymharol gefnog i’r rhai nad ydynt mor ffodus.

At that conference, as many of you will be aware, I announced that we are going to undertake a review of 14-19 qualifications in Wales. Today, I am delighted to be able to announce that Huw Evans OBE, currently the principal of Coleg Llandrillo Cymru, has been appointed to lead the review and chair the project board. He is eminently suitable to lead the review and brings a wealth of experience to it.

 

Yn y gynhadledd, fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, cyhoeddais ein bod yn cynnal adolygiad o gymwysterau 14-19 yng Nghymru. Heddiw, yr wyf yn falch iawn i allu cyhoeddi bod Huw Evans OBE, pennaeth cyfredol Coleg Llandrillo Cymru, wedi’i benodi i arwain yr adolygiad a chadeirio’r bwrdd prosiect. Mae’n gwbl addas i arwain yr adolygiad ac yn dod â chyfoeth o brofiad ato.

It is our duty as a Government to do all we can to ensure that our young people acquire the skills and knowledge that they need to progress to further or higher education and employment. It is also our duty as a Government to ensure that the economy benefits from suitably skilled and qualified individuals. Our qualifications system is a key element in ensuring that that happens. It is our duty to do the best that we can for our young people, as well as for those who may be looking to take them on as apprentices, students or employees. I understand the sentiments behind amendment 1; if qualifications are to meet the needs of our learners and our economy, they must include appropriate levels of literacy and numeracy. Although I think that those sentiments are implicit in the motion, there is no harm in making that absolutely clear. On that basis, I am happy to support amendment 1, tabled in the name of Jocelyn Davies.

 

Mae’n ddyletswydd arnom fel Llywodraeth i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch a chyflogaeth. Mae hefyd yn ddyletswydd arnom fel Llywodraeth i sicrhau bod yr economi ar ei hennill gan unigolion cymwysedig a medrus addas. Mae ein system gymwysterau yn elfen allweddol o sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud y gorau y gallwn i’n pobl ifanc, yn ogystal â’r rhai sydd efallai yn edrych i fanteisio arnynt fel prentisiaid, myfyrwyr neu weithwyr. Deallaf y teimladau y tu ôl i welliant 1; os yw’r cymwysterau i ddiwallu anghenion ein dysgwyr a’n heconomi, mae’n rhaid iddynt gynnwys lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd. Er y credaf fod y teimladau hynny ymhlyg yn y cynnig, nid oes dim o’i le gyda gwneud hynny’n gwbl glir. Ar y sail honno, yr wyf yn hapus i gefnogi gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jocelyn Davies.

 

In our manifesto, we promised to simplify the qualifications system. This is reiterated in my written statement about the review. Therefore, amendment 2, tabled in the name of William Graham, is unnecessary. We intend to take complexity out of the system, but we also need to ensure that the system is as fit for purpose as we can possibly make it. If we can deliver on this, we will be delivering for our young people, the Welsh economy and Wales as a nation. To do this, we need to take a holistic view of this review. We must look at the system in its entirety. Therefore, I cannot support amendment 3, also tabled in the name of William Graham, either.

 

Yn ein maniffesto, gwnaethom addo inni symleiddio’r system gymwysterau. Ail-bwysleisir hyn yn fy natganiad ysgrifenedig ynghylch yr adolygiad. Felly, mae gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw William Graham, yn ddiangen. Bwriadwn gymryd cymhlethdod allan o’r system, ond hefyd mae angen inni sicrhau bod y system mor addas â phosibl i’r diben ag y gallwn ei gwneud. Os gallwn gyflawni hyn, byddwn yn cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc, economi Cymru a Chymru fel cenedl. I wneud hyn, mae angen inni gymryd golwg gyfannol ar yr adolygiad hwn. Rhaid inni edrych ar y system yn ei chyfanrwydd. Felly, ni allaf gefnogi gwelliant 3, a gyflwynwyd hefyd yn enw William Graham, ychwaith.

 

I have already set out that we will work with partners to identify the most relevant qualifications and to ensure that those qualifications are available to learners, are trusted and understood, have real value, facilitate progression, and remain fit for purpose. I do not want to second guess what the review will conclude, but I think that it would be helpful to explain what I mean when I suggest that some qualifications are more relevant or have greater value than others. I will use A-levels as an example. A-levels remain one of the key passports to higher education for those choosing to follow that path. We know that some A-levels are looked upon more favourably by some higher education institutions than others. The Russell Group of universities warned earlier this year that if students opt for what its members regard as less-academic subjects, they may find that many degrees at competitive universities will not be open to them. This is not, of course, to decry the value of certain A-levels, but to question their relevance as a passport to progression. On the other hand, it might be that those same subjects are exactly the subjects required for other courses or for employment. We need evidence, and we need it from a range of sources.

 

Rwyf wedi nodi eisoes y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi’r cymwysterau mwyaf perthnasol a sicrhau bod y cymwysterau hynny ar gael i ddysgwyr, yn ymddiriedus a dealladwy, â gwerth go iawn, yn hwyluso dilyniant, ac yn parhau i fod yn addas i’r diben. Nid wyf am ddyfalu ymlaen llaw beth fydd casgliad yr adolygiad, ond credaf y byddai’n ddefnyddiol i egluro beth a olygaf wrth awgrymu bod rhai cymwysterau yn fwy perthnasol neu fwy o werth nag eraill. Byddaf yn defnyddio lefel A fel enghraifft. Mae lefel A yn parhau i fod yn un o basbortau allweddol i addysg uwch ar gyfer y rhai sy’n dewis dilyn y llwybr hwnnw. Rydym yn gwybod yr edrychwyd yn fwy ffafriol ar rai lefelau A gan rai sefydliadau addysg uwch nag eraill. Rhybuddiodd y Grŵp Russell o brifysgolion yn gynharach eleni os bydd myfyrwyr yn dewis yr hyn mae’i aelodau’n ei weld fel pynciau llai academaidd, efallai y cânt na fydd llawer o raddau mewn prifysgolion cystadleuol yn agored iddynt. Nid yw hyn, wrth gwrs, i fychanu gwerth lefelau A penodol, ond i gwestiynu eu perthnasedd fel pasbort i ddilyniant. Ar y llaw arall, gallai fod yr un pynciau hynny’r union bynciau sydd eu hangen ar gyfer cyrsiau eraill neu ar gyfer cyflogaeth. Mae arnom angen tystiolaeth, ac mae angen inni ei gael o amrywiaeth o ffynonellau.

 

Simon Thomas: I am grateful to the Deputy Minister for giving way. He made a valid point on A-levels and access to certain universities that view certain A-levels in a certain way. He will also know that some universities, possibly the same ones, view the Welsh baccalaureate in the same way. Surely the argument with regard to the Welsh baccalaureate, however, is that we need to ensure that this review strengthens the ability of students who study the Welsh baccalaureate to gain access to all university courses throughout the United Kingdom.

 

Simon Thomas: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Dirprwy Weinidog am ildio. Gwnaeth bwynt dilys ar lefelau A a mynediad at rai prifysgolion sydd yn gweld rhai lefelau A mewn ffordd benodol. Bydd hefyd yn gwybod bod rhai prifysgolion, o bosibl yr un rhai, yn gweld bagloriaeth Cymru yn yr un modd. Onid y ddadl o ran bagloriaeth Cymru, fodd bynnag, yw bod angen inni sicrhau bod yr adolygiad hwn yn cryfhau gallu myfyrwyr sy’n astudio bagloriaeth Cymru i gael mynediad at bob cwrs prifysgol ledled y Deyrnas Unedig?

Jeff Cuthbert: I do not dispute that assertion, and I can assure you that the Welsh baccalaureate will be a part of this review.

 

Jeff Cuthbert: Nid wyf yn amau’r honiad hwnnw, a gallaf eich sicrhau y bydd bagloriaeth Cymru yn rhan o’r adolygiad hwn.

 

We know that some vocational qualifications help our young people to progress into further training or employment, while there are suggestions that some other vocational courses are of little value to those who gain them. The Wolf report highlighted the possibility that up to 20 per cent of vocational qualifications in England were of little value. There is no room for complacency in Wales if this is also the view of employers here. Let us therefore gather the evidence and make informed judgments about which qualifications we should be encouraging and supporting, and let learners make informed choices that will help them to progress.

 

Rydym yn gwybod bod rhai cymwysterau galwedigaethol yn helpu ein pobl ifanc i fynd i mewn i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth, er y ceir awgrymiadau bod rhai cyrsiau galwedigaethol eraill fawr o werth i’r rhai sy’n eu hennill. Amlygodd adroddiad Wolf y posibilrwydd fod hyd at 20 y cant o’r cymwysterau galwedigaethol yn Lloegr yn fawr o werth. Nid oes unrhyw le i laesu dwylo yng Nghymru os hyn hefyd yw barn cyflogwyr yma. Gadewch inni felly casglu’r dystiolaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa gymwysterau dylem fod yn annog a chefnogi, a gadewch i ddysgwyr gwneud dewisiadau gwybodus a fydd yn eu helpu i wneud cynnydd.

 

I also want to be clear about what the review is not about: it is not about scrapping A-levels and GCSEs; it is not about dragooning young people into taking the qualifications that we want them to take or pushing them into the professions that we want them to join; it is not about cutting funding; and, it is not about making unnecessary changes to the qualifications system. The review is about the relevance of qualifications, availability, trust, understanding, value and currency, and it is about investing in quality. To ensure that our qualifications are trusted and understood, we need to ensure that the assessments that form part of our qualifications are appropriate. Are linear courses better than modular courses? By that, I mean that there is a question as to whether we should test at the end of the course, or allow continuous assessment. Should all qualifications for 14 to 16-year-olds have an element of external assessment? Are appropriate levels of literacy and numeracy suitably embedded in qualifications? Is the balance between learning and assessment correct? These are just some of the questions that the review might cover.

 

Rwyf hefyd am fod yn glir ynghylch yr hyn nad yw’r adolygiad yn ei gylch: nid yw’n ymwneud â dileu’r lefel A a TGAU; nid yw’n ymwneud â gorfodi pobl ifanc i gymryd y cymwysterau yr ydym am iddynt eu cymryd neu eu gwthio i’r proffesiynau yr ydym am iddynt ymuno â nhw; nid yw am dorri ar gyllid; ac nid yw am wneud newidiadau diangen i’r system gymwysterau. Mae’r adolygiad ynghylch perthnasedd cymwysterau, argaeledd, ymddiriedaeth, dealltwriaeth, gwerth a chyfredolrwydd, ac mae’n ymwneud â buddsoddi mewn ansawdd. I sicrhau bod ein cymwysterau yn ymddiriedus ac yn cael eu deall, mae angen inni sicrhau bod yr asesiadau sy’n ffurfio rhan o’n cymwysterau yn briodol. A yw cyrsiau llinellol yn well na chyrsiau modiwlaidd? Wrth hynny, golygaf fod cwestiwn ynghylch a ddylem gynnal profion ar ddiwedd y cwrs, neu ganiatáu asesiad parhaus. A ddylai’r holl gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 mlwydd oed gael elfen o asesu allanol? A oes lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd wedi’u gwreiddio mewn cymwysterau? A yw’r cydbwysedd rhwng dysgu ac asesu yn gywir? Dyma rai o’r cwestiynau y gellid eu cynnwys yn yr adolygiad.

 

I can confirm that one issue that we will consider is the detail of assessments in GCSEs. In England, it was decided to do away with modular GCSEs even before the first batch were awarded this summer. I want to ensure that any changes that we make to GCSEs are based on evidence. In England, changes to GCSEs are being forced through from September next year. In Wales, we will consider these changes as part of the review of qualifications and with a view to implementing any evidence-informed changes from September 2014. It is also important that the best and most relevant qualifications are promoted and encouraged. We must communicate clear, accurate and positive messages about our qualifications.

 

Gallaf gadarnhau mai un mater y byddwn yn ei ystyried yw manylion asesiadau TGAU. Yn Lloegr, penderfynwyd cael gwared ar TGAU modiwlaidd hyd yn oed cyn dyfarnu ar y swp cyntaf yr haf hwn. Yr wyf am sicrhau bod unrhyw newidiadau a wnawn i TGAU yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn Lloegr, mae newidiadau i TGAU yn cael eu gorfodi o fis Medi y flwyddyn nesaf. Yng Nghymru, byddwn yn ystyried y newidiadau hyn fel rhan o’r adolygiad o gymwysterau a gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau ar sail dystiolaeth o fis Medi 2014. Mae hefyd yn bwysig bod y cymwysterau gorau a mwyaf perthnasol yn cael eu hybu a’u hannog. Rhaid inni gyfleu negeseuon clir, cywir a chadarnhaol am ein cymwysterau.

 

As I said at the conference in Swansea, there is no point in having world-class qualifications if no-one knows about them or believes what they hear. To support this, we will review how performance points are allocated, how performance indicators are compiled, and how such measures can be used to help drive up standards and focus on learning and qualifications that are relevant now and in the future.

 

Fel y dywedais yn y gynhadledd yn Abertawe, nid oes unrhyw bwynt cael cymwysterau o’r radd flaenaf os nad oes neb yn gwybod amdanynt neu’n credu’r hyn maent yn ei glywed. I gefnogi hyn, byddwn yn adolygu sut y dyrennir pwyntiau perfformiad, sut y caiff dangosyddion perfformiad eu llunio a sut y gellir defnyddio mesurau o’r fath i helpu i godi safonau a ffocysu ar ddysgu a chymwysterau sy’n berthnasol nawr ac yn y dyfodol.

 

Future-proofing is vital. If they are to remain relevant, qualifications must change with the times, therefore, our framework must be able to cope with those changes. The review will not look only at today’s needs; they are important, but tomorrow’s needs are every bit as important, and I am committed to ensuring that the review has a keen eye to the future. To ensure consistency of approach, we will link the reviews with levers such as the national planning and funding system, which is the system that we use to fund further education and is currently being reviewed, the Learning and Skills (Wales) Measure 2009, and any future proposals on our careers service and our school performance measures, to ensure that the most relevant qualifications are made available to our learners.

 

Mae diogelu ar gyfer y dyfodol yn hanfodol. Os ydynt i barhau i fod yn berthnasol, rhaid i’r cymwysterau newid gyda’r oes, felly, mae’n rhaid bod ein fframwaith yn gallu ymdopi â’r newidiadau hynny. Ni fydd yr adolygiad yn edrych ar anghenion heddiw yn unig; maent yn bwysig, ond mae anghenion yfory yn un mor bwysig, ac yr wyf yn ymrwymedig i sicrhau bod yr adolygiad â llygaid craff ar y dyfodol. Er mwyn sicrhau cysondeb o ran dull, byddwn yn cysylltu’r adolygiadau gyda dulliau megis y system gynllunio ac ariannu cenedlaethol, sef y system yr ydym yn ei defnyddio i ariannu addysg bellach, sy’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, ac unrhyw gynigion yn y dyfodol ar ein gwasanaeth gyrfaoedd a’n mesurau perfformiad ysgol, er mwyn sicrhau bod y cymwysterau mwyaf perthnasol ar gael i’n dysgwyr.

 

The review will be wide-ranging. It will focus on identifying which qualifications have most relevance and which are least relevant. At the same time, it will take account of the need for our qualifications to have portability. We operate in a three-country framework, alongside England and Northern Ireland, and there are good reasons why that system needs to be maintained. Taken together, and as captured by the motion, the review of qualifications will consider how we can ensure that our qualifications system is understood, valued and meets the needs of our young people and the Welsh economy. 

 

Bydd yr adolygiad yn eang ei gwmpas. Bydd yn canolbwyntio ar nodi pa gymwysterau sydd fwyaf perthnasol a’r lleiaf perthnasol. Ar yr un pryd, bydd yn ystyried yr angen am ein cymwysterau i fod yn gludadwy. Rydym yn gweithredu mewn fframwaith tair gwlad, ochr yn ochr â Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae rhesymau da pam mae angen cynnal y system honno. I’w cymryd gyda’i gilydd, ac fel sydd yn y cynnig, bydd yr adolygiad o gymwysterau yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein system gymwysterau yn cael ei deall, ei gwerthfawrogi ac yn diwallu anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru.

Gwelliant 1 Jocelyn Davies

Amendment 1 Jocelyn Davies

 

Rhoi ar ôl ‘economi Cymru’:

 

Insert after ‘Welsh economy’:

 

‘ac yn benodol sicrhau mai dim ond i fyfyrwyr sydd â’r lefelau llythrennedd a rhifedd priodol y dyfernir cymwysterau’.

‘and in particular ensures that qualifications are only awarded to students with appropriate levels of literacy and numeracy’.

 

Simon Thomas: Cynigiaf welliant 1 yn enw Jocelyn Davies.

Simon Thomas: I move amendment 1 in the name of Jocelyn Davies.

 

Yr wyf am ddweud ar y cychwyn fy mod yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn y gwelliant, oherwydd yr wyf yn meddwl ei fod yn crisialu rhai o’r pryderon sydd gennym ym Mhlaid Cymru, ac yn cynnwys rhai o’r materion yr ydym eisiau i’r adolygiad hwn eu hystyried yn ystod y broses.

 

I would like to say at the outset that I am pleased that the Deputy Minister has accepted the amendment, because I think that it crystallises some of the concerns that we have in Plaid Cymru, and includes some of the issues that we would like this review to address during the process.

Croesawaf ddatganiad y Dirprwy Weinidog a’r ffaith ei fod wedi penodi Huw Evans i arwain yr adolygiad hwn. Yr wyf yn edrych ymlaen at glywed beth sydd gan yr adolygiad i’w gynnig ac at y broses o ymgynghori ar rai o’r materion hyn yn ystod y misoedd nesaf. Nid wyf yn meddwl ein bod wed clywed rhyw lawer o ran yr hyn y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud. Yr ydym wedi clywed am ambell egwyddor gan y Dirprwy Weinidog ac yr wyf yn croesawu hynny, ond mae ambell beth yr hoffwn gyfeirio atynt yn ystod y munudau nesaf.

 

I welcome the Deputy Minister’s statement and the fact that he has appointed Huw Evans to lead this review. I look forward to hearing what the review will have to say and to the consultation process on some of these matters during the coming months. I do not think that we have heard much about what the Government intends to do. We have heard a few principles from the Deputy Minister and I welcome that, however, there are a few things that I would like to refer to in the next few minutes.

Pwrpas cynnig y gwelliant hwn oedd sicrhau bod pob peth yr ydym yn ei wneud ym maes addysg ar hyn o bryd fel Senedd, Cynulliad ac i helpu Llywodraeth Cymru, yn cael ei anelu at sicrhau ein bod yn llwyddo i wella llythrennedd a rhifedd ymhlith pobl ifanc. Mae hwn yn hollbwysig yn fy marn i, oherwydd mae pob darn o dystiolaeth yr ydym yn ei dderbyn gan golegau a chyflogwyr yn dangos bod lefel llythrennedd a  rhifedd yn cwympo ymhlith pobl ifanc. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu eu bod yn gadael ysgol, yn mynd i’r coleg, a hyd yn oed yn gadael coleg weithiau, heb y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i gyflawni’n llawn yn y gweithle. Mae hynny’n fater o siom i ni.  

 

Our intention in proposing this amendment was to ensure that everything that we do in the field of education now as a Senedd, an Assembly and to aid the Welsh Government, is aimed at ensuring that we succeed in improving the literacy and numeracy of our young people. I think that that is crucial, because all the evidence that we have received from colleges and employers shows that the levels of literacy and numeracy are falling among young people. The evidence suggests that they are leaving school, going to college, and sometimes even leaving college, without the basic skills that they need in order to fulfil their potential in the workplace. That is a huge disappointment to us.

4.15 p.m.

 

So, as a party, we have some grave concerns that so many of our students are leaving the education system without the key skills of reading, writing and counting. We want the review to look at that in particular, to ensure that we do not have a situation in which we are told, anecdotally at least, that students can gain a qualification in the English language or the Welsh language but not have the written and verbal skills in that language to engage with college courses. Our colleges are increasingly having to test young people when they join college courses to assess their level of literacy and numeracy, and that should not be the case. If they leave schools with a qualification or some level of education, they should at least be able to get in at level 1, or whatever, in colleges with those basic skills.

 

Felly, fel plaid, mae gennym rai pryderon mawr bod cynifer o’n myfyrwyr yn gadael y system addysg heb sgiliau allweddol darllen, ysgrifennu a chyfrif. Dymunwn i’r adolygiad edrych ar hynny yn benodol, er mwyn sicrhau nad oes gennym sefyllfa lle dywedir wrthym, yn anecdotaidd o leiaf, y gall myfyrwyr ennill cymhwyster yn yr iaith Saesneg neu’r iaith Gymraeg ond nad oes ganddynt y sgiliau ysgrifenedig a llafar yn yr iaith honno i ymgymryd â chyrsiau coleg. Yn gynyddol, mae ein colegau yn gorfod profi pobl ifanc pan fyddant yn ymuno â chyrsiau coleg i asesu eu lefelau llythrennedd a rhifedd. Ni ddylai hynny fod yn digwydd. Os byddant yn gadael ysgolion â chymhwyster neu ryw lefel o addysg, dylent o leiaf allu cael mynediad ar lefel 1, neu beth bynnag, mewn colegau gyda’r sgiliau sylfaenol hynny.

 

So, we need to ensure that our qualifications are testing, not just for literacy and numeracy, as they are tested already, but they are not tested for the right skills. That is why we have moved our amendment. Although I accept that the Government is going to look at this as part of the review, it is good that we have it included in the motion.

 

Felly, mae angen inni sicrhau bod ein cymwysterau yn anodd, nid yn unig ar gyfer llythrennedd a rhifedd, gan eu bod yn cael eu profi yn barod, ond nid yw’r sgiliau cywir yn cael eu profi. Dyna pam yr ydym wedi cynnig ein gwelliant. Er y derbyniaf y bydd y Llywodraeth yn edrych ar hyn fel rhan o’r adolygiad, mae’n dda ein bod wedi ei gynnwys yn y cynnig.

 

Plaid Cymru believes in the principles that the Deputy Minister set out, in that we need a qualifications system that is fit for purpose, relevant and fit for the type of vocational or academic studies that students go on to do. As the Deputy Minister pointed out, we must ensure that A-levels are the right A-levels to get into the types of courses that a student may wish to pursue.

 

Cred Plaid Cymru yn yr egwyddorion a osodwyd gan y Dirprwy Weinidog, gan fod arnom angen system gymwysterau sy’n addas at y diben, yn berthnasol ac yn addas ar gyfer y math o astudiaethau galwedigaethol neu academaidd y mae myfyrwyr yn mynd ymlaen i’w gwneud. Fel y nodwyd gan y Dirprwy Weinidog, mae’n rhaid inni sicrhau bod y cymwysterau Safon Uwch yn addas i gael eich derbyn ar y mathau o gyrsiau y gall fod myfyriwr yn dymuno eu dilyn.

 

It is also important to underline that we also believe in encouraging learning for learning’s sake. Success in some level of qualification often encourages a student to move on to the next level, and engenders in the student a love, or at least a respect, for lifelong learning. Therefore, we have to get the balance right—I would not like to see a qualification system emerging from this review that focuses only on the qualifications that are good for courses. We need a qualifications system with a range of qualifications that encourages learners to be part of a learning nation, and which encourages them to gain a level of skills at one stage in their lives and to move on later to another level. So, it is important that we do not close out that aspect.

 

Mae hefyd yn bwysig pwysleisio ein bod ni yn ogystal yn credu mewn annog dysgu er mwyn dysgu. Bydd llwyddiant mewn rhyw lefel o gymhwyster yn aml yn annog myfyriwr i symud ymlaen at y lefel nesaf, ac mae’n meithrin cariad, neu o leiaf barch tuag at ddysgu gydol oes yn yr efrydydd. Felly, mae’n rhaid i ni gael y cydbwysedd cywir—ni hoffwn weld system gymwysterau yn deillio o’r adolygiad hwn sydd ond yn canolbwyntio ar y cymwysterau sy’n dda ar gyfer cyrsiau. Mae arnom angen system gymwysterau gydag amrywiaeth o gymwysterau sy’n annog dysgwyr i fod yn rhan o genedl sy’n dysgu, ac sy’n eu hannog i ennill lefel o sgiliau ar un cyfnod yn eu bywydau ac i symud ymlaen yn ddiweddarach at lefel arall. Felly, mae’n bwysig nad ydym yn allgau’r agwedd honno.

 

The Deputy Minister mentioned the Wolf review. We particularly need to look at those students who have very low attainment, or who may even have a level of learning disability. If we do not encourage those students to at least improve their basic skills, we are doubly betraying them. We are encouraging them, for the sake of filling the required numbers, to go on certain courses, but they are not succeeding in those courses and do not leave schools or colleges with the basic skills that will allow them to interact with the workplace at a specific level.

 

Soniodd y Dirprwy Weinidog am adolygiad Wolf. Mae angen inni edrych yn arbennig ar y myfyrwyr hynny sydd â chyrhaeddiad isel iawn, neu sydd hyd yn oed â lefel o anabledd dysgu. Os nad ydym yn annog y myfyrwyr hynny i wella eu sgiliau sylfaenol o leiaf, yr ydym yn eu bradychu ddwywaith. Yr ydym yn eu hannog, er mwyn llenwi’r niferoedd angenrheidiol, i fynd ar gyrsiau penodol, ond nid ydynt yn llwyddo ynddynt ac nid ydynt yn gadael ysgolion neu golegau gyda’r sgiliau sylfaenol a fydd yn eu galluogi i ryngweithio â’r gweithle ar lefel benodol.

 

The final issue that I wish to mention is the comparative lack of Welsh-language courses and Welsh-language training materials associated with qualifications, particularly in vocational areas. The plethora of different awarding bodies means that we do not have a very co-ordinated way of joining up. For example, ColegauCymru mentions a co-ordinated way of joining up to ensure that there is enough Welsh-language teaching material and support to ensure that we increase the number of pupils and students on Welsh-language courses, which is the aim of the Welsh-language education strategy.

 

Y mater olaf yr wyf am ei grybwyll yw’r diffyg cymharol mewn cyrsiau Cymraeg a deunyddiau hyfforddi Cymraeg sy’n gysylltiedig â chymwysterau, yn enwedig mewn meysydd galwedigaethol. Mae’r gormodedd o wahanol gyrff dyfarnu yn golygu nad oes gennym ffordd gydlynol iawn o uno. Er enghraifft, mae ColegauCymru yn sôn am ffordd gydlynol o uno er mwyn sicrhau bod digon o ddeunydd dysgu a chefnogaeth Gymraeg i sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y disgyblion a’r myfyrwyr ar gyrsiau Cymraeg, sef nod y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Gwelliant 2 William Graham

 

Amendment 2 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn gresynu bod y system gymwysterau bresennol wedi mynd yn gymhleth.

 

Regrets that the current qualification system has become complex.

 

Gwelliant 3 William Graham

 

Amendment 3 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn mynegi pryder bod cwmpas yr adolygiad yn eang.

 

Raises concern that the review is wide ranging in scope.

 

Angela Burns: I move amendments 2 and 3 in the name of William Graham.

 

Angela Burns: Cynigiaf welliannau 2 a 3 yn enw William Graham.

 

I thank the Deputy Minister for bringing forward this debate on the review of qualifications. I will repeat what I said in September: what matters most to prospective employers is that school leavers are proficient in the key skills of literacy and numeracy, and that their qualifications are a meaningful assessment of their ability. Therefore, I concur with your stated aim, Deputy Minister, to make sure that qualifications are of real value, that they are understood and trusted and that they remain fit for purpose.

 

Diolch i’r Dirprwy Weinidog am gyflwyno’r ddadl hon ar yr adolygiad o gymwysterau. Ailadroddaf yr hyn a ddywedais ym mis Medi: yr hyn sydd bwysicaf i ddarpar gyflogwyr yw bod y sawl sy’n gadael ysgol yn hyfedr yn sgiliau allweddol llythrennedd a rhifedd, a bod eu cymwysterau’n asesiad ystyrlon o’u gallu. Felly, cytunaf â’ch nod penodol, Ddirprwy Weinidog, o wneud yn siŵr bod gwerth go iawn gan gymwysterau, eu bod yn ddealladwy, y gellir ymddiried ynddynt a’u bod yn parhau i fod yn addas i’r diben.

 

Our first amendment, amendment 2, regrets that the current qualification system has become complex, but I noticed that you brushed it aside quite quickly. However, we must look at this. There is collective amnesia in the Labour Government and its backbenches as to why our qualifications system and education system are in this mess. I have no doubt that you and the Minister to whom you work are trying to resolve this, but we have had 10 years of completely and utterly horrific behaviour from the Government towards the education system in Wales. That is why we are here. For you to oppose our amendment is quite sad, because we should put on public record that the qualifications system is too complex, as there are over 10,000 different qualifications out there, a substantial number of which are hard to track down properly, are lying there unused, without having any learners whatsoever. They are all being funded by the Welsh Government. While I support choice, 10,000 is a choice too far. From our research and discussions with academics and with the unions, it would appear that a substantial number of these have been set up by specific skills sectors for pupils. They have been less about identifying real need and more about identifying how they can get a subsidy from the Welsh Government in order to keep their quango going. That is a terrible waste of money and it does not help us when we are trying, in these hard economic times, to make our Welsh pound stretch further. Therefore, we want to ensure that people understand that the current system is complex, completely unworkable and, in some areas—not all—not fit for purpose.

 

Mae ein gwelliant cyntaf, gwelliant 2, yn gresynu bod y system gymwysterau bresennol wedi mynd yn gymhleth, ond sylwais eich bod wedi ei ysgubo i’r neilltu yn eithaf cyflym. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni edrych ar hyn. Mae amnesia torfol gan Lywodraeth Lafur a’i meinciau cefn ynghylch pam y mae ein system gymwysterau a’n system addysg yn y llanast hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth a ydych chi a’ch Gweinidog yn ceisio datrys hyn, ond yr ydym wedi cael 10 mlynedd o ymddygiad hollol erchyll gan y Llywodraeth tuag at y system addysg yng Nghymru. Dyna pam yr ydym yma. Mae’n eithaf trist eich bod chi’n gwrthwynebu ein gwelliant, oherwydd dylem gofnodi’n gyhoeddus bod y system gymwysterau yn rhy gymhleth, gan fod dros 10,000 o gymwysterau gwahanol ar gael, mae nifer sylweddol ohonynt yn anodd dod o hyd iddynt yn iawn, yn gorwedd yno heb gael eu defnyddio, heb unrhyw ddysgwyr o gwbl. Maent i gyd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Er fy mod i’n cefnogi dewis, mae 10,000 yn ormod o ddewis. Yn ôl ein gwaith ymchwil a thrafodaethau gydag academyddion a’r undebau, ymddengys bod nifer sylweddol o’r rhain wedi cael eu sefydlu gan sectorau sgiliau penodol ar gyfer disgyblion. Mae llai o ymdrech wedi bod mewn canfod gwir angen na chanfod sut y gallant gael cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i gadw eu cwango i fynd. Mae hynny’n wastraff ofnadwy o arian ac nid yw’n ein cynorthwyo ni pan ydym yn ceisio, yn y cyfnod economaidd anodd hwn, i ymestyn ein punt Gymreig ymhellach. Felly, yr ydym am sicrhau bod pobl yn deall bod y system bresennol yn gymhleth, yn gyfan gwbl anymarferol ac, mewn rhai ardaloedd—nid pob un—ddim yn addas i’r pwrpas.

 

Our next amendment, amendment 3, raises concern that the review is too wide-ranging. Although it is a good thing to do, and a very good thing to do now, our concern is whether you have enough time to do everything that you say that you wish to do. You want to review the benefits of the Welsh baccalaureate; that is very important, and I support the comments that Simon Thomas made about it and about the views of some of our universities. You want to review the modernisation of GCSEs and you need to take into account the opinions of the teaching profession, unions and businesses, but can the thorough analysis that this review desperately needs be done in the timescale that you have allocated to it? If you can reassure me on that, Deputy Minister, all well and good, but my concern is that you will conduct a half-baked review, and that we will not have enough information or the chance to go through the 10,000 qualifications that are currently lurking out there and decide which ones are truly fit for purpose.

 

Mae ein gwelliant nesaf, gwelliant 3, yn mynegi pryder bod yr adolygiad yn rhy eang. Er ei fod yn beth da i’w wneud, ac yn beth da iawn i’w wneud yn awr, ein pryder yw a oes gennych ddigon o amser i wneud popeth yr ydych yn dweud eich bod yn dymuno ei wneud. Yr ydych am adolygu manteision bagloriaeth Cymru; mae hynny’n bwysig iawn, ac yr wyf yn cefnogi’r sylwadau a wnaeth Simon Thomas amdani ac am farn rhai o’n prifysgolion. Yr ydych am adolygu moderneiddio TGAU a bydd angen ichi gymryd i ystyriaeth farn y proffesiwn addysgu, undebau a busnesau, ond a all y dadansoddiad trylwyr gan yr adolygiad hwn, y mae taer ei angen, ddigwydd yn yr amser yr ydych wedi ei neilltuo ar ei gyfer? Os gallwch roi sicrwydd imi ynghylch hynny, Ddirprwy Weinidog, popeth yn iawn, ond fy mhryder i yw y byddwch yn cynnal adolygiad hanner pan, ac na fydd gennym ddigon o wybodaeth neu gyfle i fynd drwy’r 10,000 o gymwysterau sydd yn llechu allan yno ar hyn o bryd a phennu pa rai sydd yn wirioneddol yn addas at y diben.

 

We will not support Plaid Cymru’s amendment, amendment 1. I agree with you totally that they all need to be able to read and write, Simon Thomas, but I am fed up of giving this Government little holes or escape routes down which it can jump whenever it feels like it. It should be able to bring forward a qualifications review that takes it as read that people in this country will leave education being able to read and write. You and I should not have to say, ‘By the way, please make sure that they can read and write’.

 

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, gwelliant 1. Yr wyf yn cytuno â chi yn llwyr bod angen iddynt i gyd allu darllen ac ysgrifennu, Simon Thomas, ond yr wyf wedi cael llond bol ar adael tyllau bach neu lwybrau dianc i’r Llywodraeth hon ddisgyn drwyddynt bryd bynnag y mae’n teimlo fel gwneud. Dylai fod yn gallu cyflwyno adolygiad o gymwysterau sy’n cymryd yn ganiataol y bydd pobl yn y wlad hon yn gallu darllen ac ysgrifennu pan fyddant yn gadael addysg. Ni ddylai fod yn rhaid i chi ac i mi ddweud, ‘Gyda llaw, gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu darllen ac ysgrifennu’.

 

Simon Thomas: I am grateful to the Member for giving way. On that point, I find it curious that she opened her remarks to this debate on that very basis.

 

Simon Thomas: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Ar y pwynt hwnnw, yr wyf yn ei chael yn rhyfedd y cychwynnodd hi ei sylwadau yn y ddadl hon ar yr union sail honno.

 

Angela Burns: I have no problem with literacy and numeracy, but the point is that this is sloppy amendment making. You should not have to say to the Government in power ‘Oh, by the way, as you are conducting this skills review, let us do reading and writing’. This Government has managed to avoid facing up to the disgrace that is the education system in this country for long enough. It stops now.

 

Angela Burns: Nid oes gennyf broblem gyda llythrennedd a rhifedd, ond y pwynt yw ei fod yn ffordd flêr o lunio gwelliant. Ni ddylai fod yn rhaid ichi ddweud wrth y Llywodraeth sydd mewn grym ‘O, gyda llaw, gan eich bod chi’n cynnal yr adolygiad sgiliau hwn, gadewch i ni drafod darllen ac ysgrifennu’. Mae’r Llywodraeth hon wedi llwyddo i osgoi wynebu gwarth y system addysg yn y wlad hon yn ddigon hir. Dyma stop arni.

 

Deputy Minister, we support the qualifications review 100 per cent, but we must be clear about what we want it to achieve and what the outcomes are. This is my final question, because I can see that I am running out of time. The mantra of choice was the mantra upon which you built the 14-19 pathways. How will this qualifications review impact upon the 14-19 pathways? By 2012, all our maintained secondary schools will have to be able to offer 30 choices for pupils to take forward. How will that tie in to your review and how will they be able to build that into building a career for themselves that will enrich them as people in the roundest sense of the word and, thereby, enrich our country?

 

Ddirprwy Weinidog, yr ydym yn cefnogi’r adolygiad o gymwysterau 100 y cant, ond mae’n rhaid inni fod yn glir ynghylch yr hyn yr ydym eisiau ei gyflawni a beth yw’r canlyniadau. Dyma fy nghwestiwn olaf, oherwydd gallaf weld fy mod yn rhedeg allan o amser. Y mantra o ddewis oedd y mantra a adeiladasoch y llwybrau 14-19 arno. Sut y bydd yr adolygiad cymwysterau hwn yn effeithio ar y llwybrau 14-19? Erbyn 2012, bydd yn rhaid i bob un o’n hysgolion uwchradd a gynhelir allu cynnig 30 dewis i ddisgyblion eu cymryd ymlaen. Sut y bydd hynny’n cyd-fynd â’ch adolygiad a sut y gallant wau hynny i mewn i adeiladu gyrfa ar eu cyfer eu hunain a fydd yn eu cyfoethogi fel pobl yn ystyr llawnaf y gair ac, felly, yn cyfoethogi ein gwlad?

 

Keith Davies: Yr wyf yn croesawu’r adolygiad o gymwysterau. Gan ymateb i Angela yn syth am welliant Plaid Cymru, gwelliant 1, yr wyf yn gwybod bod rhai graddedigion o Brifysgol Cymru heb sefyll unrhyw arholiad ysgrifenedig. Mae hynny’n warthus. Yr wyf yn falch o gefnogi gwelliant Plaid Cymru.

 

Keith Davies: I welcome the qualifications review. To respond at the outset to Angela on the Plaid Cymru amendment, amendment 1, I know that some University of Wales graduates have not taken any written examinations. That is disgraceful. I am pleased to support the Plaid Cymru amendment.

 

Un o’r addewidion yn ein maniffesto oedd y byddem yn symleiddio’r system. Dyna beth mae’r Dirprwy Weinidog yn mynd i’w wneud. Bydd yn symleiddio’r system achos ei fod yn derbyn bod y system wedi mynd yn fwy cymhleth. Yr ydym yn dweud ei bod yn bwysig bod gennym system sy’n addas i ofynion myfyrwyr, sy’n ymateb i anghenion Cymru ac sy’n cael ei deall a’i gwerthfawrogi. Hefyd, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gynharach, mae’n rhaid sicrhau bod pobl yn ymddiried yn y cymwysterau, felly mae’n rhaid sicrhau eu bod yn cael eu hasesu’n briodol. Mae Angela Burns yn anghywir: nid 10,000 o gymwysterau sydd ar gael; mae’n agosach at 15,000. Mae colegau mwyaf Cymru yn cynnig o leiaf 1,000 o gymwysterau’r un. Mae’n sefyllfa gymhleth. Yr wyf yn derbyn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog: mae’n rhaid inni wneud rhywbeth am hyn.

 

One of the promises in our manifesto was that we would simplify the system. That is what the Deputy Minister is going to do. He will simplify the system because he accepts that the system has become too complex. We say that it is important that we have a system that is suitable for the requirements of students, that responds to the needs of Wales and that is understood and appreciated. Also, as the Deputy Minister said earlier on, we must ensure that people have faith in the qualifications, so they must be appropriately assessed. Angela Burns is wrong: it is not 10,000 qualifications that are on offer; it is closer to 15,000. Wales’s largest colleges are offering at least 1,000 qualifications each. It is a complex situation. I accept what the Deputy Minister said: we must do something about this.

 

Gan fod cymwysterau galwedigaethol yn amrywio cymaint o ran maint, mae’n anodd gweld pa rai sy’n cyfateb i’w gilydd ac mae’n anodd eu hamserlennu a’u rhoi at ei gilydd. Er enghraifft, os ydych yn gyfarwydd â’r system gredydau bresennol, gwyddoch fod TGAU A* i C yn werth 15 credyd. Gelwir TGAU yn lefel 2. Ond, mae tystysgrif lefel 2 mewn hyfforddi ffitrwydd cyfwerth â 23 credyd, sy’n fwy na TGAU A* i C. Mae lefel 2 mewn sgiliau cyflogadwyedd cyfwerth â naw credyd. Mae colegau ac ysgolion yn ceisio amserlennu’r holl gymwysterau hyn, sy’n gofyn am gyfnodau gwahanol i’w cyflwyno. Mae deall y cymwysterau yn gymhleth yn ogystal â’u cyflwyno mewn sefydliad.

 

Given that vocational qualifications vary so much in terms of size, it is difficult to see which ones correspond and it is difficult to timetable them and put them together. For example, if you are familiar with the current credit system, you will know that A* to C grade GCSEs are worth 15 credits. GCSEs are known as level 2. However, a level 2 certificate in fitness training is worth 23 credits, which is more than A* to C GCSEs. A level 2 in employability skills is worth nine credits. Colleges and schools try to timetable all these qualifications, which are presented over different time periods. Understanding the qualifications is complex, as well as presenting them within institutions.

 

Mae perygl nad yw myfyrwyr, wrth ddewis cyrsiau, yn ymwybodol o sawl credyd mae’r cymhwyster yn eu darparu. Gallent ddarganfod, yn rhy hwyr, nad yw’r cyfanswm yn ddigon i ateb gofynion cymhwyster fel bagloriaeth Cymru. Mae rhai myfyrwyr mewn colegau yng Nghymru wedi cychwyn cwrs ym mis Medi, ond erbyn mis Tachwedd wedi sylweddoli na fyddant yn derbyn digon o gredydau i fodloni gofynion opsiynau fel y fagloriaeth. Mae pethau yn gymhleth iawn. Yr oeddwn yn falch o weld—yn dilyn newidiadau i nifer o gymwysterau galwedigaethol y llynedd—bod gofynion bagloriaeth Cymru wedi’u diwygio. Gobeithiaf fod y broblem hon wedi’i datrys.

 

There is a danger that students, in choosing courses, are unaware of how many credits the different qualifications provide. They could discover, too late, that the total is not enough for the requirements of a qualification like the Welsh baccalaureate. Some students in Welsh colleges start a course in September but realise in November that they do not attract adequate numbers of credits for options such as the baccalaureate. Things are very complex. I was pleased to see—following changes to a number of vocational qualifications last year—that the requirements of the Welsh baccalaureate were revised. I hope that this problem has been solved.

 

Cefnogaf yr hyn a ddywedodd Simon Thomas am addysg alwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg. Y broblem yw nad ein cyfrifoldeb ni yn y Cynulliad yw hyn, na chyfrifoldeb CBAC, ond yn hytrach gyfrifoldeb y byrddau arholi yn Lloegr. Mae hawl gan golegau ac ysgolion ddewis pynciau sy’n cael eu harholi gan fyrddau yn Lloegr, ond mae’r byrddau hynny yn gwrthod cynnig y cymwysterau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithiaf y bydd y Dirprwy Weinidog yn sylweddoli yn ystod yr adolygiad bod hwn yn fater pwysig i ni.

 

I endorse what Simon Thomas said about Welsh-medium vocational education. The problem stems from the fact that this is not the Assembly’s responsibility, nor the WJEC’s responsibility; the responsibility lies with examination boards in England. Schools and colleges are able to choose subjects that are examined by English boards, but those boards then refuse to provide the qualifications through the medium of Welsh. I hope that the Deputy Minister comes to realise during the course of this review that this is an important issue for us.

 

Mae’n rhaid imi sôn am y Bil addysg mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi’i baratoi. Yr oeddwn mewn cyfarfod o bwyllgor cwricwlwm ysgol ddwyieithog neithiwr. Mae tair ysgol yn sir Gâr yn cydweithio, gan gyflwyno bron i 15 o gyrsiau lefel A ar y cyd. Ond, maent wedi darganfod ei bod yn anodd dod o hyd i fwrdd arholi sy’n barod i gynnig y cymwysterau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n beth pwysig i ni fel Cynulliad allu ei sicrhau. Yr ydym yn mynnu bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnwys addysg Gymraeg yn ei strategaeth addysg, ond os nad yw’r plant sy’n dilyn y cyrsiau yn ein hysgolion yn gallu sefyll yr arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg, mae hynny’n warthus. Gobeithiaf, Ddirprwy Weinidog, y byddwch yn ystyried fy mhwyntiau ac edrychaf ymlaen at weld yr adolygiad.

 

I must mention the education Bill that the Minister for Education and Skills has prepared. I attended a meeting of the curriculum committee in a bilingual school last night. Three schools in Carmarthenshire are collaborating on jointly offering nearly 15 A-level courses, but they have discovered that it is difficult to find an examining board that is willing to offer the qualifications through the medium of Welsh. It is important that we, as an Assembly, secure this. We insist that all local authorities in Wales include Welsh-medium education in their education strategies, but it is disgraceful that children are unable to take their examinations through the medium of Welsh. I hope, Deputy Minister, that you will consider the points that I make, and I look forward to seeing the review.

 

Nick Ramsay: I agree with a lot of what Keith Davies said about the complexity of the current system. The confusion that surrounds qualifications and credits that he alluded to demonstrates that complexity all too well. That is why, in speaking in this debate, I am pleased to support the amendments tabled in the name of William Graham, regretting that the current qualification system is too complex.

Nick Ramsay: Yr wyf yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Keith Davies am gymhlethdod y system bresennol. Mae’r dryswch o gwmpas cymwysterau a chredydau y cyfeiriodd ef ato yn dangos y cymhlethdod hwnnw yn rhy dda. Dyna pam, wrth siarad yn y ddadl hon, yr wyf yn falch i gefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw William Graham yn gresynu bod y system gymwysterau bresennol yn rhy gymhleth.

 

4.30 p.m.

 

You mentioned that Angela Burns had underestimated the number of qualifications that are available—I had 10,000 down as well, but I have rapidly scribbled that out and upgraded it to 15,000 on your advice. We gave a conservative estimate, but whether it is 10,000, 12,000 or 15,000, that is a plethora of qualifications. Sadly, we are not even sure what a number of them are, and it seems that some are lying dormant. Clearly, there is a need for simplification.

 

Soniasoch fod Angela Burns wedi tanamcangyfrif nifer y cymwysterau sydd ar gael—10,000 oedd wedi ei nodi gennyf i hefyd, ond yr wyf wedi sgriblo dros hynny yn gyflym a’i uwchraddio i 15,000 ar sail eich cyngor chi. Gwnaethom amcangyfrif ceidwadol, ond p’un a yw’n 10,000, 12,000 neu 15,000, mae hynny’n ormodedd o gymwysterau. Yn anffodus, nid ydym yn hyd yn oed yn siŵr beth yw nifer ohonynt, ac mae’n ymddangos bod rhai yn segur. Yn amlwg, mae angen symleiddio.

 

We need to get the balance right between choice and provision. Angela Burns mentioned earlier the issues that we have with the scope of the review being too broad. Maybe it is too ambitious. In an ideal world, the review would look at all these issues, but we have serious concerns that the scope is too broad. On the back of that, how can every aspect of the review be satisfied if too much is taken on?

 

Mae angen i ni gael y cydbwysedd cywir rhwng dewis a darpariaeth. Crybwyllodd Angela Burns yn gynharach y problemau sydd gennym gyda’r ffaith bod cwmpas yr adolygiad yn rhy eang. Efallai ei bod yn rhy uchelgeisiol. Mewn byd delfrydol, byddai’r adolygiad yn edrych ar yr holl faterion hyn, ond mae gennym bryderon difrifol bod y cwmpas yn rhy eang. O ganlyniad, sut y gellir cyflawni pob agwedd ar yr adolygiad os ymgymerir â gormod?

 

I want to focus on the Wolf review, which was mentioned by the Deputy Minister for Skills. The review said that many students are on ‘dead-end courses’ that do not lead to higher education or good jobs. It is too easy to gloss over a comment such as that. It is a terrible indictment to say that students are on dead-end courses. Ultimately, you would hope that something could be gleaned from any course, and, in the case of many courses, I am sure that that is the case. However, the phrase ‘dead-end courses’ has been used. When students are taking courses at that time of life, we want them to be getting the best out of them, particularly when resources are limited and the number of courses that they will be able to take may be limited. Therefore, we hope that this issue of dead-end courses can be addressed. The review also recommended a radical change of direction and a major simplification, as we mentioned before. We need incentives to help young people to make the most of valuable pre-16 vocational qualifications. There is also the suggestion that further education lecturers could be allowed to teach in schools to ensure that young people are taught by those who are best suited to do so. We often talk about breaking down the barriers in local government and it would also help if there was a breaking down the barriers in different levels of education so that we can put the student at the centre of education, in the same way that we often talk about putting the citizen at the centre of local government.

 

Yr wyf am ganolbwyntio ar adolygiad Wolf, a grybwyllwyd gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau. Dywedodd yr adolygiad fod llawer o fyfyrwyr ar gyrsiau heb ddyfodol nad ydynt yn arwain at addysg uwch neu swyddi da. Mae’n rhy hawdd i wneud yn fach o sylw o’r fath. Mae’n gyhuddiad ofnadwy i ddweud bod myfyrwyr ar gyrsiau heb ddyfodol. Yn y pen draw, byddech yn gobeithio y gellid dysgu rhywbeth o unrhyw gwrs, ac, yn achos llawer o gyrsiau, yr wyf yn siŵr bod hynny’n wir. Fodd bynnag, defnyddiwyd yr ymadrodd ‘cyrsiau heb ddyfodol’. Pan fydd myfyrwyr yn dilyn cyrsiau ar yr adeg honno yn eu bywydau, yr ydym am iddynt gael y gorau allan ohonynt, yn enwedig pan fo adnoddau’n gyfyngedig a gallai nifer y cyrsiau y mae modd iddynt eu cymryd fod yn gyfyngedig. Felly, yr ydym yn gobeithio y gellir ymdrin â’r mater hwn o gyrsiau heb ddyfodol. Argymhellodd yr adolygiad hefyd fod newid radical mewn cyfeiriad a symleiddio mawr, fel y gwnaethom grybwyll o’r blaen. Mae angen cymhellion arnom i helpu pobl ifanc i wneud y gorau o gymwysterau galwedigaethol gwerthfawr cyn-16. Awgrymir hefyd y gallai darlithwyr addysg bellach gael eu caniatáu i addysgu mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu gan y rhai sy’n fwyaf addas i wneud hynny. Yr ydym yn aml yn sôn am chwalu’r rhwystrau mewn llywodraeth leol, a byddai hefyd yn helpu pe chwelid y rhwystrau mewn lefelau gwahanol o addysg fel y gallwn roi’r myfyriwr yng nghanol addysg, yn yr un modd ag yr ydym yn aml yn siarad am roi’r dinesydd yng nghanol llywodraeth leol.

 

The views of employers are interesting. Iestyn Davies from the Federation of Small Businesses has said that employers have reported ongoing problems with the recruitment of youngsters with basic literacy and numeracy skills. I listened with interest to the game of tennis that went on earlier between Angela Burns and Simon Thomas from Plaid Cymru—a metaphorical game of tennis, that is; there is no net in the middle of the Chamber. I could see what both of you were trying to say, but we came to the conclusion on this side of the Chamber that there would be something not right about supporting amendment 1, and that, in many ways, it devalues the whole basis of what we are trying to achieve. That is why we have decided not to support the amendment. It was interesting to hear that the Government has decided to support it, but there is an argument that literacy and numeracy should be viewed separately, and that we should not have to take into account the fact that a large number of young people, sadly, still lack those skills.

 

Mae barn cyflogwyr yn ddiddorol. Mae Iestyn Davies o’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud bod cyflogwyr wedi nodi problemau parhaus gyda recriwtio pobl ifanc gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol. Gwrandewais gyda diddordeb ar y gêm o dennis yn gynharach rhwng Angela Burns a Simon Thomas o Blaid Cymru—gêm drosiadol o dennis, hynny yw; nid oes unrhyw rwyd yng nghanol y Siambr. Gallwn weld beth oedd y ddau ohonoch yn ceisio ei ddweud, ond daethom i’r casgliad ar yr ochr hon i’r Siambr na fyddai’n iawn inni gefnogi gwelliant 1, a’i fod, mewn sawl ffordd, yn tanseilio gwerth holl sail yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni. Dyna pam yr ydym wedi penderfynu peidio â chefnogi’r gwelliant. Yr oedd yn ddiddorol clywed bod y Llywodraeth wedi penderfynu ei gefnogi, ond mae dadl y dylid ystyried llythrennedd a rhifedd ar wahân, ac na ddylai fod yn rhaid inni gymryd i ystyriaeth y ffaith bod nifer fawr o bobl ifanc, yn anffodus, yn dal i fod yn brin o’r sgiliau hynny.

 

I mentioned that the review is too wide, and many issues have already been discussed. Many of the issues that we have been talking about have been openly discussed and consulted on in England. Therefore, Minister, how do you intend to take account of the large volume of work that has been done in England, and, if there have been a number of useful findings across the border, will you be incorporating those into your deliberations so that we are not covering old ground? As I said earlier, I agree with much of what Keith Davies said. Finally, I was pleased to hear you say that A-levels are the benchmark of educational standards. They have been that for a long time. We appreciate the Welsh baccalaureate and other things, but, ultimately, A-levels have served students very well. Let us see what we can do to improve the situation.

 

Soniais fod yr adolygiad yn rhy eang, ac mae llawer o faterion eisoes wedi cael eu trafod. Mae nifer o’r materion yr ydym wedi bod yn siarad yn eu cylch wedi cael eu trafod yn agored ac wedi bod yn destun ymgynghori yn Lloegr. Felly, Weinidog, sut ydych chi’n bwriadu cynnwys yn eich ystyriaethau y swm mawr o waith sydd wedi’i wneud yn Lloegr, ac, os bu nifer o ganfyddiadau defnyddiol ar draws y ffin, a fyddwch yn eu hymgorffori yn eich ystyriaethau er mwyn i ni osgoi gwastraffu amser? Fel y dywedais yn gynharach, yr wyf yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Keith Davies. Yn olaf, yr oeddwn yn falch o’ch clywed yn dweud mai cymwysterau Safon Uwch yw meincnod safonau addysgol. Maent wedi bod am amser hir. Yr ydym yn gwerthfawrogi bagloriaeth Cymru a phethau eraill, ond, yn y pen draw, mae cymwysterau Safon Uwch wedi bod o fudd enfawr i fyfyrwyr. Gadewch inni weld beth y gallwn ei wneud i wella’r sefyllfa.

 

Mike Hedges: When I started lecturing just over 25 years ago, it was a simple world. There was the WJEC, City and Guilds, BTEC—which had just split from City and Guilds—and some specialist groups for such things as shorthand. Unfortunately, qualifications have become a profitable industry, with a large number of major players. We have an alphabet soup of qualifications in existence. It is almost impossible to put any group of letters together without signifying a qualification or another. The last full year that I taught, there was BTEC national, BTEC first, City and Guilds, Welsh Joint Education Committee, OCN, Edexcel, Key Skills and the Welsh baccalaureate. How are small and medium-sized enterprises supposed to know the difference between them? What is the difference between OCR and OCN, and what is the difference between BTEC first, BTEC national, BTEC entry and BTEC foundation? How does a GNVQ differ from an NVQ, and how do they both differ from City and Guilds and BTEC? We have not even got to the numbers yet.

 

Mike Hedges: Pan ddechreuais i ddarlithio ychydig dros 25 mlynedd yn ôl, roedd hwn yn fyd syml. Roedd CBAC, City and Guilds, BTEC—a oedd newydd ymrannu oddi wrth City and Guilds—a rhai grwpiau arbenigol ar gyfer pethau fel llaw-fer. Yn anffodus, mae cymwysterau wedi dod yn ddiwydiant proffidiol, gyda nifer fawr o chwaraewyr mawr. Mae gennym gymysgwch o acronymau ar gyfer y cymwysterau. Mae bron yn amhosibl ychwanegu unrhyw grŵp o lythrennau at ei gilydd heb gyfeirio at ryw gymhwyster neu’i gilydd. Yn y flwyddyn lawn olaf y bûm yn dysgu, yr oedd BTEC cenedlaethol, BTEC cyntaf, City and Guilds, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, OCN, Edexcel, Key Skills a bagloriaeth Cymru. Sut mae busnesau bach a chanolig eu maint fod i wybod y gwahaniaeth rhyngddynt? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng OCR a OCN, a beth yw’r gwahaniaeth rhwng BTEC cyntaf, BTEC cenedlaethol, BTEC mynediad a BTEC sylfaen? Sut mae GNVQ yn wahanol i NVQ, a sut mae’r ddau’n wahanol i City and Guilds a BTEC? Nid ydym hyd yn oed wedi cyrraedd y rhifau eto.

 

It was suggested at one time that every level be graded—from level 1 to levels 2, 3, 4, 5, 6 and 7, with level 1 being for GCSE grades D to G and level 7 for a PhD. However, difficulties occurred with this. For example, is Key Skills communication level 3 equivalent to A-level English? Any of you who have seen both courses will be certain that there is a slight difference between them. I am not surprised that employers are confused. I worked in the industry for a number of years and I got confused at times. We need qualifications that are trusted and understood. I strongly support the grading of the Welsh baccalaureate, but also a review of what is in the qualification. What is really achieved by 20 one-hour sessions in a modern foreign language? Surely, at least twice that amount is needed to start making some progress in a language.

 

Awgrymwyd ar un adeg fod pob lefel yn cael ei raddio—o lefel 1 i lefelau 2, 3, 4, 5, 6 a 7, gyda lefel 1 ar gyfer graddau TGAU D i G a lefel 7 ar gyfer PhD. Fodd bynnag, cafwyd anawsterau gyda hyn. Er enghraifft, a yw lefel cyfathrebu 3 Key Skills yn gyfwerth â Safon Uwch Saesneg? Bydd unrhyw un ohonoch sydd wedi gweld y ddau gwrs yn sicr bod yna ychydig o wahaniaeth rhyngddynt. Nid wyf yn synnu bod cyflogwyr yn drysu. Gweithiais yn y diwydiant am nifer o flynyddoedd ac yr oeddwn i’n drysu ar adegau. Mae arnom angen cymwysterau y mae pobl yn ymddiried ynddynt ac yn eu deall. Yr wyf yn cefnogi graddio bagloriaeth Cymru yn gryf, ond hefyd adolygu’r hyn sydd yn y cymhwyster. Beth a gyflawnir mewn gwirionedd gan 20 sesiwn un awr mewn iaith dramor fodern? Onid oes angen o leiaf ddwywaith y swm hwnnw i ddechrau gwneud rhywfaint o gynnydd mewn iaith?

 

The downside of the current funding mechanism in education is that there is a financial incentive to add additional qualifications to main courses, particularly those that are easy to complete and achieve. Each institution is under pressure to maximise the number of funding units it has. We should remember that 70 per cent of FE funding comes from the Welsh Government. Performance measures and funding are driving the curriculum rather than need. While, most, although not all, employers and HE establishments think that GCSE English is a better qualification than the Key Skills communication course, the latter has a higher pass rate and so will seem better when it comes to inspections. What can be done? Education decides what should be funded. Unfunded qualifications will only survive if people pay the full cost for them. Which qualifications do employers and students value? Unfortunately, it tends to be the older qualifications, the BTECs, the City and Guilds, the GCSEs and the A-levels. Those have stood the test the time. We must also look at the qualifications in new skills. For example, City and Guilds offers a qualification in solar panel installation. Things such as that are necessary and need to be brought in; we cannot stop with what we had before.

 

Anfantais y dull ariannu cyfredol mewn addysg yw bod cymhelliad ariannol i ychwanegu cymwysterau ychwanegol at y prif gyrsiau, yn enwedig y rhai sy’n hawdd eu cwblhau a chyflawni. Mae pob sefydliad dan bwysau i wneud y gorau o nifer yr unedau cyllido sydd ganddo. Dylem gofio bod 70 y cant o gyllid addysg bellach yn dod o Lywodraeth Cymru. Mesurau perfformiad a chyllid sydd yn gyrru’r cwricwlwm yn hytrach nag angen. Er bod y rhan fwyaf, ond nid pob un, o gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn meddwl bod TGAU Saesneg yn gymhwyster gwell na chwrs cyfathrebu Key Skills, mae gan yr olaf gyfradd lwyddo uwch ac felly bydd yn ymddangos yn well o ran arolygiadau. Beth ellir ei wneud? Addysg sy’n penderfynu beth ddylai gael ei ariannu. Bydd cymwysterau heb eu hariannu ond yn goroesi os yw pobl yn talu’r gost lawn amdanynt. Pa gymwysterau y mae cyflogwyr a myfyrwyr yn rhoi gwerth arnynt? Yn anffodus, tueddant i fod y cymwysterau hŷn:  BTEC, City and Guilds, TGAU a Safon Uwch. Mae’r rhain wedi sefyll prawf amser. Rhaid inni hefyd edrych ar y cymwysterau mewn sgiliau newydd. Er enghraifft, mae City and Guilds yn cynnig cymhwyster mewn gosod panel solar. Mae pethau felly yn angenrheidiol ac mae angen eu cyflwyno; ni allwn aros gyda’r hyn oedd gennym o’r blaen.

 

I welcome the review—it is desperately needed—but there are two key things in any review of the curriculum. Numeracy and literacy are of fundamental importance, and, at the end of any qualification, there must be some achievement. You must be able to progress either to a further course or employment, and, if you progress to a further course, then that further course should take you to employment. Education is important to improve people’s skills and knowledge, but it is also important to ensure that the courses have some meaning to them. I very much welcome this review and hope that it will be supported today.

 

Yr wyf yn croesawu’r adolygiad—mae ei angen yn ddirfawr—ond mae dau beth allweddol mewn unrhyw adolygiad o’r cwricwlwm. Mae rhifedd a llythrennedd yn sylfaenol bwysig, ac, ar ddiwedd unrhyw gymhwyster, rhaid cael rhywfaint o gyflawniad. Mae’n rhaid i chi allu symud ymlaen naill ai at gwrs pellach neu gyflogaeth, ac, os byddwch yn symud ymlaen at gwrs arall, yna dylai’r cwrs pellach hwnnw eich arwain at gyflogaeth. Mae addysg yn bwysig i wella sgiliau a gwybodaeth pobl, ond mae hefyd yn bwysig i sicrhau bod  rhywfaint o werth i’r cyrsiau. Yr wyf yn croesawu’r adolygiad hwn yn fawr iawn ac yn gobeithio y caiff ei gefnogi heddiw.

 

Aled Roberts: Mae’n debyg fod rhaid imi ddatgan buddiant heddiw fel llywodraethwr mewn coleg addysg uwch a hefyd am fod fy ngwraig yn ddarlithydd mewn coleg addysg uwch. Yn fwy na hynny, efallai, datganaf fuddiant fel rhiant dau o blant sydd mewn ysgolion uwchradd yn sir Wrecsam.

Aled Roberts: It appears that I should declare an interest today as a governor of a further education college and also because my wife is a lecturer in a further education college. Perhaps, further to that, I should declare an interest as a parent of two children who are in a secondary school in the county of Wrexham.

 

Ar ran fy mhlaid, croesawaf yr adolygiad, a hefyd yn croesawu’r ffaith bod pennaeth presennol Coleg Llandrillo Cymru wedi cael ei benodi i gadeirio’r adolygiad. Yr hyn sy’n glir, fel rhiant bachgen a oedd yn dewis pa gyrsiau i’w dilyn eleni ar gyfer TGAU, yw bod y gyfundrefn yn un eithaf cymhleth ar hyn o bryd, ac mae plant, rhieni ac, yn bwysicach, cyflogwyr yn dioddef oherwydd y cymhlethdod. Yr ydym yn credu bod angen inni fel Cynulliad wneud un peth yn berffaith glir, wrth i’r adolygiad fynd rhagddo, a dweud yn blwmp ac yn blaen bod llythrennedd a rhifedd yn bwysig. Byddwn, felly, yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru.

On behalf of my party, I welcome this review, and also the fact that the current head of Coleg Llandrillo Cymru has been appointed to conduct it. It is clear, as a parent of a boy who was this year choosing which GCSE courses to follow, that the regime is quite complex at present, and that students, parents and, more importantly, employers are experiencing problems due to that complexity. We believe that we as an Assembly should make one thing perfectly clear, as this review takes place, and state clearly that literacy and numeracy are important. Therefore, we will support Plaid Cymru’s amendment.

 

I think that all of us here in the Chamber accept that current reports indicate that there is something very wrong with the system of education. We certainly feel that the steps being taken by the Minister and the Deputy Minister need support, and we also hope that this wide-ranging review will give us some clear answers as to the way forward. Whether we speak to further education college principals, to the higher education sector or, more importantly, to employers, they are clearly telling us that things are not as they should be.

 

Credaf fod pob un ohonom yma yn y Siambr yn derbyn bod adroddiadau presennol yn dangos bod rhywbeth mawr o’i le gyda’r system addysg. Yr ydym yn sicr yn teimlo bod y camau sy’n cael eu cymryd gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog angen cefnogaeth, ac yr ydym hefyd yn gobeithio y bydd yr adolygiad eang hwn yn rhoi rhai atebion clir inni ynghylch y ffordd ymlaen. P’un ai a ydym yn siarad â phenaethiaid colegau addysg bellach, y sector addysg uwch neu, yn bwysicach, cyflogwyr, maent yn dweud yn glir wrthym nad yw pethau fel y dylent fod.

 

The Labour manifesto stated that that party would:

 

Dywedodd maniffesto Llafur y byddai’r blaid  honno yn:

‘Simplify the qualifications system in Wales, building on the success of the Welsh Bac.’

 

‘Symleiddio’r system cymwysterau yng Nghymru, gan adeiladu ar lwyddiant Bagloriaeth Cymru.’

 

We have all been supportive of the Welsh baccalaureate, but it is time to have a look at the situation and at some of the points that Keith Davies, in particular, raised about grading and so on. The complexities of the whole system need review, and we also should take on board some of the comments that Angela Burns made in questioning why we still have institutions in Wales—or at least departments within those institutions—that do not appear to recognise the validity of the qualification.

 

Yr ydym i gyd wedi bod yn gefnogol i fagloriaeth Cymru, ond mae’n bryd i edrych ar y sefyllfa ac ar rai o’r pwyntiau a gododd Keith Davies yn arbennig, am raddio ac yn y blaen. Mae angen adolygu cymhlethdodau’r system gyfan, a dylem hefyd ystyried rhai o’r sylwadau a wnaeth Angela Burns wrth gwestiynu pam mae’n dal i fod gennym sefydliadau yng Nghymru—neu o leiaf adrannau o fewn y sefydliadau hynny—sydd yn ymddangos fel nad ydynt yn cydnabod dilysrwydd y cymhwyster.

Literacy and numeracy in Wales are poor in comparison to other countries, but what we really need are the answers as to how we can turn that around. There appears up until now to have been no long-term plan for change, and one of the issues that we have is how a qualifications review per se will solve the problem of poor literacy and numeracy. It is also clear that the differences and links between skills and qualifications need to be a major consideration of the review. However, we need to be careful about what we are doing and why we are doing it. We do not want to train children to pass tests just to satisfy our performance measures. I also welcome the Deputy Minister’s statement that this will give us an opportunity to look at the Government’s performance indicators, because we need to question why our aspirations with regard to certain children are lower than those for the population as a whole. I would certainly ask the Government to look at why we currently set an attainment target for looked-after children of just one GCSE.

 

Mae llythrennedd a rhifedd yng Nghymru yn wael mewn cymhariaeth â’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill, ond yr hyn yr ydym wir ei angen yw’r atebion ynghylch sut y gallwn droi hynny o gwmpas. Hyd yn hyn, ymddengys na fu cynllun hirdymor ar gyfer newid, ac un o’r trafferthion sydd gennym yw sut y bydd adolygiad o gymwysterau fel y cyfryw yn datrys problem llythrennedd a rhifedd gwael. Mae hefyd yn glir bod angen i’r gwahaniaethau a’r cysylltiadau rhwng sgiliau a chymwysterau fod yn ystyriaeth bwysig yn yr adolygiad. Fodd bynnag, mae angen inni fod yn ofalus am yr hyn yr ydym yn ei wneud a pham yr ydym yn ei wneud. Nid ydym am hyfforddi plant i basio profion yn unig er mwyn bodloni ein mesurau perfformiad. Yr wyf hefyd yn croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog y bydd hyn yn rhoi cyfle i edrych ar ddangosyddion perfformiad y Llywodraeth, oherwydd mae angen inni ofyn pam mae ein dyheadau o ran rhai plant yn is nag ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Byddwn yn sicr yn gofyn i’r Llywodraeth edrych ar pam yr ydym, ar hyn o bryd, yn gosod targed cyrhaeddiad o ddim ond un TGAU ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

 

We would prefer to see a formal supplement to the qualification process that would address numeracy and literacy throughout the school phase. This review needs to question what exactly schools are doing prior to the age of 14, because there are instances of children reaching FE colleges at the age of 16 with numeracy and literacy skills that are not sufficient for them to take on certain courses. I heard that from FE principals last week. It is also a damning indictment that we also heard evidence from those same FE principals that large percentages of youngsters are not completing their first year within the FE sector.

 

Byddai’n well gennym weld atodiad ffurfiol i’r broses gymhwyso a fyddai’n mynd i’r afael â rhifedd a llythrennedd ar draws y cyfnod ysgol. Mae angen i’r adolygiad hwn gwestiynu beth yn union y mae ysgolion yn ei wneud cyn 14 oed, gan fod achosion o blant yn cyrraedd colegau addysg bellach yn 16 oed gyda sgiliau rhifedd a llythrennedd nad ydynt yn ddigonol iddynt ymgymryd â rhai cyrsiau. Clywais hynny gan benaethiaid addysg bellach yr wythnos diwethaf. Mae hefyd yn gyhuddiad damniol ein bod ni hefyd wedi clywed tystiolaeth gan yr un penaethiaid nad yw canrannau mawr o bobl ifanc yn cwblhau eu blwyddyn gyntaf yn y sector addysg bellach.

 

We will not support the Conservatives’ amendments 2 and 3 because we feel that the review needs to be wide-ranging in scope. I am sorry to let them down on that point.

 

Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 y  Ceidwadwyr oherwydd ein bod yn teimlo bod angen i’r adolygiad fod yn eang ei gwmpas. Mae’n ddrwg gennyf eu siomi ar y pwynt hwnnw.

 

Joyce Watson: We should be careful not to be too prescriptive in saying that we value one sort of education, but that learning about something else is a waste of time. For one thing, the underpinning principle of a knowledge economy is the collective flexibility and diversity of the workforce. Also, and perhaps more importantly, education has to be about more than utilitarian outcomes and economic benefits. However, we need to be clear that we are talking about 14 to 19-year-olds, and that is the time when young people choose to study certain subjects and to drop others, and when they make decisions that will go a long way towards determining the sort of career that they will have.

 

Joyce Watson: Dylem fod yn ofalus i beidio â bod yn rhy gyfarwyddol wrth ddweud ein bod yn gwerthfawrogi un math o addysg, ond bod dysgu am rywbeth arall yn wastraff amser. Yn un peth, yr egwyddor sy’n sail i economi wybodaeth yw hyblygrwydd ac amrywiaeth gyfunol y gweithlu. Yn ogystal, ac yn bwysicach efallai, mae’n rhaid i addysg fod ynghylch mwy na chanlyniadau iwtilitaraidd a manteision economaidd. Fodd bynnag, mae angen inni fod yn glir ein bod yn sôn am ddysgwyr 14 i 19 mlwydd oed, a dyna’r adeg pan fydd pobl ifanc yn dewis astudio rhai pynciau a gollwng eraill, a phan fyddant yn gwneud penderfyniadau a fydd yn mynd yn bell tuag at benderfynu pa fath o yrfa y byddant yn ei chael.

 

That is not always the case, of course. Having re-entered education later in life myself, I will always talk up the benefits of lifelong learning. We should always empower people to reskill and change careers down the road if they want to do so. That is why Labour’s ProAct and ReAct schemes have been celebrated as one of the real positives to come out of the economic slump.

Nid yw hynny bob amser yn wir, wrth gwrs. Gan fy mod wedi ailgydio mewn addysg yn hwyrach mewn bywyd, byddaf bob amser yn pwysleisio manteision dysgu gydol oes. Dylem bob amser rymuso pobl i ddysgu sgiliau newydd a newid gyrfa yn hwyrach os ydynt am wneud hynny. Dyna pam mae cynlluniau ProAct a ReAct Llafur wedi cael eu dathlu fel pethau gwirioneddol gadarnhaol i ddod allan o’r dirwasgiad economaidd.

 

4.45 p.m.

 

We have a responsibility to guide young people as well as to give them the freedom to study what interests them, particularly when we consider the sheer number of qualifications available for the 14 to 19 age group. It can be confusing, and it can lead to some qualifications struggling to gain currency, something that has been mentioned here today. I hope that this is what the review can achieve. The latest unemployment figures should remind everyone just how important it is for us to get this right. The number of 18 to 24-year-olds on jobseeker’s allowance is approaching 30,000 and rising. For their sake, and the sake of the Welsh economy, we need to assess the ability of the qualifications system to prepare people to enter the workplace, whether through employment or self-employment.

 

Mae gennym gyfrifoldeb i arwain pobl ifanc yn ogystal ag i roi rhyddid iddynt i astudio eu diddordebau, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried y nifer fawr o gymwysterau sydd ar gael ar gyfer y grŵp oedran 14 i 19. Gall beri dryswch, a gall arwain at fod rhai cymwysterau yn ei chael hi’n anodd ennill arian, rhywbeth sydd wedi cael ei grybwyll yma heddiw. Yr wyf yn gobeithio y gall yr adolygiad gyflawni hyn. Dylai’r ffigurau diweithdra diweddaraf atgoffa pawb pa mor bwysig ydyw ein bod ni’n cael hyn yn iawn. Mae nifer y bobl 18 i 24 mlwydd oed ar lwfans ceisio gwaith yn agosáu at 30,000 ac yn codi. Er eu mwyn hwy, ac er lles economi Cymru, mae angen inni asesu gallu’r system gymwysterau i baratoi pobl i fynd i mewn i’r gweithle, boed yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.

I do not agree that the review is too wide-ranging. On the contrary, its focus is specific—to ensure that young people advance with appropriate levels of literacy and numeracy and that qualifications meet the needs of young people and the Welsh economy. As we look to the review with regard to stakeholder engagement, will the Minister ensure that, as well as education providers, the review will engage with young people themselves? It is their future we are discussing, after all, and their views and aspirations must be at the heart of that. Employers are also a key to this, and they must be consulted.

 

Nid wyf yn cytuno bod yr adolygiad yn rhy eang. I’r gwrthwyneb, mae ei ffocws yn benodol—sicrhau bod pobl ifanc yn symud ymlaen gyda lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd a bod cymwysterau yn bodloni anghenion pobl ifanc ac economi Cymru. Wrth inni edrych at yr adolygiad o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid, a wnaiff y Gweinidog sicrhau, yn ogystal â darparwyr addysg, y bydd yr adolygiad yn ymgysylltu â phobl ifanc eu hunain? Eu dyfodol hwy yr ydym yn ei drafod, wedi’r cyfan, ac mae’n rhaid i’w safbwyntiau a’u dyheadau fod wrth wraidd hynny. Mae cyflogwyr hefyd yn allweddol i hyn, ac mae’n rhaid ymgynghori â hwy.

 

David Rees: Having been in education for most of my working life, I have seen first-hand the highs and lows that young people face trying to obtain the qualifications necessary today to follow their chosen careers. I have heard a great deal of discussion, and half of my speech is gone in what others have already said. I have heard about numeracy and literacy, but no-one has talked about the assessment of those. This review is going to deal with assessment as well. We should be looking at how we are going to assess those issues and what the expected outcomes are. We criticise our qualifications, but we have not talked about the examining boards and the assessment undertaken by those boards. What are they measuring? How do they know that students achieve that level of attainment? This review is going to include that aspect as well.

 

David Rees: Ar ôl bod mewn addysg dros y rhan fwyaf o’m bywyd gwaith, yr wyf wedi gweld yn uniongyrchol yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio cael y cymwysterau sy’n angenrheidiol heddiw ar gyfer eu gyrfaoedd dewisedig. Yr wyf wedi clywed llawer iawn o drafod, ac mae hanner fy araith wedi mynd am fod eraill wedi’i ddweud eisoes. Yr wyf wedi clywed am rifedd a llythrennedd, ond nid oes neb wedi siarad am asesu’r rheini. Mae’r adolygiad hwn yn mynd i ddelio ag asesu yn ogystal. Dylem fod yn edrych ar sut yr ydym yn mynd i asesu’r materion hynny a beth yw’r canlyniadau disgwyliedig. Yr ydym yn beirniadu ein cymwysterau, ond nid ydym wedi siarad am y byrddau arholi a’u gwaith asesu. Beth maen nhw’n ei fesur? Sut maen nhw’n gwybod bod myfyrwyr yn cyflawni’r lefel honno o gyrhaeddiad? Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys yr agwedd honno hefyd.

 

The figure of 10,000 or 15,000—Oxford Cambridge and RSA Examinations says it is 10,000, so I know where you get your numbers from—is irrelevant. What is important is what is good for the learner. We heard from Keith Davies about the credits and the difficulty the system creates for institutions in timetabling. I know, because I was involved in all of that. However, it is not the difficulty for institutions that is important, but what the learner gets out of that qualification. How the learner takes that into the workplace or future education is important. We need to look at vertical progression in education and employment. It is important that this review looks at those issues. I am pleased that Huw Evans has been appointed, because his record at Llandrillo is well established. I can see why we have gone in that direction.

 

Mae’r ffigur o 10,000 neu 15,000—dywed Oxford Cambridge and RSA Examinations mai 10,000 yw’r ffigur, felly gwn o ble yr ydych yn cael eich rhifau—yn amherthnasol. Yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n dda ar gyfer y dysgwr. Clywsom gan Keith Davies am y credydau a’r anhawster mae’r system yn creu ar gyfer sefydliadau o ran amserlennu. Yr wyf yn gwybod, oherwydd y cymrais ran yn hynny i gyd. Fodd bynnag, nid anhawster sefydliadau sy’n bwysig, ond sut mae’r dysgwr yn elwa o’r cymhwyster hwnnw. Mae sut mae’r dysgwr yn cymryd hynny i mewn i’r gweithle neu addysg yn y dyfodol yn bwysig. Mae angen inni edrych ar ddilyniant fertigol mewn addysg a chyflogaeth. Mae’n bwysig bod yr adolygiad hwn yn edrych ar y materion hynny. Rwy’n falch bod Huw Evans wedi cael ei benodi, oherwydd bod ei record yn Llandrillo wedi’i hen sefydlu. Gallaf weld pam aethom i’r cyfeiriad hwnnw.

 

The Wolf report talks about various vocational qualifications. I think the expression that Nick Ramsay used was ‘dead-end’. I do not agree with that. Having worked at an institution where I wrote qualifications and documentation, I know that you have to be very careful how you consider what the qualification actually achieves—what its purpose is. On the question of examinations, I have also been involved in writing degree qualifications that do not involve examinations. You have to look at the purpose of those qualifications and ask what the outcomes are that are being assessed and how best those outcomes are identified.

 

Mae adroddiad Wolf yn sôn am amrywiol gymwysterau galwedigaethol. Yr wyf yn meddwl mai ‘heb ddyfodol’ oedd yr ymadrodd a ddefnyddiodd Nick Ramsay. Nid wyf yn cytuno â hynny. Ar ôl gweithio mewn sefydliad lle ysgrifennais gymwysterau a dogfennaeth, gwn fod yn rhaid i chi fod yn ofalus iawn am sut fyddwch yn ystyried yr hyn y mae’r cymhwyster yn wir yn ei gyflawni—beth yw ei ddiben. O ran  arholiadau, yr wyf wedi hefyd wedi cymryd rhan mewn ysgrifennu cymwysterau gradd heb arholiadau. Mae’n rhaid i chi edrych ar ddiben y cymwysterau hynny a gofyn beth yw’r canlyniadau yn cael sy’n cael eu hasesu a sut mae nodi’r canlyniadau hynny orau.

 

Nick Ramsay: I am very grateful to the Member for giving way. I am in total agreement with you. I did not like using the term ‘dead-end’ either. It cropped up in the report, and I was quoting from it. I think that we are both in agreement that something needs to be done to deal with the situation that has been identified.

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn ddiolchgar iawn i’r Aelod am ildio. Yr wyf yn cytuno’n llwyr â chi. Nid oeddwn i’n hoffi defnyddio’r term ‘heb ddyfodol’ chwaith. Ymddangosodd yn yr adroddiad, ac yr oeddwn yn dyfynnu ohono. Yr wyf yn meddwl ein bod ill dau yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa sydd wedi cael ei hamlygu.

 

David Rees: Thank you for that. It is a term that I think is derogatory to a lot of students following certain courses. I also hear the term ‘Mickey Mouse courses’, which I do not like either. We need to see what they are actually achieving.

 

David Rees: Diolch am hynny. Credaf ei fod yn derm sydd yn dirmygu llawer o fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau penodol. Yr wyf hefyd yn clywed y term ‘cyrsiau Mickey Mouse’, ac nid wyf yn hoffi hwnnw ychwaith. Mae angen inni weld yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn gwirionedd.

 

It is important that the review focuses on the purpose of a qualification—the needs of industry, the needs of employers, the need of the student to be able to hold something up. The report refers to qualifications being available to all learners, being trusted and understood and—and here is the crunch—of real value to both employers and learners, so that learners can take it where they want to take it. So, I am welcoming the review. I am pleased that it is happening. I want to see an all-embracing review. I am sorry, but it should not be narrowed down. We need the wider picture. We have to look at where we are going with this. We must ensure that pupils and students of the future have something that is meaningful, both to employers and to further and higher education. On the Welsh baccalaureate, I cannot prove it, but I know the difficulties that universities had in matching that qualification to their entry requirements. I know that that has now changed and that people have recognised it for what it is, a good qualification, and that it is moving forward. I want to see involvement with those in the university sector so that, when you are looking at progression, they understand what is required and what they are gaining in a qualification.

 

Mae’n bwysig bod yr adolygiad yn canolbwyntio ar ddiben cymhwyster—anghenion diwydiant, anghenion cyflogwyr, angen y myfyriwr i allu dal rhywbeth i fyny. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at fod cymwysterau ar gael i bob dysgwr, yn cael eu hymddiried ynddynt a’u deall ac—a dyma’r peth pwysig—o wir werth i gyflogwyr a dysgwyr, fel y gall dysgwyr ei gymryd lle y maent am ei gymryd. Felly, yr wyf yn croesawu’r adolygiad. Yr wyf yn falch ei fod yn digwydd. Yr wyf am weld adolygiad hollgynhwysol. Mae’n ddrwg gennyf, ond ni ddylid ei gulhau. Mae arnom angen y darlun ehangach. Mae’n rhaid inni edrych ar ble yr ydym yn mynd â hyn. Mae’n rhaid inni sicrhau bod gan ddisgyblion a myfyrwyr y dyfodol rhywbeth sy’n ystyrlon i gyflogwyr ac i addysg bellach ac uwch. Ar fagloriaeth Cymru, ni allaf brofi hyn, ond yr wyf yn gwybod am anawsterau prifysgolion yn cyfateb y cymhwyster hwnnw â’u gofynion mynediad. Gwn fod hynny wedi newid bellach a bod pobl wedi ei adnabod fel yr hyn ydyw, cymhwyster da, a’i fod yn symud ymlaen. Mae arnaf eisiau gweld cysylltiad â phobl yn y sector prifysgolion fel, pan fyddwch yn edrych ar ddilyniant, eu bod yn deall yr hyn sy’n ofynnol a’r hyn y maent yn ei ennill mewn cymhwyster.

The Deputy Minister for Skills (Jeff Cuthbert): I thank everyone who has participated in this debate. Generally, people have contributed positively and I agree with many of the points that have been made.

 

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau (Jeff Cuthbert): Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Yn gyffredinol, mae pobl wedi cyfrannu’n gadarnhaol ac yr wyf yn cytuno â llawer o’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud.

 

Simon Thomas stressed many of the issues with numeracy and literacy. I have no problems with what he said; undoubtedly, we need to improve functional levels of literacy and numeracy. However, I remind him and the rest of the Chamber that plans are already in place, which were announced by the Minister for education, to introduce literacy and numeracy testing in schools. We want to ensure that the qualifications review takes proper account of those plans. I agree with the point you made about the need to encourage a love of learning and progression. Certainly, the review ought to address the issue of training materials being appropriate in English or Welsh, as the case may be.

 

Pwysleisiodd Simon Thomas llawer o’r trafferthion gyda rhifedd a llythrennedd. Nid oes gennyf unrhyw broblemau â’r hyn a ddywedodd; yn ddi-os, mae angen inni wella lefelau ymarferol llythrennedd a rhifedd. Fodd bynnag, yr wyf yn ei atgoffa ef a gweddill y Siambr bod cynlluniau eisoes ar waith, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros addysg, i gyflwyno profion llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion. Yr ydym am sicrhau bod yr adolygiad cymwysterau yn rhoi ystyriaeth briodol i’r cynlluniau hynny. Cytunaf â’r pwynt a wnaethoch am yr angen i annog cariad at ddysgu a dilyniant. Yn sicr, dylai’r adolygiad fynd i’r afael â sicrhau bod deunyddiau hyfforddi yn briodol yn Gymraeg neu Saesneg, yn ôl y digwydd.

 

Angela Burns, I understand why you are pursuing the amendments. We are not dismissing them lightly. However, amendment 2 regrets the complexity of the current system—well of course, that is why we are conducting the review. As I said, it is an unnecessary statement. You also said, in response to an intervention from Simon Thomas, that our education system is a disgrace. I do not accept that for a second. Our education system has many excellent teachers, learners and leaders, but it is certainly in need of review. Part of that is the issue of qualifications, and that is why we are instituting this review. In terms of amendment 3, we have approximately 12 months for the review. It has to be wide-ranging, as the 14-19 pathways will allow young people to take a choice of general and vocational courses that is right for them. So, we must ensure that the review is all-embracing and covers all qualifications that young people are likely to consider.

 

Angela Burns, yr wyf yn deall pam eich bod yn mynd ar drywydd y gwelliannau. Nid ydym yn eu diystyru ar chwarae bach. Fodd bynnag, mae gwelliant 2 yn gresynu cymhlethdod y system ar hyn o bryd—wel, wrth gwrs, dyna pam yr ydym yn cynnal yr adolygiad. Fel y dywedais, mae’n ddatganiad diangen. Dywedasoch hefyd, mewn ymateb i ymyriad gan Simon Thomas, fod ein system addysg yn warthus. Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Mae gan ein system addysg lawer o athrawon, dysgwyr ac arweinwyr rhagorol, ond yn sicr mae angen ei adolygu. Rhan o hynny yw cymwysterau, a dyna pam yr ydym yn cychwyn yr adolygiad hwn. O ran gwelliant 3, mae gennym tua 12 mis ar gyfer yr adolygiad. Mae’n rhaid iddo fod yn eang, gan y bydd y llwybrau 14-19 yn galluogi pobl ifanc i ddewis y cyrsiau cyffredinol a galwedigaethol sy’n iawn iddyn nhw. Felly, mae’n rhaid inni sicrhau bod yr adolygiad yn hollgynhwysol ac yn cwmpasu’r holl gymwysterau y mae pobl ifanc yn debygol o’u hystyried.

 

Angela Burns: I thank the Deputy Minister for giving way. I am delighted that you have a whole year to do this review. In listening to many of the comments today, my real concern is that it will be yet another discussion on reading and writing. By the time we come to look at 14-year-olds, that should have been well squared away. I hope the review will concentrate far more on the qualifications that young people can take out into the real world to help them get a good life going for themselves.

 

Angela Burns: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ildio. Yr wyf wrth fy modd bod gennych flwyddyn gron i wneud yr adolygiad hwn. O wrando ar lawer o’r sylwadau heddiw, fy mhryder gwirioneddol yw y bydd yn un drafodaeth arall am ddarllen ac ysgrifennu. Erbyn inni ddod i edrych ar bobl ifanc 14 mlwydd oed, dylai hynny fod wedi ei hen setlo. Gobeithiaf y bydd yr adolygiad yn canolbwyntio llawer mwy ar y cymwysterau y gall pobl ifanc eu cymryd allan i’r byd go iawn i’w helpu i gychwyn bywyd ar eu cyfer eu hunain.

 

Jeff Cuthbert: It will. It is the absolute intention that this review will be far-reaching. It will look in depth. Literacy and numeracy will be part of that, but it will not be all of the issue by any means.

 

Jeff Cuthbert: Bydd. Y bwriad yn ddiamod yw y bydd yr adolygiad hwn yn bellgyrhaeddol. Bydd yn edrych yn fanwl. Bydd llythrennedd a rhifedd yn rhan o hynny, ond nid dyna’i hyd a’i lled hi mewn unrhyw fodd.

 

Keith Davies, the Member for Llanelli, said that there are more than 15,000 qualifications. The information that I have states that there are between 8,000 and 10,000, but let us say that there are lots and lots—probably far too many. You are right to point out that, at the end of the day, people must have trust in our qualifications systems and the assessment systems that go with them.

 

Dywedodd Keith Davies, yr Aelod dros Lanelli, fod mwy na 15,000 o gymwysterau. Mae’r wybodaeth sydd gennyf yn datgan bod rhwng 8,000 a 10,000, ond gadewch inni ddweud bod llawer—yn ôl pob tebyg llawer gormod. Yr ydych yn iawn i nodi, yn y pen draw, bod yn rhaid bod pobl yn ymddiried yn ein systemau cymwysterau a’r systemau asesu sy’n mynd gyda nhw.

Nick Ramsay, the Member for Monmouth, talked about getting the balance right and asked about the methodology. I can assure you that I will be meeting with the chair and the other key officials very soon to discuss the methodology and how we are going to look at the qualifications, grouping them, and so on. I acknowledge that there have been many anecdotal reports from employers complaining about the employment readiness of school leavers, and those matters will certainly be considered.

 

Siaradodd Nick Ramsay, yr Aelod dros Fynwy, am gael y cydbwysedd yn iawn a gofynnodd am y fethodoleg. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn cyfarfod â’r cadeirydd a’r swyddogion allweddol eraill yn fuan iawn i drafod y fethodoleg a sut rydym yn mynd i edrych ar y cymwysterau, eu grwpio ac yn y blaen. Yr wyf yn cydnabod bod llawer o adroddiadau anecdotaidd gan gyflogwyr wedi bod yn cwyno am barodrwydd cyflogaeth y rhai sy’n gadael ysgol, a bydd y materion hynny yn sicr yn cael eu hystyried.

 

Mike Hedges, the Member for Swansea East, referred to the range of awarding bodies and qualification titles and the confusion that this brings. In particular, you mentioned the importance of modern foreign languages, which we want to cover. Your key word was ‘relevance’, and I endorse that as the key focus of the review group.

 

Cyfeiriodd Mike Hedges, yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe, at yr ystod o bwyllgorau dyfarnu a theitlau cymwysterau a’r dryswch mae hyn yn achosi. Yn benodol, soniasoch am bwysigrwydd ieithoedd tramor modern, a ydym am gwmpasu. Eich gair allweddol oedd ‘perthnasedd’, ac ategaf mai dyna ffocws allweddol y grŵp adolygu.

Aled Roberts, Member for North Wales, welcomed the review and I am grateful for that. You referred to the importance of looking at the grading of the Welsh baccalaureate. That will be done as part of the review.

 

Croesawodd Aled Roberts, Aelod dros Ogledd Cymru, yr adolygiad ac yr wyf yn ddiolchgar am hynny. Cyfeiriasoch at bwysigrwydd edrych ar raddio bagloriaeth Cymru. Bydd hynny’n cael ei wneud fel rhan o’r adolygiad.

Joyce Watson, representing Mid and West Wales, stressed the need for flexibility and the importance of guidance and advice about qualifications for future careers. That will be a part of the review and, as I mentioned in my speech, this review will also consider the future of the careers service and the way in which it will operate. I can assure you that it is our intention, in the methodology, to look at ways of consulting young people—who are at the sharpest of all sharp ends—as well as employers and other key players.

 

Pwysleisiodd Joyce Watson, yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr angen am hyblygrwydd a phwysigrwydd arweiniad a chyngor am gymwysterau ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd hynny’n rhan o’r adolygiad ac, fel y soniais yn fy araith, bydd yr adolygiad hwn hefyd yn ystyried dyfodol y gwasanaeth gyrfaoedd a’r modd y bydd yn gweithredu. Gallaf eich sicrhau mai ein bwriad, yn y fethodoleg, yw edrych ar ffyrdd o ymgynghori â phobl ifanc—sydd ar flaen y rheng flaen—yn ogystal â chyflogwyr a chwaraewyr allweddol eraill.

 

David Rees, who faced the problem of speaking last in the debate, stressed the importance of assessment and its fitness for purpose. You also stated that we must consider what is good for the learner and ensure that there is progression.

 

Pwysleisiodd David Rees, a oedd yn wynebu’r broblem o siarad yn olaf yn y ddadl, bwysigrwydd asesu a’i addasrwydd i’r diben. Dywedasoch hefyd fod yn rhaid inni ystyried yr hyn sy’n dda i’r dysgwr a sicrhau bod dilyniant.

Finally, I would leave you with the words of the CBI, which stated that the qualifications review is of critical importance. It said that the Welsh education system needs to perform well to ensure that we equip people with the right mix of skills and knowledge to succeed in the twenty-first century economy and to provide Welsh businesses with the talent that they need to compete. It has stated that there is much that is good in the present system, but we know that we can, and must, do better.

 

Yn olaf, byddwn yn eich gadael gyda geiriau’r CBI, a oedd yn datgan bod yr adolygiad cymwysterau yn hollbwysig. Dywedodd fod angen i’r system addysg yng Nghymru berfformio’n dda er mwyn sicrhau ein bod yn arfogi pobl â’r cymysgedd cywir o sgiliau a gwybodaeth i lwyddo yn economi’r unfed ganrif ar hugain ac i ddarparu busnesau Cymru â’r dalent sydd ei angen arnynt i gystadlu. Mae wedi dweud bod yna lawer sy’n dda yn y system bresennol, ond gwyddom ein bod yn gallu, ac yn gorfod, gwneud yn well.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree amendment 1, does any Member object? I see that there is objection. Therefore, I will defer all voting on this item until voting time, which will follow this item.

Y Dirprwy Lywydd: Y cwestiwn yw a ddylid cytuno ar welliant 1, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio, a fydd yn dilyn yr eitem hon.

 

Are there three Members who wish the bell to be rung? I see that there are not. Therefore, we can proceed.

 

A oes tri Aelod sy’n dymuno i’r gloch gael ei chanu? Gwelaf nad oes. Felly, gallwn symud ymlaen.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

 

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

Gwelliant 1 i NDM4831: O blaid 43, Ymatal 0, Yn erbyn 14.
Amendment 1 to NDM4831: For 43, Abstain 0, Against 14.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

 

Asghar, Mohammad
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Jones, Elin
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Gwelliant 2 i NDM4831: O blaid 24, Ymatal 0, Yn erbyn 33.
Amendment 2 to NDM4831: For 24, Abstain 0, Against 33.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Paul
Davies, Suzy
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Gruffydd, Llyr Huws
Isherwood, Mark
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce
Williams, Kirsty

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 3 i NDM4831: O blaid 14, Ymatal 0, Yn erbyn 43.
Amendment 3 to NDM4831: For 14, Abstain 0, Against 43.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Burns, Angela
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Jones, Alun Ffred
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Cynnig NDM4831 fel y’i diwygiwyd

 

Motion NDM4831 as amended

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

Yn nodi y bydd yr Adolygiad o Gymwysterau yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein system cymwysterau yn ddealledig, yn cael ei gwerthfawrogi a’i bod yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac anghenion economi Cymru ac yn benodol sicrhau mai dim ond i fyfyrwyr sydd â’r lefelau llythrennedd a rhifedd priodol y dyfernir cymwysterau.

Notes that the Review of Qualifications will consider how we can ensure that our qualifications system is understood, valued and meets the needs of our young people and the Welsh economy and in particular ensures that qualifications are only awarded to students with appropriate levels of literacy and numeracy.

 

Cynnig NDM4831 fel y’i diwygiwyd: O blaid 57, Ymatal 0, Yn erbyn 0.
Motion NDM4831 as amended: For 57, Abstain 0, Against 0.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Burns, Angela
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Price, Gwyn R.
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Sargeant, Carl
Skates, Kenneth
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

 

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Motion as amended agreed.

 

 

Dadl Fer a Ohiriwyd er 5 Hydref 2011
Short Debate Postponed from 5 October 2011

 

Diwygio Amodau Deiliadaeth y Sector Rhentu Preifat
Reforming the Conditions of Tenure within the Private Rented Sector

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyflwyno dadl fer yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf, sydd yn beth rhyfedd i rywun sydd wedi bod yma am 12 mlynedd, ond mae rhesymau hysbys am hynny. Y testun yw diwygio amodau deiliadaeth y sector rhentu preifat, ac yr wyf am ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar y diwygio hwn. Mae un yn gysylltiol â’r drafodaeth a gawsom yn gynharach y prynhawn yma gyda Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ynglŷn â’r angen i bobl fod yn ddiddos ac yn gynnes yn eu tai a’r pwysigrwydd i Lywodraeth Cymru i gefnogi hynny, sef yr holl fater yr hyn yr ydym yn ei alw’n ‘dlodi tanwydd’.

 

Lord Elis-Thomas: Thank you very much, Deputy Presiding Officer, for the opportunity to present a short debate in the National Assembly for Wales for the first time, which is somewhat strange for someone who has been here for 12 years, but there are obvious reasons for that. The topic is reforming the conditions of tenure within the private rented sector, and I want to concentrate on two aspects of this reform. One is related to the discussion that we had earlier this afternoon with the Minister for Environment and Sustainable Development about the need for people to be warm in their homes and the importance of the Welsh Government supporting that, that is, the whole issue of what we call ‘fuel poverty’.

Mae’r mater hwn yn fater sydd wedi dod i sylw pawb yn Senedd y Deyrnas Unedig yn ddiweddar oherwydd y Bil Ynni. Yr wyf yn gobeithio pan fyddwn yn deddfu yng Nghymru ar faterion tebyg i’r rheini sydd yn y Bil Ynni y byddwn yn gwneud gwell job ohoni nag y gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

This issue is an issue that has come to the attention of everyone in the UK Parliament recently as a result of the Energy Bill. I hope that when we come to legislate in Wales on matters similar to those in the Energy Bill that we will make a better job of it than the UK Government has done.

5.00 p.m.

 

 

Er gwaethaf ymgyrch gref gan y glymblaid Siarter Tlodi Tanwydd Cymru i ddylanwadu ar y ddeddfwriaeth, nid yw’r hyn a ddaeth allan o’r broses seneddol ar y Bil Ynni yn San Steffan, yn fy marn i, yn mynd hanner ddigon pell. Wedi’r cyfan, y sector rhent preifat sydd â’r stoc dai sydd yn y cyflwr gwaethaf a’r nifer uchaf o dai sydd heb eu hinsiwleiddio’n briodol. Nid yw’n rhyfedd o beth felly bod dros draean o denantiaid yn y sector rhent preifat yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Y ffigur cyfatebol ymhlith tenantiaid cymdeithasol  yn gyffredinol yw chwarter.

 

Despite a strong campaign by the Fuel Poverty Charter Cymru coalition to influence the legislation, what has been proposed following the parliamentary process in Westminster on the Energy Bill does not go nearly far enough, in my opinion. After all, it is the private rented sector that has the housing stock in the worst condition and the highest number of houses with insufficient insulation. It is no surprise, therefore, that over a third of tenants in the private rented sector in Wales are in fuel poverty. The corresponding figure for social housing tenants in general is a quarter.

Felly, yr ydym yn delio â sefyllfa lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bodloni ar ryw ddatganiadau gan Weinidogion, wrth ymateb i welliannau posibl i’r Bil, nad yw’n briodol i bobl fyw mewn tai rhent peryglus o oer a drafftiog. Yn fy marn i, mae angen gwneud llawer mwy i ymateb i hyn; mae angen deddfwriaeth effeithiol. Felly, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhoi arwydd i ni ei fod o leiaf yn ystyried gosod yn ei Bapur Gwyn a’i Fil ar dai a ddaw gerbron y Cynulliad—yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, gobeithio—y bwriad i ddeddfu’n gryf yn y cyfeiriad hwn.

 

Therefore, we are dealing with a situation where the UK Government has been happy with a few statements by Ministers, responding to possible amendments to the Bill, that it is not appropriate for people to live in dangerously cold and draughty rented accommodation. In my opinion, much more needs to be done in response; we need effective legislation. Therefore, when the Minister responds, I hope that he will give some indication that he is at least considering including in his White Paper and housing Bill that will come before the Assembly—sooner rather than later, hopefully—the intention to legislate strongly in this regard.

 

Wedi’r cyfan, mae targed gan y Llywodraeth hon i ddileu tlodi tanwydd mewn tai yng Nghymru erbyn 2018. Yn amlwg, ni fydd yn bosibl gwneud hynny drwy ddeddfwriaeth bresennol y Deyrnas Unedig. Mae’r pwyllgor annibynnol ar newid hinsawdd wedi dweud yn ei drydydd adroddiad i Senedd y Deyrnas Unedig bod yn rhaid symud i reoleiddio’r sector rhent preifat ynghynt, ac nad oes unrhyw reswm i ohirio hynny. Felly, yr wyf yn galw yn gyntaf am well deddfwriaeth i gynhesu tai a deiliaid cartrefi yn y sector rhent preifat yng Nghymru.

 

After all, this Government has a target to eradicate fuel poverty in homes in Wales by 2018. Obviously, it will not be possible to do that through the United Kingdom’s current legislation. The independent committee on climate change has said in its third report to the UK Parliament that we must move to regulate the private rented sector sooner, and that there is no reason to delay that. Therefore, I call at first for more effective legislation to warm homes and tenants in the private rented sector in Wales.

Fodd bynnag, mae’r sector rhent preifat yn creu problemau cysylltiol mewn llawer maes. Yr wyf am sôn am Shelter Cymru, mudiad yr wyf wedi bod yn gysylltiedig ag ef ers bron 25 mlynedd, ac un o’r mudiadau cyntaf i ychwanegu ‘Cymru’ ar ei ôl enw, ‘Shelter’rhywbeth a ddaeth yn boblogaidd iawn ers hynny. Wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 25 oed, mae’n dda gweld bod y mudiad yr un mor egnïol ag erioed yn ei ymgyrchu. Fodd bynnag, mae Shelter Cymru yn dweud wrthyf fod y sector rhent preifat yn creu mwy o broblemau iddo ac yn gyffredinol ar draws Cymru nag unrhyw sector arall. Er bod y sector rhent preifat yng Nghymru yn gyfrifol am 12 y cant o’r anheddau, mae tenantiaid y sector hwn yn cynrychioli bron 30 y cant o gleientiaid uniongyrchol Shelter Cymru. Yn 2010-11, gwelodd Shelter 2,142 o denantiaid o’r sector hwnnw, gan ddelio â 7,120 o broblemau. Mae’r rheini’n cynnwys pethau megis aflonyddu gan landlordiaid, tamprwydd, gorlenwi, fforddiadwyedd ac anghydfodau ynglŷn â thelerau tenantiaeth. Felly, nid yw’n rhyfeddod fod yr achosion o ddigartrefedd sydd yn dilyn oherwydd bod pobl yn ddeiliaid yn y sector hwn yn ddrud iawn i awdurdodau lleol yng Nghymru. Yr ydym felly’n rhoi pwysau gwirioneddol ar wasanaethau cyhoeddus oherwydd diffyg rheolaeth dros y sector. Yn yr un flwyddyn, 2010-11, yr oedd 1,260 o aelwydydd wedi eu derbyn fel rhai digartref yng Nghymru yn dilyn colli llety wedi ei rentu neu lety clwm. Mewn geiriau eraill, y rheswm am 20 y cant o bob achos digartrefedd oedd colli llety wedi ei rentu neu lety clwm. Mae hyn yn arwain at gost sylweddol, gan fod pob aelwyd sy’n cael ei ystyried yn ddigartref yn costio o leiaf £5,300 bob blwyddyn i awdurdodau lleol, gan godi yn uwch na hynny i ryw £6,400 o ran aelwydydd â phlant.

 

However, the private rented sector creates associated problems in several fields. I want to mention Shelter Cymru, an organisation that I have been involved with for almost 25 years, and one of the first organisations to add ‘Cymru’ after its name, ‘Shelter’—something that has since become very popular.  I am pleased to see that Shelter, in celebrating its twenty-fifth anniversary, is just as energetic as it ever has been in its campaigning. However, Shelter Cymru tells me that the private rented sector creates more problems for it, and generally across Wales, than any other sector. Although the private rented sector in Wales accounts for 12 per cent of dwellings, the tenants of that sector comprise almost 30 per cent of Shelter Cymru’s client base. In 2010-11, Shelter saw 2,142 tenants from that sector and dealt with 7,120 problems. Those include issues such as harassment by landlords, dampness, overcrowding, affordability and disputes over tenancy terms. Therefore, it is no surprise that the cases of homelessness that arise because people are tenants in this sector are very costly for local authorities in Wales. We are therefore really putting pressure on our public services because of a lack of regulation in this sector. In the same year, 2010-11, 1,260 households were accepted as homeless in Wales following the loss of their rented or tied accommodation. In other words, the reason for 20 per cent of all cases of homelessness was the loss of rented or tied accommodation. That leads to significant costs because every household that is accepted as homeless costs at least £5,300 every year to local authorities, increasing to some £6,400 for households with children.

Yn ychwanegol, mae perygl o afiechyd yn deillio o hynny, ac mae Ymddiriedolaeth BRE a Shelter Cymru wedi amcangyfrif yn ddiweddar bod peryglon iechyd yn deillio o gyflwr tai yn y sector hwn yn costio £67 miliwn i’r gwasanaeth iechyd gwladol eu trin.

 

In addition, there are health risks associated with this problem, and the BRE Trust and Shelter Cymru have estimated recently that the health problems that result from the condition of houses in this sector cost the national health service some £67 million.

Felly, wrth alw am edrych o’r newydd ar y sector hwn, yr wyf yn galw ar y Gweinidog i nid yn unig roi blaenoriaeth i ymyrraeth bellach, ond hefyd gweld pa fodd y gellid ailysgrifennu deiliadaeth yng Nghymru yn y sector cymdeithasol a’r sector preifat, gan obeithio y bydd hyn yn ganolbwynt i’w Bapur Gwyn a’i Fil. Mae cynigion, yn hwylus iawn, wedi dod ger fy mron rai blynyddoedd yn ôl. Nid wyf yn cytuno â phopeth y mae Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr wedi ei ysgrifennu, ond mae’r gwaith a wnaed ar rentu tai ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006 dal yn berthnasol.

 

Therefore, in calling for a new approach to this sector, I am asking the Minister not only to prioritise further intervention, but also to see how tenancy in Wales could be rewritten in the social and private sectors, in the hope that this will be at the heart of his White Paper and his Bill. Some proposals rather conveniently were put to me some years ago. I do not agree with everything that the Law Commission of England and Wales has written, but the work that it did on rental housing, published in May 2006, is still relevant.

Mae cytundebau tenantiaeth yn afresymol o gymhleth ac yn anodd eu deall. Mae hynny’n golygu nad oes tryloywder ynglŷn â hawliau landlordiaid na thenantiaid. Yn sicr, dylai bod modd datrys yr anhawster hwn drwy baratoi cytundebau symlach. Er bod peth hyblygrwydd mewn tenantiaethau cyfnod penodol byr, ac mae’r rheini yn addas i rai mathau o denantiaid, mae angen cynyddol am ddiogelwch gwell ar gyfer tenantiaid y sector yn gyffredinol. Mae pryder am droi allan ymatebol yn rheswm amlwg pam nad yw tenantiaid yn adrodd am landlordiaid drwg. Felly, mae’n amlwg bod angen cytundebau tenantiaeth sydd yn gymwys i warchod yn y ffordd hon.

 

Tenancy agreements are unreasonably complex and difficult to understand. That means that there is no transparency with regard to the rights of landlords and tenants. Certainly, there should be a means of resolving this difficulty by preparing simpler contracts. Although there is some flexibility in short-term fixed tenancies, and they are suitable for certain kinds of tenants, there is an increasing need for greater security for tenants in this sector generally. The fear of retaliatory eviction is an obvious reason why tenants do not report rogue landlords. It is therefore clear that tenancy agreements are needed that are able to protect people in this regard. 

Felly, o ran y datblygiad nesaf yn y maes hwn, byddwn yn dadlau bod angen symleiddio’r cytundebau tenantiaid a fyddai’n sicrhau deiliadaeth sydd yn ddealladwy ac yn ddiogel i denantiaid. Mae angen cytundebau sydd wedi eu hysgrifennu yn fwy ar sail cytundebau defnyddwyr na deddfwriaeth denantiaid y gorffennol. Yr wyf yn gobeithio y bydd modd i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad yn y Deyrnas Unedig yn y cyfeiriad hwn ac, yn arbennig, dangos mwy o ysbryd goddefgarwch a thegwch tuag at denantiaid nag a ddangoswyd gan Weinidogion Llywodraeth San Steffan wrth drafod y Bil Ynni.

 

Therefore, in terms of the next steps in this area, I would argue that we need to simplify tenancy agreements, which would ensure that tenancies were both safe and well-understood. We need agreements in place that have been written more on the basis of consumer contracts rather than the tenancy law of the past. I hope that the Welsh Government will be able to show leadership within the UK in this regard and, particularly, a greater spirit of fairness and tolerance towards tenants than has been shown by Ministers of the Westminster Government in dealing with the Energy Bill.

Dirprwy Lywydd, yr wyf wedi rhoi caniatâd ichi alw ar Joyce Watson a Peter Black yn y ddadl hon.

Deputy Presiding Officer, I have given permission for you to call Joyce Watson and Peter Black in this debate.

 

Joyce Watson: Thank you very much for bringing this debate here today, Dafydd Elis-Thomas, because it is critically important. With housing shortages, it is a sellers’ market out there. People also continue to face difficulties in getting a mortgage. The private rented sector will only continue to grow in coming years, so we need to act now on tenants’ and landlords’ rights and obligations. Let us be clear: the majority of private landlords are good and we should seek to engage with them. However, we also need enforcement against rogue, negligent and exploitative ones.

 

Joyce Watson: Diolch yn fawr iawn am ddod â’r ddadl hon yma heddiw, Dafydd Elis-Thomas, achos mae’n hanfodol bwysig. Gyda phrinder tai, gwerthwyr sydd biau’r farchnad. Mae pobl hefyd yn parhau i wynebu anawsterau o ran cael morgais. Bydd y sector rhentu preifat ond yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd nesaf, felly mae angen inni weithredu yn awr ar hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid a landlordiaid. Gadewch inni fod yn glir: mae’r rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn dda a dylem geisio ymwneud â hwy. Fodd bynnag, mae hefyd arnom angen cymryd camau yn erbyn y rhai drwg ac esgeulus a’r rhai sy’n cymryd mantais o bobl.

 

I sat on the Communities and Culture Committee inquiry into the private rented sector earlier this year. We reported that local authorities already have the legal powers to tackle poor management standards, but they often go unused because they are reliant on tenants making complaints—a point that was made earlier. Of course, tenants are unwilling to do that because of fear of eviction or they simply do not know who to turn to for advice and support.

 

Eisteddais ar ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i’r sector rhentu preifat yn gynharach eleni. Nodwyd yn ein hadroddiad fod eisoes gan awdurdodau lleol y pwerau cyfreithiol i fynd i’r afael â safonau rheoli gwael, ond nid ydynt yn cael eu defnyddio’n aml gan fod hynny’n ddibynnol ar denantiaid yn cwyno—pwynt a wnaethpwyd yn gynharach. Wrth gwrs, mae tenantiaid yn anfodlon gwneud hynny oherwydd eu bod yn ofni cael eu troi allan neu, yn syml, ni wyddant at bwy i droi am gyngor a chefnogaeth.

 

I want to support the call that was made earlier for a more consumer-focused approach to the sector and I agree that local authorities should provide consumer information to help tenants to avoid bad landlords, while at the same time encouraging good ones. A simplified, standardised consumer contract between tenant and landlord would help the tenant and the landlord to have a better understanding of rights and obligations. Minister, I call on you to look at what councils are doing in this area and how they could do it better with their existing powers.

 

Yr wyf am gefnogi’r alwad a wnaed yn gynharach am ddynesiad at y sector sy’n canolbwyntio’n fwy ar y defnyddiwr ac yr wyf yn cytuno y dylai awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr er mwyn helpu tenantiaid i osgoi landlordiaid gwael, tra’n annog y rhai da ar yr un pryd. Byddai contract defnyddiwr symlach, wedi ei safoni, rhwng tenant a landlord yn helpu’r tenant a’r landlord i gael gwell dealltwriaeth o hawliau a rhwymedigaethau. Weinidog, galwaf arnoch i edrych ar yr hyn y mae cynghorau yn ei wneud yn y maes hwn a sut y gallent ei wneud yn well gan ddefnyddio eu pwerau presennol.

 

Peter Black: I thank Lord Elis-Thomas for proposing this debate today and I support everything that he said. I want to make two quick points in support of the case that he put to the Assembly. First, I agree with Joyce Watson about having to protect tenants, particularly those who are seeking to improve the quality of their accommodation by resorting to the legal means that are available to them. Often, they are hounded out of their property or evicted, which does not raise the quality of private rented accommodation at all. There needs to be a mechanism in place to protect tenants when they take that action.

 

Peter Black: Yr wyf yn diolch i’r Arglwydd Elis-Thomas am gynnig y ddadl hon heddiw ac yr wyf yn cefnogi popeth a ddywedodd. Hoffwn wneud dau bwynt cyflym i gefnogi’r achos a roddodd gerbron y Cynulliad. Yn gyntaf, yr wyf yn cytuno â Joyce Watson am orfod amddiffyn tenantiaid, yn enwedig y rhai sydd yn ceisio gwella ansawdd eu llety trwy droi at yr adnoddau cyfreithiol sydd ar gael iddynt. Yn aml, maent yn cael eu herlid allan o’u heiddo neu eu troi allan, nad yw’n codi safon y llety rhent preifat o gwbl. Mae angen cael mecanwaith ar waith i amddiffyn tenantiaid pan fyddant yn cymryd y camau hynny.

 

The second point relates to the registration or licencing of private rented properties. The licensing of houses in multiple occupation around Wales and other rented properties in specified areas, mostly around student accommodation in certain areas of Wales, has made a huge difference. It has taken some time to work its way through, but it has improved the management of those properties, their quality and the experience of tenants, landlords and neighbours. We should be looking at how we can extend that experience to other rented properties in Wales—not only identifying where those rented properties are, but using the experience of how that has worked to try to drive up quality and experience in relation to the other properties. If we can do both those things as part of the new housing Bill, we will make a significant difference to the private rented sector in Wales.

 

Mae’r ail bwynt yn ymwneud â chofrestru neu drwyddedu eiddo rhent preifat. Mae trwyddedu tai amlfeddiannaeth o gwmpas Cymru ac eiddo ar rent eraill mewn ardaloedd penodol, yn bennaf o gwmpas llety myfyrwyr mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae wedi cymryd peth amser i hydreiddio, ond mae wedi gwella rheoli’r eiddo hwnnw, ei ansawdd a phrofiad tenantiaid, landlordiaid a chymdogion. Dylem fod yn edrych ar sut y gallwn ymestyn y profiad hwnnw i eiddo ar rent arall yng Nghymru—nid yn unig gan nodi ble mae’r eiddo ar rent hwnnw, ond gan ddefnyddio’r profiad am sut mae hynny wedi gweithio i geisio gwella ansawdd a phrofiad mewn perthynas â’r eiddo arall. Os gallwn wneud y ddau beth hynny fel rhan o’r Bil tai newydd, byddwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r sector rhentu preifat yng Nghymru.

 

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): I would also like to thank the Member for Dwyfor Meirionnydd for raising this issue today. I am already actively considering how we can use the coming housing Bill to improve standards of management and property conditions in the private rented sector. In doing so, I am keen to hear the views of all parties and persons. I sense that there is a huge amount of common ground on the importance of tackling issues in the private rented sector and on what needs to be done. Issues relating to security and clarity of tenure, quality and management of accommodation and how to ensure that tenants know their rights and obligations are important for us as a Government as we take this legislation forward.

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Hoffwn hefyd ddiolch i’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am godi’r mater hwn heddiw. Yr wyf eisoes yn ystyried yn rhagweithiol sut y gallwn ddefnyddio’r Bil tai sydd ar ddod i wella safonau rheoli a chyflwr eiddo yn y sector rhentu preifat. Wrth wneud hynny, yr wyf yn awyddus i glywed barn yr holl bleidiau a phersonau. Yr wyf yn synhwyro bod yna llawer iawn o dir cyffredin ar bwysigrwydd mynd i’r afael â materion yn y sector rhentu preifat ac ar yr hyn y mae angen ei wneud. Mae materion yn ymwneud â sicrwydd ac eglurder deiliadaeth, ansawdd a rheolaeth llety a sut i sicrhau bod tenantiaid yn gwybod beth yw eu hawliau a’u rhwymedigaethau yn bwysig inni fel Llywodraeth wrth inni fynd â’r ddeddfwriaeth hon yn ei blaen.

 

Any changes that we introduce will be at a time of great pressure on the sector, not least the backdrop of the impending changes to the housing benefits system that are being imposed by Westminster. Although we have lobbied extensively on the issue, it is not devolved and the changes proposed by the Department for Work and Pension will, inevitably, disproportionately affect the most vulnerable in society. The pressures on the sector make it more important for us to ensure that all possible options are considered. That is why I would welcome all contributions as part of a root-and-branch consultation on the proposals to ensure that any measures that we introduce will improve the situation and not cause any further problems in the sector.

 

Bydd unrhyw newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno yn dod ar adeg o bwysau mawr ar y sector, yn enwedig wrth ystyried y newidiadau arfaethedig i’r system budd-daliadau tai sy’n cael eu gorfodi gan San Steffan. Er ein bod wedi lobïo’n helaeth ar y mater, nid yw wedi cael ei ddatganoli a bydd y newidiadau a gynhigir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn anochel, yn effeithio’n anghymesur ar aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Mae’r pwysau ar y sector yn ei gwneud yn bwysicach ein bod yn sicrhau bod yr holl opsiynau posibl yn cael eu hystyried. Dyna pam y byddwn yn croesawu pob cyfraniad fel rhan o ymgynghoriad o’r bôn i’r brig ar y cynigion i sicrhau bod unrhyw fesurau y byddwn yn eu cyflwyno yn gwella’r sefyllfa ac na fyddant yn achosi unrhyw broblemau pellach yn y sector.

 

The private rented sector is, as Joyce Watson mentioned, becoming increasingly important in the current financial climate and will continue to do so as far into the future as we can see. It is playing an important role in meeting housing need, and we need to encourage and support good landlords and reform or drive out the bad. It is more important than ever to ensure that standards are maintained and the sector provides good-quality, decent accommodation for people.

Mae’r sector rhentu preifat, fel y crybwyllodd Joyce Watson, yn dod yn fwyfwy pwysig yn yr hinsawdd ariannol bresennol a bydd yn parhau i fod felly am mor bell i’r dyfodol ag y gallem weld. Mae’n chwarae rhan bwysig wrth ddiwallu’r angen am dai, ac mae angen inni annog a chefnogi landlordiaid da a diwygio neu yrru allan y drwg. Mae’n bwysicach nag erioed i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal a bod y sector yn darparu llety o safon dda a boddhaol i bobl.

 

5.15 p.m.

 

We will be looking at all issues that impact on the private rented sector, and tenure will feature in our deliberations. We have already consulted on a range of measures that will improve standards in the sector, and the former Communities and Culture Committee made several recommendations on the way forward earlier this year. I want to pay tribute to the committee. Its report provides a useful platform, recommending that tenancy agreements should be available in writing, and we recognise that that is important. This also accords with points made by the Law Commission, as a Member mentioned, in its report of 2006, when it looked specifically at tenure.

 

Byddwn yn edrych ar bob mater sy’n effeithio ar y sector rhentu preifat, a bydd deiliadaeth yn rhan o’n trafodaethau. Rydym wedi ymgynghori ar amrywiaeth o fesurau yn barod a fydd yn gwella safonau yn y sector, a gwnaeth y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant blaenorol nifer o argymhellion ar y ffordd ymlaen yn gynharach eleni. Rwyf eisiau talu teyrnged i’r pwyllgor. Mae ei adroddiad yn gyfrwng defnyddiol, yn argymell y dylai cytundebau tenantiaeth fod ar gael yn ysgrifenedig, ac rydym yn cydnabod bod hynny yn bwysig. Mae hyn yn cyd-fynd hefyd â’r pwyntiau a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, fel soniodd Aelod, yn ei adroddiad yn 2006 pan edrychodd yn benodol ar ddeiliadaeth.

 

As you all will know, we are intending to legislate on a range of housing issues, and we will be considering as part of that what can be done to make the private rented sector a decent, desirable option for people. We will of course consult widely on all proposals, but I believe that our feet are firmly set on the road to the first ever Welsh housing Bill, and it is time for a fundamental rethink of our approach to the problems that we face. We will have a look at the way that other parts of the UK have addressed the demands that have been placed on the private rented sector as well, and learn from their best practice, as well as their mistakes. We have sought to make measured improvements in the sector in the past, and have introduced specific measures that have addressed issues that have been raised. Those include things like tenancy deposit protection, and licensing for houses in multiple occupation, as Peter Black touched upon. However, as I say, now is the time for a fundamental, root-and-branch look at the future of the sector—indeed, of all forms of housing—so that we can formulate a way forward that suits Wales. Whatever happens, I think that the contrast with the route that Westminster has embarked upon will be stark. We will be consulting on our proposals in due course and seeking views on how the sector can be improved.

 

Fel y byddwch i gyd yn gwybod, rydym yn bwriadu deddfu ar amrywiaeth o faterion tai, ac fel rhan o hynny byddwn yn ystyried beth ellir ei wneud i wneud y sector rhentu preifat yn opsiwn da a dymunol i bobl. Byddwn wrth gwrs yn ymgynghori yn helaeth ar bob cynnig, ond credwn ein bod ar drywydd cadarn tuag at y Bil tai cyntaf erioed yng Nghymru, ac mae’n amser ailfeddwl yn sylfaenol ein hymagwedd at y problemau a wynebwn. Byddwn hefyd yn edrych ar y ffordd y mae rhannau eraill o’r DU wedi ymdrin â’r galwadau a roddwyd ar y sector rhentu preifat, a dysgu o’u harfer gorau yn ogystal â’u camgymeriadau. Rydym wedi ceisio gwneud gwelliannau mesuredig i’r sector yn y gorffennol, ac wedi cyflwyno mesurau penodol sydd wedi datrys y materion a godwyd. Mae’r rheini yn cynnwys pethau fel diogelu blaendal tenantiaeth, a thrwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth, fel y soniodd Peter Black. Fodd bynnag, fel y dywedais, dyma’r amser i gael golwg sylfaenol o’r bôn i’r brig ar ddyfodol y sector—yn wir, pob math o dai—fel y gallwn lunio ffordd ymlaen sy’n gweddu i Gymru. Beth bynnag sy’n digwydd, credaf y bydd yn cyferbynnu’n llwyr â’r trywydd y mae San Steffan wedi ei ddilyn. Byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion cyn bo hir ac yn ceisio sylwadau ar sut y gellir gwella’r sector.    

Thank you again for raising the issues today. Taking action to improve the private rented sector is one of my priorities and will be a vital part of meeting people’s housing needs.

 

Diolch eto am godi’r materion heddiw. Mae cymryd camau i wella’r sector rhentu preifat yn un o fy mlaenoriaethau a bydd yn rhan allweddol o ddiwallu anghenion tai pobl.

Y Dirprwy Lywydd: Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.

The Deputy Presiding Officer: That concludes our proceedings for today.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.17 p.m.
The meeting ended at 5.17 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)

Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)

Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty
(Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)